Pam bo angen plaid genedlaethol chwyldroadol asgell chwith

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Garnet Bowen » Sul 19 Chw 2006 7:48 pm

SbecsPeledrX a ddywedodd:Wrth gwrs bod - paid bod yn fwriadol dwp. Ni sy'n creu y cyfoeth - petawn ni'n stopio ei greu byddai dim i'w rhannu. Mae hwna'n cryfhau nid gwanhau'r ddadl am sosialaeth. Byddwn ni'n gweithio er ein budd ein hunain, nid er mwyn i cachgi o parasite dyfu'n dew ar ein cefnau. Jesus - son am you can't educate pork! Dwi am gadw allan o'r edefyn yma am chydig rwan, nes fo fy mhwysedd gwaed yn mynd nol lawr i lefel call!


Ond mae gen ti ddau safbwynt sy'n gwrthdaro yn erbyn eu gilydd. Ar un llaw, ti'n deud fod gan berson hawl i eiddo. Ond ar y llaw arall, ti'n son am weithio er ein budd ein hunain. Ond beth sy'n digwydd i'r rhai sydd yn gwrthod gweithio? Ydy nhw yn colli eu hawl i eiddo? Ta ydyn nhw yn cael eu gorfodi i weithio?
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan GT » Llun 20 Chw 2006 10:07 am

Efallai fy mod yn anghywir yma, ond 'dwi'n rhyw gredu bod gwahaniaeth sylfaenol yma rhwng dehongliad Garnet o beth ydi cyfoeth a dehongliad Sbex.

I Sbex mae perthynas glos rhwng adnoddau a chyfoeth, ac mae dosbarthu adnoddau yn deg yn ffordd o ddosbarthu cyfoeth yn deg.

I Garnet ymddygiad economaidd pobl, ac nid adnoddau sy'n creu cyfoeth. Os mai dyma'r gwir mae dosbarthiad mae dosbarthiad cwbl deg o gyfoeth yn anos o lawer.

'Dwi'n tueddu i ochri efo Garnet yma (mae'n rhyfedd iawn clywed fy hun yn dweud hyn :winc: )- er bod llawer y gellir ei wneud yn y gymdeithas a'r byd yr ydym yn byw ynddynt i'w gwneud yn decach.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan SbecsPeledrX » Llun 20 Chw 2006 10:14 am

Hyd yn oed os nad wyt ti wedi cytuno efo fo - ti wedi deall y pwynt oni'n trio ei wneud yn iawn GT. Ella mae fy newis i o eiriau yn y Gymraeg creodd y dryswch - doni wir methu gweld sut nad oedd modd deall. Fedrai wir ddim gweld sut bo gwahaniaeth rhwng cyfoeth cymdeithas ac adnoddau cymdeithas.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan Garnet Bowen » Llun 20 Chw 2006 10:18 am

Twyt ti heb ateb fy nghwestiwn i chwaith, Spex.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Garnet Bowen » Llun 20 Chw 2006 10:26 am

GT a ddywedodd:I Garnet ymddygiad economaidd pobl, ac nid adnoddau sy'n creu cyfoeth. Os mai dyma'r gwir mae dosbarthiad mae dosbarthiad cwbl deg o gyfoeth yn anos o lawer.

'Dwi'n tueddu i ochri efo Garnet yma (mae'n rhyfedd iawn clywed fy hun yn dweud hyn :winc: )- er bod llawer y gellir ei wneud yn y gymdeithas a'r byd yr ydym yn byw ynddynt i'w gwneud yn decach.


Dwi'n meddwl fod y berthynas rhwng adnoddau craidd - e.e. tir, glo, defaid - a cyfoeth wedi dadfeilio dros y 200 mlynedd diwethaf. Yr un pryd, mae mwy o'r pethau oedd yn cael eu hystyried yn fraint - gofal iechyd, addysg dda, safety net cymdeithasol - wedi dod yn fwy cyffredin. Mae hyn wedi arwain at sefyllfa lle mae hi'n haws i unigolion difreintiedig lwyddo yn y byd.

