Aran a ddywedodd:Ydy dyn bins yn cael cyflog seiliedig ar faint o bres mae o'n gwneud i'w gyflogwr? Nac ydi. Am hynny, ydy swyddog Cyngor Sir yn cael cyflog seiliedig ar faint o bres mae o'n gwneud i'w gyflogwr? Nac ydi.
Yn y ddau achos, maen nhw'n cael eu cyflogi seiliedig ar eu gallu i wneud y gwaith, ac ar yr angen am y gwaith.
Mi ydw i'n wirioneddol gredu dy fod di wedi cam-ddallt be o'n i'n trio ei ddeud. Mae 'na dipyn o
crossed-wires rhyngtho ni, dwi'n meddwl.
Deud wnes i fod cyflog dyn bins yn adlewyrchiad o'i gyfraniad i'r cwmni. Tydi hynny ddim yn golygu ei fod yn adlewyrchiad union - "Mi wnaeth Huw Jos 8% o'r gwaith wythnos yma, felly mi geith o 8% o'r elw" - na chwaith yn adlewyrchiad teg. Ond mae o'n dal yn adlewyrchiad. Hynny yw - "Huw Jones, yn fy marn i, ydi'r 7fed person pwysicaf yn y cwmni. Felly mi geith o y 7fed cyflog mwyaf". Mae hyn yn sylfaenol wahanol i dy ddatganiad di, sef bod pobl yn cael eu talu yn "seiledig ar faint o bres mae nhw'n gwneud i'w cyflogwyr".
A dwi'n meddwl fod y ffordd yma o osod cyflog yn gyffredin i bob cyflogwr, boed hynny yn y sector gyhoeddus neu breifat.
Y pwynt canolog yn be oeddwn i'n ei ddeud yn wreiddiol oedd mai am eu cyfraniad i gwmni, neu sefydliad, mae pobl yn cael eu talu, nid am eu cyfraniad i gymdeithas.
Aran a ddywedodd:Felly mae gan bawb gyfle i gael swydd sydd - ar ei gwaethaf - yn talu digon i fedru byw bywyd reit dda
yn awgrymu dy fod ti'n byw mewn bybl. Sut felly bod pobl ifanc yng Ngwynedd yn methu fforddio cartrefi os ydyn nhw'n llwyddo i fyw 'bywyd reit dda'?
Wyt ti o ddifri? Wyt ti'n meddwl fod y ffaith na fedr pobl ifanc
fuddsoddi mewn eiddo yn fesur o dlodi? Dwi'n cydnabod fod diffyg tai fforddiadwy yn fater o bryder, ond tydi o ddim cweit yn cyfiawnhau dymchwel cymdeithas. Dwi'n sdicio at fy natganiad gwreiddiol. Wrth gwrs y medri di fyw 'bywyd reit' dda heb fod yn berchen ar dy - mae rhannau helaeth o Ewrop yn llwyddo i wneud yn iawn.
Aran a ddywedodd:Mae dy ddadansoddiad o lwyddiannau ein cymdeithas yn rhyfeddol o rosynllyd, ac yn osgoi son am lefelau dyled uwch nag erioed o'r blaen, am bobl sydd yn aros (am byth, weithiau) am wasanaeth meddygol, am bobl sydd ddim yn cael eu cyfrif fel 'allan o waith' am eu bod yn rhan o 'gynllun hyn neu'r llall' neu am eu bod yn cael pres pitw mewn swydd rhan amser yn Asda ayyb ayyb. Gwyn dy fyd!
Gwyn
fy myd? Y rhain ydi problemau mawr cymdeithas? Lefelau uchel o ddyled? Gorfod gweithio yn Asda? Bw-hw,
poor little rich kid ddeuda i. Pam na wnei di ychwanegu codi'r
roundabout yn Bontnewydd at dy restr o anghyfiawnderau'r byd?
Aran a ddywedodd:Ond beth am fynd yn ol at y cwestiwn wnest ti osgoi - wyt ti'n meddwl ei fod yn ddefnydd doeth o adnoddau cymdeithas i dalu peldroedwyr yn fwy na nyrsys?
Mae'r cwestiwn yma yn nonsens. Adnoddau cymdeithas ydi'r pethau 'da ni i gyd yn berchen arnyn nhw - sef eiddo y llywodraeth ac arian y trethdalwyr. Tydi peldroedwyr ddim yn cael eu talu allan o adnoddau cymdeithas. Adnoddau y clwb pel-droed sy'n talu ei gyflog o.