Be ddigwyddodd i Gynllun Busnes y Galeri?

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan mam y mwnci » Maw 24 Ion 2006 12:57 pm

Os nad ydynt wedi llwyddo i fod yn hunangynhaliol yn y flwyddyn gyntaf onid yw hi'n deg credu mai dyma fydd y drefn ar ddiwedd pob blwyddyn arianol? Felly a fydd cais (blackmail) yn dod yn flynyddol - mwy o bres neu mi fyddwn ni'n cau? Yntau ydyn nhw yn sicrhau y bydd y flwyddyn nesaf yn wahannol?
"Mae'n fler a does 'run seren
heno i mi uwch fy mhen,
dwi'n geiban,ond yn gwybod
mai yma wyf inna i fod.
Rhithffurf defnyddiwr
mam y mwnci
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 975
Ymunwyd: Mer 30 Gor 2003 8:48 pm
Lleoliad: Dre

Postiogan Blewyn » Maw 24 Ion 2006 1:15 pm

Cath Ddu a ddywedodd:Os di pethau'n OK pam gofyn am arian? :rolio:

Duw, Duw Cath Ddu... :rolio: ....erm mwyn ei gael o, wrth gwrs. Mae mwy bob tro yn well.....felna mae busnes yn gweithio.

Mwy o arian = mwy o sioeau = mwy o weithgareddau = mwy o waith = mwy o gyllid = mwy o turnover = mwy o elw (maint nid canran) = mwy o dal = car mwy i'r bos a ty mwy i'w deulu

Don't ask don't get ia.......
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan Cath Ddu » Maw 24 Ion 2006 1:15 pm

mam y mwnci a ddywedodd:Os nad ydynt wedi llwyddo i fod yn hunangynhaliol yn y flwyddyn gyntaf onid yw hi'n deg credu mai dyma fydd y drefn ar ddiwedd pob blwyddyn arianol? Felly a fydd cais (blackmail) yn dod yn flynyddol - mwy o bres neu mi fyddwn ni'n cau? Yntau ydyn nhw yn sicrhau y bydd y flwyddyn nesaf yn wahannol?


Pwynt da. O ddarllen cyfraniad Galericaernarfon (sy'n gofyn am degwch gyda Theatrau eraill o fewn y Sir) fe dybiaf mai derbyn grant blynyddol yw bwriad rheolwyr y Galeri.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Cath Ddu » Maw 24 Ion 2006 1:17 pm

Blewyn a ddywedodd:.....felna mae busnes yn gweithio.



Tydi 'busnesau' arferol ddim yn gallu gofyn am bail out gan y Cyngor lleol.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Re: Ymateb Galeri Caernarfon

Postiogan Cath Ddu » Maw 24 Ion 2006 1:21 pm

galericaernarfon a ddywedodd:Enwch un Canolfan Celfyddydol trwy'r Deyrnas Unedig sydd yn rhedeg heb rhyw fath o arian cyhoeddus.


Dwi'n rhyfeddu na fu i mi sylwi ar y cyfraniad godidog hwn. :lol:

Onid dyma'r union rheswm pam y bu i Gyngor Gwynedd ofyn am sicrwydd y byddai'r Galeri yn hunangynhaliol?
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Blewyn » Maw 24 Ion 2006 1:24 pm

Cath Ddu a ddywedodd:
mam y mwnci a ddywedodd:Os nad ydynt wedi llwyddo i fod yn hunangynhaliol yn y flwyddyn gyntaf onid yw hi'n deg credu mai dyma fydd y drefn ar ddiwedd pob blwyddyn arianol? Felly a fydd cais (blackmail) yn dod yn flynyddol - mwy o bres neu mi fyddwn ni'n cau? Yntau ydyn nhw yn sicrhau y bydd y flwyddyn nesaf yn wahannol?


Ym, na. Ffordd arall mae'n gweithio fel arfer - mae unrhyw fusnes newydd yn gorfod gwario yn y flwyddyn gyntaf ar bethau fel prynu photocopier, ffendio gweithwyr, talu architect, desg neis efo peth sgwennu lledr i'r bos - pethau fydd yn para mwy na blwyddyn. Ni fydd yn costau yma yn diwgydd yn yr ail flwyddyn. Wrth gwrs mae posib taenu'r costau yma dros nifer o flynyddoedd drwy gymryd benthygiadau ayyb, neu drwy rentio'r photocopier ayyb....ond pam ddiawl wneud hynny pam fedrwch chi gael gwared o'r costau upfront wedyn mynd yn ol i'r cyngor i ofyn am fwy o arian ?

Pwynt da. O ddarllen cyfraniad Galericaernarfon (sy'n gofyn am degwch gyda Theatrau eraill o fewn y Sir) fe dybiaf mai derbyn grant blynyddol yw bwriad rheolwyr y Galeri.

Wrth gwrs. Fel rheolwyr busnes, mi fysant yn edrych yn reit ara-deg petae nhw ddim yn gwneud hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan Blewyn » Maw 24 Ion 2006 1:33 pm

Cath Ddu a ddywedodd:
Blewyn a ddywedodd:.....felna mae busnes yn gweithio.



