SbecsPeledrX a ddywedodd:Mae'r sustem sydd yno i edrych ar ol "y bobl yma" (h.y. chdi a fi) dim ond mewn bodolaeth oherwydd pwysau gan weithwyr a'u cynrychiolwyr yn y gorffenol. Cyfaddawd gyda ni gan y cyfalafwyr ydynt er mwyn atal y gweithwyr a'u arweinwyr rhag "mynd yn rhy bell" pan fo gennym y llaw uchaf. Ond nid yw'r cyfalafywr yn chwarae i'r un rheolau teg ac yr ydym ni. Unwaith mae ganddynt y llaw uchaf unwaith yn rhagor maent yn cwtogi ac yn torri'r wladwriaeth lles, gwasanaeth iechyd, ein cyflogau a'n hawliau er mwyn cael cynyddu eu elw unwaith eto. Gwendid y sustem ac nid methiant o'r sustem yw er engraifft cyflwr gwael y gwasanaeth iechyd. Nid yw'r bossys yn fodlon talu cost iawn gwasanaeth iechyd cyflawn achos mae'n golygu ychydig yn llai o'r gacen i'r rhai cefnog cyfoethog sy'n penderfynnu sut fydd y gacen yn cael ei rannu. Petai'r wlad yn nwylo'r bobl yn lle yn nwylo ryw cabal bach yna byddai llai o arian yn cael ei wastraffu ar arfau niwclear na fyddwn byth yn eu defnyddio ac mwy ar y gwasanaethau sy'n bwysig i drwch y boblogaeth.
Dwi'n ei chael hi'n anoddach i ymateb i dy sylwadau di bob tro, gan dy fod di yn llithro ymhellach a phellach i mewn i ffantasi. Treth-dalwyr cyffredin a nid "y bosus" sydd yn gyfrifol am ariannu'r gwasanaeth iechyd. Ac mae gwrthwynebiad i godi trethi uwch llawn cyn gryfed ymysg dy ddosbarth gweithiol arwrol di ac ydi o ymysg "y bosus".
A be ydi'r "gacen" 'ma ti'n ei thrafod? Toes 'na ddim un ffynhonell ganolog o gyfoeth sy'n cael ei rannu gan "y bosus" yn ol eu mympwy eu hunain. Mi yda ni i gyd yn cael ein cyflogi yn ol ein cyfraniad - ti'n gyfarwydd efo'r slogan "
a fair day's work for a fair day's pay", dwi'n siwr.
Yn hytrach na ymhelaethu ar dy
wet dream sosialaidd, be am drio esbonio be fyddai rhai o bolisiau y blaid asgell chwith chwyldroadol yma?