Tudalen 1 o 14

Pam bo angen plaid genedlaethol chwyldroadol asgell chwith

PostioPostiwyd: Mer 25 Ion 2006 3:46 pm
gan SbecsPeledrX
Oni'n gyrru nol at y ffin o Aberystwyth bore 'ma ac yn gwrando ar Ralph Mc Tell. Nath o fy atgoffa o chydig o brofiadau dwi wedi eu cael yn yr wythnos diwethaf.

Dwi'n gweithio i fi fy hun, ond mae hanner fy nghwaith yn dwad drwy is-gontractio i cwmni mawr prydeinig yn Birmingham - sy'n cael trwch y gwaith Saer Clo gan eu bod yn gallu fforddio hysbysebion mawr yn y Llyfr ffon, tudalenau melyn ayb.

Ges i alwad i adael hen ddyes oedd yn dechrau colli ei meddwl i fewn i'w thy ar noson oer ryw fis yn dol. Roedd hi'n hwyr y nos, ac ar ol gadael hi fewn nath hi drio talu fi efo'i llyfr swyddfa post - ac bu rhaid i mi esbonio iddi nad oedd y swyddfa post ar agor amser yma'r nos. Ffonies i'r cwmni ac mi naetho nhw ddeud wrthai i fynd a'i theledu fel sicrwydd y byddai'n fy nhalu fory. Mi glywodd hi a dechrau crio. Ar ol i mi wrthod fe wnaethon nhw deud na chai waith ganddynt byth eto. Digon teg - dwi'm isio bod yn bailiff i ffycars felna. Hwn oedd yr ail dro iddi cloi ei hun allan ac roedd ryw fandit wedi codi

PostioPostiwyd: Mer 25 Ion 2006 4:23 pm
gan Sioni Size
Neges, a straeon, anhygoel.
Mae costau byw wedi ei gerio i'r rhai sy'n ennill

PostioPostiwyd: Mer 25 Ion 2006 4:55 pm
gan Cardi Bach
Ma eco go gryf o waith Connolly yn dy lith di uchod Sbex.
Ddarllenes i dwr o waith Connolly tra yn y coleg, a fe yw un o'n ysbrydolieithe gwleidyddol mwya (er nag alla i gytuno ai gamau treisiol yn 1916).

Madde i fi weud, ond sdim byd chwyldroadol yn y gwleidyddiaeth uchod - neu, sori ma hwnna'n anheg - sdim byd newydd (sy'n gweud y cwbwl, rili) - ond, ai, o'i gymharu a gwleidyddiaeth Blair a Cameron et al mae e yn chwyldroadol, sbo.

PostioPostiwyd: Mer 25 Ion 2006 8:41 pm
gan Garnet Bowen
Dwi'n cytuno fod y straeon ti'n eu crybwyll uchod yn rhai trist a gwarthus. Ond methiant y system bresenol sy'n gyfrifol am hyn, yn hytrach na'r system ei hun. Oes, mae angen mwy o fuddsoddiad yn ein gwasanaethau gofal. Ac oes, mae angen gwasanaeth iechyd sydd yn gweithio yn iawn. Ond toes 'na ddim angen plaid chwyldroadol asgell chwith i frwydro dros y petha' yma.


Gyda llaw, dwi'n anghytuno'n llwyr efo chdi ynglyn a lwfans a chyflog aelodau etholedig. Mae'n rhaid i wleidyddiaeth fod yn yrfa ddeniadol i bobl mwya' disglair Cymru, yn hytrach na dim ond galwedigaeth.

PostioPostiwyd: Mer 25 Ion 2006 10:33 pm
gan SbecsPeledrX
Yn gynta well i mi esbonio nad llith yn erbyn athrawon, doctoriaid a cyfreithwyr oedd yr uchod i fod. Tries i feddwl yn ofalus cyn ysgrifennu ond mi oedd rhaid i mi adael i fynd ar job a nes i frysio'r paragraffau olaf. Dwi'n deuddol o ddefnyddio "dosbarth canol" fel ryw fath o "insult" cyffredinol - dyw hynnu ddim yn iawn.

