Tudalen 1 o 9

Galw am Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd...

PostioPostiwyd: Mer 15 Maw 2006 9:52 pm
gan Huw Psych
Mae rhywbeth ar goll yma yng Nghaerdydd i fyfyrwyr Cymraeg...does ganddo ni ddim undeb! Does neb yma sydd yn sefyll dros hawliau i'r iaith Gymraeg.

A oes angen undeb i fyfyrwyr Cymraeg Caerdydd? Sut fyddai mynd ati i sefydlu'r fath beth? Os gwelwch yn dda trafodwch yma!

PostioPostiwyd: Mer 15 Maw 2006 11:00 pm
gan Hedd Gwynfor
Credu fod hwn yn syniad da iawn. Ma UMCA a UMCB yn gweithio yn dda yn Aber a Bangor, gan fod Swydd y Llywydd yn un Sabathol ar fwrdd rheoli yr undeb brif-ffrwd, ond fe wnaeth y 2 ddechrau yn hollol annibynol.

Y man cychwyn ydy sefydlu Undeb Annibynol ymysg y myfyrwyr Cymraeg, sicrhau t

PostioPostiwyd: Mer 15 Maw 2006 11:09 pm
gan huwcyn1982
Mae 'na wir angen un, oherwydd ma' darpariaeth deunydd Gymraeg o gwmpas adeilad yr undeb a'r adeiladau eraill yn warthus. Ch'mod, dyw'n Gymraeg i ddim yn arbennig ond dwi ddim yn gal fy nhalu i gyfieithu!

Nes i gwyno bo dim rhaglen Gymraeg ar Xpress Radio, sef orsaf yr undeb. A nawr ma da fi'r unig rhaglen Gymraeg.... Felly Huw Psych, falle ma'n amser i ti sefydlu'r undeb 'ma :D

Aelod rhif un yn ishte fan hyn!

PostioPostiwyd: Iau 16 Maw 2006 12:48 am
gan Geraint Edwards
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Credu fod hwn yn syniad da iawn. Ma UMCA a UMCB yn gweithio yn dda yn Aber a Bangor, gan fod Swydd y Llywydd yn un Sabathol ar fwrdd rheoli yr undeb brif-ffrwd, ond fe wnaeth y 2 ddechrau yn hollol annibynol.

Y man cychwyn ydy sefydlu Undeb Annibynol ymysg y myfyrwyr Cymraeg, sicrhau t

PostioPostiwyd: Iau 16 Maw 2006 12:53 pm
gan Cymro13
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Ma UMCA a UMCB yn gweithio yn dda yn Aber a Bangor


UMCB yn gweithio'n dda!!! Sai'n meddwl ar hyn o bryd

Anyway da iawn fod Caerdydd yn deffro-Roedd lot o bobl Caerdydd yn cwyno cwpwl o flynyddoedd yn ol fod UMCA yn ceisio pwyso Undeb ar Gaerdydd ond ma'r ffaith fod Myfyrwyr Caerdydd yn galw am un yn profi fod wir angen un-Yn enwedig ar ol gweld y Brotest Addysg Gymraeg yng Nghaerdydd-Roedd lot o Gaerdydd yna yn dangos eu cefnogaeth

PostioPostiwyd: Iau 16 Maw 2006 1:20 pm
gan elliboi
oni fyddai'n well ceisio newid pethau trwy dreiddio i graidd rheolaeth yr undeb o'r cychwyn ?

teimlaf ein bod yn sianelu ein ymdrechion yn y mannau anghywir. mae'n rhaid i ni newid ein ffocws- yn hytrach na protestio o'r tu allan, mae'n rhaid i ni symud i ganol ein problemau er mwyn eu datrys.

mae'n rhaid i ni gymryd perchnogaeth o'n sefydliadau, yn hytrach na cwyno o hyd am eu diffygion. prifysgol ein prifddinas ni yw prifysgol caerdydd. mae'n rhaid i ni sylweddoli hyn.

