Dave Thomas a ddywedodd:Oes eglurhad syml wedi ei gynnig am y sefyllfa yma e.e. ddim digon o gwsmeriaid?
Onid rhan allweddol o unrhyw Gynllun Busnes fyddai asesu maint y cynulleidfaoedd + defnyddwyr fyddai'n cael eu denu?
Hyd yma ni chafwyd eglurhad syml gan Gwmni Tref Caernarfon ond o ystyried fod y cynllun wedi cael yr OK yn dilyn cyflwyno Cynllun Busnes oedd yn
profi fod y datblygiad yn hyfyw mae lle i greu fod yr asesiad o'r cynllun busnes a/neu y Cynllun Busnes yn ddiffygiol.
O ran cyfraniad GT - byddai sgwrs gyda'r AC lleol a'r cyn AS lleol efallai yn taflu goleuni ar y modd y bu i'r Cynlun Busnes gael ei dderbyn. Ti'n nabod nhw'n well na fi