Tydi 'busnesau' arferol ddim yn gallu gofyn am bail out gan y Cyngor lleol.

Mae PAWB yn gallu gofyn, Cath Ddu. Dim ond rhai sy'n cael, ia, ond un peth sy'n sicr - chei di ddim os na ofynni.

Dwi'n meddwl mai jyst chwarae ydy hyn i gyd - mae'r Galeri yn trio gweld faint o arian fedran nhw gael allan o'r cyngor, a mae'r cyngor yn deall y gem yn iawn ac yn amlwg o'r farn fod y Galeri yn gwneud yn iawn ar ben eu hunain.
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan Cath Ddu » Maw 24 Ion 2006 3:20 pm

Blewyn a ddywedodd:Ym, na. Ffordd arall mae'n gweithio fel arfer - mae unrhyw fusnes newydd yn gorfod gwario yn y flwyddyn gyntaf ar bethau fel prynu photocopier, ffendio gweithwyr, talu architect, desg neis efo peth sgwennu lledr i'r bos - pethau fydd yn para mwy na blwyddyn.


Cywir Blewyn - ond onid dyma pam y bu i Galeri dderbyn grantiau CYFALAF? Er mwyn talu costau CYFALAF?

Gofyn mae y Galeri am gymorth refeniw - sef arian ar gyfer costau bob dydd felly fe dybiaf fod dy wers fusnes i mam y mwnci ychydig allan ohoni yn yr achos dan sylw.

Blewyn a ddywedodd:Wrth gwrs. Fel rheolwyr busnes, mi fysant yn edrych yn reit ara-deg petae nhw ddim yn gwneud hyn.


Petaet yn darllen yr edefyn ychydig yn fwy manwl fe fyddet yn gweld fod y Galeri wedi derbyn grantiau cyfalaf sylweddol tuag at ddatblygu'r ganolfan. Un o amodau Cyngor Gwynedd dros cefnogi cais y Galeri am grantiau (a does neb wedi gwadu hyn) oedd fod y Galeri yn hunan gyllidol. Fe fyddwn yn dadlau fod y rheolwyr yn edrych yn reit ara deg wrth fynd yn
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Cath Ddu » Maw 24 Ion 2006 3:23 pm

Blewyn a ddywedodd:Mae PAWB yn gallu gofyn, Cath Ddu. Dim ond rhai sy'n cael, ia, ond un peth sy'n sicr - chei di ddim os na ofynni.


Ydyn nhw? Felly os di'r dafarn lleol yn gwneud colledion neu'r siop chips mewn trafferthion dy gyngor fyddai iddynt ofyn am achubiaeth gan Gyngor Gwynedd? Diddorol :rolio:

Blewyn a ddywedodd:Dwi'n meddwl mai jyst chwarae ydy hyn i gyd - mae'r Galeri yn trio gweld faint o arian fedran nhw gael allan o'r cyngor, a mae'r cyngor yn deall y gem yn iawn ac yn amlwg o'r farn fod y Galeri yn gwneud yn iawn ar ben eu hunain.


Falle - ond os di'r symiau sy'n sail i drafodaeth yn y dre 'ma'n wir yna pell ohoni yw dy ddamcaniaeth. Cawm weld.
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan Blewyn » Mer 25 Ion 2006 6:35 am

Cath Ddu a ddywedodd:
Blewyn a ddywedodd:Ym, na. Ffordd arall mae'n gweithio fel arfer - mae unrhyw fusnes newydd yn gorfod gwario yn y flwyddyn gyntaf ar bethau fel prynu photocopier, ffendio gweithwyr, talu architect, desg neis efo peth sgwennu lledr i'r bos - pethau fydd yn para mwy na blwyddyn.


Cywir Blewyn - ond onid dyma pam y bu i Galeri dderbyn grantiau CYFALAF? Er mwyn talu costau CYFALAF?

Gofyn mae y Galeri am gymorth refeniw - sef arian ar gyfer costau bob dydd felly fe dybiaf fod dy wers fusnes i mam y mwnci ychydig allan ohoni yn yr achos dan sylw.

Gyda phob parch CathDdu, mae'n ddigon posib fod y Galeri wedi gwario mwy na'u grant ar gyfalaf (neu wedi cyfrifo felly beth bynnag), a t'ydw i ddim yn credu dy fod wedi deud cyn hyn mai gofyn am gymorth cyllid yn benodol oeddynt.

Blewyn a ddywedodd:Wrth gwrs. Fel rheolwyr busnes, mi fysant yn edrych yn reit ara-deg petae nhw ddim yn gwneud hyn.


Petaet yn darllen yr edefyn ychydig yn fwy manwl fe fyddet yn gweld fod y Galeri wedi derbyn grantiau cyfalaf sylweddol tuag at ddatblygu'r ganolfan. Un o amodau Cyngor Gwynedd dros cefnogi cais y Galeri am grantiau (a does neb wedi gwadu hyn) oedd fod y Galeri yn hunan gyllidol. Fe fyddwn yn dadlau fod y rheolwyr yn edrych yn reit ara deg wrth fynd yn
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai

cron