rwy'n teimlo byddai'n well petai mwy o gymry yn ymeisio am swyddi ar fwrdd yr undeb, yn hytrach na gweithio'n galed i greu corff ymylol arall. onid oes peryg na fydd yr undeb arfaethedig yn ddim byd ond pwyllgor arall ? onid sefydliad arall yn canolbwyntio ar geisio newid trwy brotest, yn hytrach na newid o'r craidd bydd hi ?

mae'r traddodiad protest sy'n bodoli yn ein gwlad yn un dylem ni fod yn hynod o falch ohono, yn un sydd yn parhau i gyfrannu at ein datblygiad fel cenedl. ond teimlaf fod meddylfryd y protestiwr yn ein ffrwyno yn ogystal.

mae'n rhaid i ni stopio ymddwyn fel pobl gorthrymedig a stopio cwyno o hyd am yr anghyfiawnderau ry'm ni wedi, a'n parhau i brofi. yn hytrach, mae'n rhaid gwneud rhywbeth ynglyn a'r anghyfiawnderau yma.

yn sicr, bydd undeb myfyrwyr cymraeg yn ddatblygiad gwych o rhan dod a phobl ynghyd a chreu cyfleoedd i gymry o ar draws y wlad i gwrdd, ond mae'r gymgym yn bodoli ar gyfer y pwrpas yma. a fydd yr unbeb yn cyflawni yr hyn yr ydym am weld ?

rwy'n anghytuno gyda'r cysyniad o gael swyddog materion cymraeg yn eistedd ar fwrdd yr undeb, megis swyddog dros faterion hoyw a materion asiaidd ayyb. dylai'r gymraeg fod yn rhan ganolog o holl fusnes y bwrdd, ni ddylem orfod cael swyddog i oruwchwilio.

os ydym ni wir am i ein gwlad fod yn annibynnol, yn rhydd, a'n gymraeg, mae'n rhaid i ni ddechrau ei rheoli hi fel gwlad annibynnol, rhydd a chymraeg nawr.

yn lle gofyn am newidiadau, paham ddim mynd ati i newid y sefyllfa ein hunain ?

PostioPostiwyd: Iau 16 Maw 2006 1:31 pm
gan Dylan
huwcyn1982 a ddywedodd:Nes i gwyno bo dim rhaglen Gymraeg ar Xpress Radio, sef orsaf yr undeb. A nawr ma da fi'r unig rhaglen Gymraeg.... Felly Huw Psych, falle ma'n amser i ti sefydlu'r undeb 'ma :D


er tegwch i xpress radio, o beth 'dw i'n ddeall mae nhw'n berffaith fodlon darlledu rhaglenni Cymraeg cyn belled bod myfyrwyr Cymraeg yn gwirfoddoli i'w cyflwyno. Gwir ydi nad oes digon ohonom yn gwneud. :?

PostioPostiwyd: Iau 16 Maw 2006 5:26 pm
gan Huw Psych
Digon o bwytiau dilys iawn gan elliboi.

Mae swyddog cymraeg ar bwyllgor yr undeb, ond dwi ddim yn siwr iawn faint o Gymru Cymraeg sy'n ymwybodol o hyn. Mi fydda hi'n anodd iawn dechra yn ei chanol hi, os nad yda ni'n gneud swydd y swyddog yn hefyd swydd llywydd yr undeb.

Dwi'n cytuno ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n cymryd perchnogaeth, ond ma hyna'n anodd iawn pan ma raid mynd i ofyn o hyd am ddarpariaeth Gymraeg. Mi ddylsa'r ddarpariaeth fod yna heb ofyn amdano fo. Mae ganddo ni hawl i'r ddarpariaeth yn y Gymraeg, felly drwy gael yr hawl hwnnw mi fydda'r anghyfiawnder yn dod i ben.