Mewn gwirionedd does dim ffashiwn peth a dosbarth canol. Snob yw unrhywun sy'n diffinio eu hunain fel dosbarth canol. Os ydi unigolyn yn gaeth i gyflog - ac yn gweithio am gyflog - hyd yn oed yn hunan gyflogedig yna mae'n dosbarth gweithiol. Dau ddosbarth sydd, y rhai sy'n gweithio a'r rhai sy'n byw'n fras ar ein cefnau drwy bod yn berchen ar y ffatrioedd, tai a thir. Os wyt ti ar ein hochr ni, ti'n ddosbarth gweithiol - beth bynnag dy alwedigaeth.

Label ydi dosbarth canol i brynnu off elfenau o'r unig ddosbarth sydd

PostioPostiwyd: Mer 25 Ion 2006 11:36 pm
gan Garnet Bowen
Dwi ddim am fynd i'r afael efo dy ddadansoddiad di o'r system ddosbarth ym Mhrydain, gan mod i'n credu fod hono yn ddadl faith arall.

SbecsPeledrX a ddywedodd:
Garnet Bowen a ddywedodd:Methiant y system bresenol sy'n gyfrifol am hyn, yn hytrach na'r system ei hun.


Sut nad yw cyfalafiaeth yn gweithio i'r cyfalafwyr? Mae'r sustem yn gweithio'n iawn ond sustem pwdr, sydd yn ei hanfod yn anheg yw hi. Yr ariannog sydd yn ein rheoli a'u unig diddordeb nhw yw gwneud mwy o bres. Yr unig amser maen't yn cyfaddawdu gyda ni a rhoi pethau tebyg i sustem les, gwasaneth iechyd yw dan bwysau - ee yng nghwyneb y tonnau chwyldroadol aeth o gwmpas Ewrop wedi'r ddau rhyfel byd.


Dwi ddim yn gweld sut ti'n medru priodi y ddwy engrhaifft dorcalonus ti wedi eu rhestu uchod efo "system bwdr sydd yn ei hanfod yn anheb". Yn yr enghraifft gyntaf, mi oedd gen ti ddynes oedd yn rhy hen i edrych ar ei hol ei hun, a gwasaneth cyhoeddus oedd yn rhy brin o arian - neu yn gwario arian yn y ffordd anghywir - i fedru ei chynorthwyo. Ac mi oedd dy ail engrhaifft - dy gyfaill yn dioddef yn yr ysbyty - yn ddigon tebyg, sef gwasanaeth cyhoeddus aneffeithlon yn methu a darparu gofal ar gyfer unigolyn. Mae 'na "system" yn bodoli i edrych ar ol y bobl yma - y gwasanaethau cyhoeddus - ond mae nhw wedi eu rhedeg yn wael, a mae'r unigolion gwanaf yn dioddef o'r herwydd. Felly, methiant y system, a nid system bwdr, sydd yn gyfriol am ddioddefaint y bobl yma.




SpexPeledrX a ddywedodd:
Garnet Bowen a ddywedodd:Gyda llaw, dwi'n anghytuno'n llwyr efo chdi ynglyn a lwfans a chyflog aelodau etholedig.

Wel ti'n anghywir. Beth wyr gwleidydd ar

PostioPostiwyd: Iau 26 Ion 2006 12:18 pm
gan Rhods
Ma syniad o gael blaid Trotskyte Gymreig yn hollol boncyrs!!!! :lol: :lol: :lol: Ma ishe i bobl byw yn y byd real a dim mewn rhyw byd ffantasi!!!!! Dewch nawr, chi Champagne Socialists!!!!! :lol: :lol: :lol:

PostioPostiwyd: Iau 26 Ion 2006 1:16 pm
gan SbecsPeledrX
Byddwn i'n deud bo Sosialwyr YN byw yn y byd iawn Rhods. Dyna be sy'n siapio ein daliadau - dyna beth sy'n ein deffro i paint mor rong ydi'r sustem sydd mewn bod ar hyn o bryd.

