Cath Ddu a ddywedodd:Blewyn a ddywedodd:Gyda phob parch CathDdu, mae'n ddigon posib fod y Galeri wedi gwario mwy na'u grant ar gyfalaf (neu wedi cyfrifo felly beth bynnag), a t'ydw i ddim yn credu dy fod wedi deud cyn hyn mai gofyn am gymorth cyllid yn benodol oeddynt.
Mae fy nghyfraniad cyntaf i'r edefyn hwn yn datgan fod y Galeri yn gofyn am gymorth ariannol gan Gyngor Gwynedd
Ond nid cymorth cyllid (revenue) yn benodol ?
Blewyn a ddywedodd:Mae'n dibynnu os ydy'r cais am fwy o arian yn gais trwyn-galed busnes i gael mwy o arian cyhoeddus yn syml er mwyn ei gael o, neu canlyniad o wir fethiant y busnes. Hyd yn oed os ydy'r Galeri yn llwyddo, os fedrant wneud i'r busnes edrych yn salach nag y mae o er mwyn cael mwy o grantiau, mae'n gwneud sens. T'ydy mynd yn ol ar rhyw gentleman's agreement o fod yn gyllidol ddim yn effeithio'r llinell isa, a felly ddim yn linyn mesur.
Dim syniad be ti'n drio ddweud fan yma. Ai awgrymu twyll fel tacteg fusnes wyt ti?
[/quote]
Mae hyn fel gofyn os ydy cicio pel yn dacteg rygbi.....t'ydw i ddim yn deall be ti ddim yn deall am hyn. Os fedr y cyfrifon ddangos fod y cwmni yn lwyddiant, mae hynny'n adlewyrchu'n dda ar y rheolwr - ond os fedr y rheolwr gael mwy o arian trwy gyfrifo mewn ffordd (cyfreithiol) sy'n dangos colled, efallai wneith o ddewis hynny er mwyn adeiladu'r cwmni yn gyflymach.