Dwi ddim yn siwr beth ydi cyfeiriad a pwrpas y Gymgym. Y Gymdeithas Gymraeg ydi o, does ganddo ddim byd yn unigryw i Gaerdydd, mae'r Gymgym yn bodoli yn Abertawe, Casnewydd, Morgannwg, ac mae son fod UWIC yn ceisio ffurfio un ar gyfer y flwyddyn nesaf!
Cymdeithas i gymdeithasu a dod i adnabod pobl Gymraeg eraill ydi'r Gymgym, dydi o ddim yn undeb o bell ffordd! Mi fydda undeb yn ymladd dros fuddianau myfyrwyr, nid y cymdeithasu.

Drwy ffurfio undeb mi fydda ni'n mynd ati i newid y sefyllfa. Mi fydda undeb yna er-mwyn gwarchod buddianau'r myfyrwyr Cymraeg a hybu'r Gymraeg. Mewn undeb mae nerth?! :winc:

PostioPostiwyd: Iau 16 Maw 2006 8:45 pm
gan huwcyn1982
Dylan a ddywedodd:
huwcyn1982 a ddywedodd:Nes i gwyno bo dim rhaglen Gymraeg ar Xpress Radio, sef orsaf yr undeb. A nawr ma da fi'r unig rhaglen Gymraeg.... Felly Huw Psych, falle ma'n amser i ti sefydlu'r undeb 'ma :D


er tegwch i xpress radio, o beth 'dw i'n ddeall mae nhw'n berffaith fodlon darlledu rhaglenni Cymraeg cyn belled bod myfyrwyr Cymraeg yn gwirfoddoli i'w cyflwyno. Gwir ydi nad oes digon ohonom yn gwneud. :?


Digon wir! Ma na lwyth o le i unrhywun sy' am gael rhaglen Gymraeg. Dewch i gael go!

PostioPostiwyd: Iau 16 Maw 2006 9:38 pm
gan Iwan Rhys
Rwy'n cytuno gyda Hedd. Os bydd myfyrwyr Caerdydd yn sefydlu UMCC (Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd) yn annibynnol ar yr Undeb, i gychwyn, a chael aelodaeth eang a bod yn weithgar am ddwy neu dair blynedd, wedyn byddai'n bosib symud ymlaen i geisio dod yn rhan o'r Undeb, a chael cyflog swyddog sabathol i lywydd UMCC, gan ddefnyddio UMCA ac UMCB fel enghreifftiau o beth sy'n digwydd yng ngholegau eraill Cymru, a byddai'r aelodaeth eang a'r gweithgarwch dros y 2-3 blynedd yn dangos eich bod chi o ddifri a bod galw am y peth.

Hefyd, mae'n werth i Gymry Cymraeg ymgeisio am y swyddi sabathol yn yr Undeb. Mae rhai'n llwyddo yn Aberystwyth bob blwyddyn.

Ar y llaw cynta, mae'n ymddangos yn anodd i gael eich hethol, o feddwl mai canran fach o'r myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg (yn Aber, mae tua 7-9,000 o fyfyrwyr i gyd, a tua 500 o siaradwyr Cymraeg (tipyn o ges yw hwn)).

OND, pa ganran o'r myfyrwyr sy'n mynd allan i bleidleisio? Yn Aber, tua 1,000 sy'n arfer pleidleisio, sef tua 11% o'r holl fyfyrwyr (ac mae hynny'n eitha uchel, mae'n debyg, ymysg prifysgolion Prydain), ond mae tua 200-250 o Gymry Cymraeg yn arfer pleidleisio (rwy'n seilio hyn ar y ffaith y bu i 194 bleidleisio yn etholiad llywydd UMCA leni), sef 40-50% o'r Cymry Cymraeg.

Felly, os oes Cymro neu Gymraes Gymraeg yn sefyll am rhyw swydd, ac yn llwyddo i gael y Cymry Cymraeg eraill i gyd y tu