Digon o bwytiau dilys iawn gan elliboi.
Mae swyddog cymraeg ar bwyllgor yr undeb, ond dwi ddim yn siwr iawn faint o Gymru Cymraeg sy'n ymwybodol o hyn. Mi fydda hi'n anodd iawn dechra yn ei chanol hi, os nad yda ni'n gneud swydd y swyddog yn hefyd swydd llywydd yr undeb.
Dwi'n cytuno ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n cymryd perchnogaeth, ond ma hyna'n anodd iawn pan ma raid mynd i ofyn o hyd am ddarpariaeth Gymraeg. Mi ddylsa'r ddarpariaeth fod yna heb ofyn amdano fo. Mae ganddo ni hawl i'r ddarpariaeth yn y Gymraeg, felly drwy gael yr hawl hwnnw mi fydda'r anghyfiawnder yn dod i ben.
Dwi ddim yn siwr beth ydi cyfeiriad a pwrpas y Gymgym. Y Gymdeithas Gymraeg ydi o, does ganddo ddim byd yn unigryw i Gaerdydd, mae'r Gymgym yn bodoli yn Abertawe, Casnewydd, Morgannwg, ac mae son fod UWIC yn ceisio ffurfio un ar gyfer y flwyddyn nesaf!
Cymdeithas i gymdeithasu a dod i adnabod pobl Gymraeg eraill ydi'r Gymgym, dydi o ddim yn undeb o bell ffordd! Mi fydda undeb yn ymladd dros fuddianau myfyrwyr, nid y cymdeithasu.
Drwy ffurfio undeb mi fydda ni'n mynd ati i newid y sefyllfa. Mi fydda undeb yna er-mwyn gwarchod buddianau'r myfyrwyr Cymraeg a hybu'r Gymraeg. Mewn undeb mae nerth?!