Fel dwi wedi nodi eisioes, dwinna'n meddwl fod angen gwella pethau eto. Ond dwi'n cydnabod mai'r system bresenol sydd wedi rhoi mwy o rym yn nwylo'r haen dlotaf o gymdeithas. I mi, mae hi'n hunan amlwg mai drwy wella ar y system bresenol - drwy greu ffynniant economaidd, a'i gyplysu a gwell gwasanaethau cyhoeddus - mae sicrhau cymdeithas decach.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan GT » Llun 20 Chw 2006 10:27 am

SbecsPeledrX a ddywedodd:Hyd yn oed os nad wyt ti wedi cytuno efo fo - ti wedi deall y pwynt oni'n trio ei wneud yn iawn GT. Ella mae fy newis i o eiriau yn y Gymraeg creodd y dryswch - doni wir methu gweld sut nad oedd modd deall. Fedrai wir ddim gweld sut bo gwahaniaeth rhwng cyfoeth cymdeithas ac adnoddau cymdeithas.


Na, nid ymateb i'r pwynt unigol hwnnw oeddwn i.

Dweud ydw i bod mwy o lawer i greu cyfoeth na gwneud defnydd o adnoddau. Mae gan Nigeria ddigon o adnoddau - ond ychydig o gyfoeth. 'Does gan Singapore ddim adnoddau - ond mae ganddynt gyfoeth.

Mae'r naill wlad yn creu dim cyfoeth allan o lawer o adnoddau, mae'r llall yn creu llawer o gyfoeth allan o ddim adnoddau. Pam?
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Blewyn » Maw 21 Chw 2006 1:20 pm

SbecsPeledrX a ddywedodd:I dy ateb di Blewyn. Byddwn i'n deud fod bod yn 'human being' mewn byd modern efo digon o adnoddau i gartrefu pawb yn ddigon i rhoi 'hawl' i ti beidio a bod yn ddigartref.


Nonsens llwyr. Os ydy dy deulu di'n byw mewn ogof, a mae'na deulu arall wedi adeiladu ty mawr drws nesa, d'oes gen ti ddim hawliau ar ystafell neu ddwy yn y ty ! Mae'n rhaid i ti adeiladu ty dy hun...

Wrth gwrs t'ydy o ddim mor syml a hyn....a dwi'n cytuno yn llwyr y dylian ni gydweithredu fel cymdeithas i wneud yn siwr fod pawb yn derbyn y fraint o fyw mewn cartref...yn enwedig gan fod pob darn o dir wedi ei hawlio gan rhywun. Y cwestiwn wedyn ydy sut i ddosbarthu cartrefi a beth i'w fynnu oddiwrth y rhai sy'n derbyn ?
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Postiogan Blewyn » Maw 21 Chw 2006 1:48 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:A gan ein bod ni rwan yn byw mewn byd hollol orffenedig, mae'n bryd i ni anghofio am gyfalafiaeth? Ti'n hollol gywir pan wyt ti'n nodi mai cyfalafiaeth sy'n gyrru progress.

Ymmmm....siwr am hyn ? Beth sy'n digwydd pan mae corff gyfalafol yn ennill gymaint o rym fel bo cystadleuaeth yn cael ei rwystro ? Er enghraifft, ydy Microsoft heddiw yn hybu gwelliant, ta ei rwystro ? Dwi'n meddwl ei fod yn rhy syml o lawer i ddweud mai cyfalaf sy'n hybu gwelliant. Ychydig iawn o welliant da ni wedi ei weld o ran ceir modur, er enghraifft, dros y chwarter-canrif diwethaf, a mae hyn yn ganlyniad uniongyrchol o gyfalafiaeth.
Rhithffurf defnyddiwr
Blewyn
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 762
Ymunwyd: Sad 31 Gor 2004 12:47 pm
Lleoliad: Brisbane, Queensland, Straya Mate

Nôl

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai

cron