Mae hyn wedi bod yn datblygu ersdalwm, wrth gwrs, ac wedi dod i amlygrwydd pendant efo 'rhyfel yn erbyn terfysgaeth' America. Mae Israel yn gwrthod ufuddhau i 21 o resolutions y Cenhedloedd Unedig, heb unrhyw come-backs. Mae Irac yn datblygu arfau dinistr eang (yn ol y son), ond yr unig reswm mae yn gallu gwneud ydi am fod Prydain ac America wedi mynnu cadw hawliau gwledydd i ddatblygu arfau o'r fath. Mae Irac yn datblygu arfau niwcliar (yn ol y son). Sut y mae'n gallu gwneud hyn? Am fod Prydain ac America wedi rhoi veto ar bendefyniad y Cenhedloedd Unedig i wahardd y defnydd o arfau niwcliar fel 'last resort' i amddiffyn bodolaeth gwladwriaeth. Nid yw Saddam yn gwneud dim yn anghyfreithlon (yn y maes yma), heblaw ei fod yn fwtsiar sydd wedi defnyddio arfau cemegol yn erbyn y Kwrdiaid, wrth gwrs. Ond nid dyna yw'r rheswm mae'r Iancs a'r Brits yn roi dros fygwth ymosod.
Digon i fwydo trafodaeth yn fanna, a mae llawer mwy o engreifftiau o'r New World Order yn cael gneud be y mynnant tra mae'r 'undesirables' yn cael eu bomio.
Ond be sydd wedi sbarduno y pwnc yma gennyf yw Rwsia. Mae'r gwarchae yn y theatr ym Moscow yn cael ei ddisgrifio fel 'terrorist attack'. Bron gant a hanner o bobl wedi eu lladd gan filwyr Rwsia, a maent yn trio portreadu hyn fel '9:11 Rwsia', er mwyn cadw'r New World Order yn un darn. Y gwir yw wrth gwrs bod gwrthryfelwyr Chechnya wedi eu gorfodi i wrthryfela oherwydd rhyfel wleidyddol Putin yn eu gwlad. Mae'r weriniaeth isio torri'n rhydd yn unol a barn ddemocrataidd y Chechnyaid. Ond dim parchu y farn yma mae'r gorllewin ond cefnogi yn gyhoeddus y gwaith budr mae byddin Rwsia yn wneud yno - lladd miloedd, rape, llofruddio, torture, cyflafan, mass graves etc, etc. Erchyllterau yn erbyn bobl ddiniwed. Tra y cafodd y Serbiaid eu bomio'n shitrwts am yr un peth, mae Rwsia yn cael pob cefnogaeth cyhoeddus - o lawr Senedd Prydain Fawr a America. Eu canmol am eu 'gwaith da yn erbyn terfysgaeth'!!! Eu llongyfarch am fwrdro cant a hanner o'u pobl eu hunain, a mwrdro terfysgwyr tra roeddynt yn cysgu dan effaith y nwy.
Mae llawer o bwyntiau (am y berthynas hon efo Rwsia, ac am y 'rhyfel yn erbyn terfysgaeth' yn y byd ehangach) ond mae hyn yn ddigon am rwan - i ysgogi trafodaeth yma. Yn fy marn i dyma y New World Order ar waith. Behave or be killed.
Drosodd i chi...