PostioPostiwyd: Iau 26 Ion 2006 1:33 pm
gan SbecsPeledrX
Garnet Bowen a ddywedodd: Mae 'na "system" yn bodoli i edrych ar ol y bobl yma - y gwasanaethau cyhoeddus - ond mae nhw wedi eu rhedeg yn wael, a mae'r unigolion gwanaf yn dioddef o'r herwydd. Felly, methiant y system, a nid system bwdr, sydd yn gyfriol am ddioddefaint y bobl yma. .


Mae'r sustem sydd yno i edrych ar ol "y bobl yma" (h.y. chdi a fi) dim ond mewn bodolaeth oherwydd pwysau gan weithwyr a'u cynrychiolwyr yn y gorffenol. Cyfaddawd gyda ni gan y cyfalafwyr ydynt er mwyn atal y gweithwyr a'u arweinwyr rhag "mynd yn rhy bell" pan fo gennym y llaw uchaf. Ond nid yw'r cyfalafywr yn chwarae i'r un rheolau teg ac yr ydym ni. Unwaith mae ganddynt y llaw uchaf unwaith yn rhagor maent yn cwtogi ac yn torri'r wladwriaeth lles, gwasanaeth iechyd, ein cyflogau a'n hawliau er mwyn cael cynyddu eu elw unwaith eto. Gwendid y sustem ac nid methiant o'r sustem yw er engraifft cyflwr gwael y gwasanaeth iechyd. Nid yw'r bossys yn fodlon talu cost iawn gwasanaeth iechyd cyflawn achos mae'n golygu ychydig yn llai o'r gacen i'r rhai cefnog cyfoethog sy'n penderfynnu sut fydd y gacen yn cael ei rannu. Petai'r wlad yn nwylo'r bobl yn lle yn nwylo ryw cabal bach yna byddai llai o arian yn cael ei wastraffu ar arfau niwclear na fyddwn byth yn eu defnyddio ac mwy ar y gwasanaethau sy'n bwysig i drwch y boblogaeth.


Garnet Bowen a ddywedodd:Mae rhedeg gwlad - neu ranbarth, neu gyngor dosbarth - yn gamp anhygoel o anodd.
Chwedl y rhai sy'n cael cyflogau bras am wneud. Fedrai weld efo fy llygaid fy hun beth sy'n bod efo'r byd. Ac mi fedar pawb arall hefyd. Dydi cyflogau dda am rhedeg cyngor ddim i'w weld wedi stopio'r hwch fynd drwy'r siop mewn llawer i gyngor, ac dyw Cymru ddim fel ei bod hi'n cael ei lywodraethu'n dda iawn rwan er y cyflogau bras.

Y rheswm am hyn yw bo'r bobl mewn grym yn rheoli yn enw eu dosbarth eu hunain. Mae'r wlad yn cael ei rhedeg yn dda os wyt ti'n rupert murdoch. Mae'r cyflogau bras yn troi'r bobl yma i fewn i rhan o'r sustem, yn eu phrynnu ac yn eu atal rhag wneud yr hyn sydd ei hangen. (Fel brwydro i ddymchwel yr ymerodraeth neu i rhannu'r gacen yn decach) Dim ots beth yw daliadau rhywun wrth gael ei ethol os nad yw'n aros ar yr un lefel a'r rhai mae o i fod i'w gynrychioli mae'n troi yn twat. Gweler Dafydd El, John Marek a George Galloway a cymharwch y tri efo Tommy Sheridan yn yr Alban.

PostioPostiwyd: Iau 26 Ion 2006 1:34 pm
gan Aran
Garnet Bowen a ddywedodd:Mae'n rhaid i wleidyddiaeth fod yn yrfa ddeniadol i bobl mwya' disglair Cymru, yn hytrach na dim ond galwedigaeth.


Wrth sbia ar wleidyddion y Cynulliad, mae'n ymddangos bod talu'n fawr heb lwyddo i ddenu'r 'bobl mwya' disglair' hyd yn hyn.

Hen bryd i wleidyddion cael y cyflog cyfartal, a gwneud y swydd oherwydd awydd diffuant i wasanaethau eu gwlad a'i phobl.