Aran a ddywedodd:rabscaliwn a ddywedodd:Dydw i erioed wedi gweld 70,000 o bobl yn troi lan i weld dyn bins wrth ei waith.
Mi fyddet ti'n gweld 70,000 a mwy o bobl yn ddiawledig o anhapus tasai'r dyn bins ddim wrth ei waith.
Erioed wedi gweld 70,000 o bobl yn troi allan i wylio llawfeddyg wrthi'n rhoi triniaeth ar y galon 'chwaith. Mae'n rhaid bod peldroedwyr yn bwysicach i ni na meddygon, felly.
Ti'n methu y pwynt. Tydi pobl - fel rheol - ddim yn cael eu talu yn ol eu pwysigrwydd, na chwaith eu cyfraniad i gymdeithas. Mae nhw'n cael eu talu yn ol y cyfraniad mae nhw'n ei wneud i'r cwmni mae nhw'n gweithio iddo - yn achos y pel-droediwr, clwb pel-droed yn yr Uwch-Gyngrhair.
Wrth gwrs, mae llawfeddyg ychydig yn wahanol, gan mai y wladwriaeth sy'n ei gyflogi, a nid cwmni preifat. Ond mae'r pwynt ynglyn a'r pel-droediwr yn aros - mesur o'i gyfraniad economaidd, yn hytrach na'i gyfraniad cymdeithasol, ydi ei gyflog.