Galw am Undeb Myfyrwyr Cymraeg Caerdydd...

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan S.W. » Llun 01 Mai 2006 8:38 am

Be am i chi gynnal noson mewn tafarn yn rhywle yng Nghaerdydd sy'n boblogaidd hefo myfyrwyr Cymraeg ble fydd ganddynt gyfle i ddod draw i ymaelodi?

Gan bod chi'm yn ran o'r Brifysgol wrach byddai gadael posteri a flyers mewn llefydd fel tai kebab ayyb ble mae myfyrwyr yn mynd yn egluro be ydy'r undeb newydd.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Geraint Edwards » Llun 01 Mai 2006 2:52 pm

Wrthi'n gwneud y "finishing touches" i ddrafft o gyfansoddiad i'w gyflwyno nos Iau. Gobeithio fydd o fan hyn erbyn diwedd y dydd.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint Edwards
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 660
Ymunwyd: Sul 19 Ion 2003 10:39 pm
Lleoliad: Llanddeiniolen / Caerdydd

Postiogan Huw Psych » Llun 01 Mai 2006 4:50 pm

S.W. a ddywedodd:Be am i chi gynnal noson mewn tafarn yn rhywle yng Nghaerdydd sy'n boblogaidd hefo myfyrwyr Cymraeg ble fydd ganddynt gyfle i ddod draw i ymaelodi?

Gan bod chi'm yn ran o'r Brifysgol wrach byddai gadael posteri a flyers mewn llefydd fel tai kebab ayyb ble mae myfyrwyr yn mynd yn egluro be ydy'r undeb newydd.
Diolch am y cyngor, mi fydda'n ni'n siwr o weithredu nhw. Yr unig broblem efo tafarn ydi:
1. Beth am y bobl sydd ddim yn yfed neu'n mynd i dy tafarn, dydi o ddim yn cysylltu'r undeb yn syth efo alcohol?!
2. Does na ddim tafarn 'Gymraeg' lle mae myfyrwyr Cymreig yn mynd. Y Mochyn Du fydda ora, ond ma honno ochr arall i dre...unrhyw un efo awgrymiadau?!

Geraint...cofia'i flogio fo!
Rhithffurf defnyddiwr
Huw Psych
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1205
Ymunwyd: Iau 13 Hyd 2005 3:05 pm
Lleoliad: Ty'n Twll, Gwlad y Rwla

Postiogan S.W. » Llun 01 Mai 2006 8:29 pm

Gyda diffyg 1 tafarn be am targedu sawl tafarn ar ddyddiau gwahanol?

Hefyd ydy'ch chi am dargedu Colegau eraill y ddinas? UWIC, Coleg Cerdd a Drama?

Dwin gwbod be ti'n feddwl am bod yn rhy gysylltiedig a yfed felly be am siopau, tu allan i darlithoedd ac ati?
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Twpsan » Llun 01 Mai 2006 8:40 pm

S.W. a ddywedodd:
Hefyd ydy'ch chi am dargedu Colegau eraill y ddinas? UWIC, Coleg Cerdd a Drama?



Ie - pwysig iawn o ystyried mod i`n dechra yna`n mis medi!!! Dwi`n teimlo`n rili euog, o`n i 'di cymryd o`n ganiataol bod na undeb cymraeg yng nghaerdydd yn barod. Eitha eironig o ystyried ma dyna`i prif ddinas ni tydy. Be' 'di`r prif wrthwynebiad pam bod 'na`m un yn barod?
Am nad iar ydw i, y jolpan wirion!
Rhithffurf defnyddiwr
Twpsan
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 203
Ymunwyd: Llun 10 Tach 2003 10:30 pm
Lleoliad: Twpville

Postiogan Huw Psych » Llun 01 Mai 2006 8:52 pm

S.W. a ddywedodd:Gyda diffyg 1 tafarn be am targedu sawl tafarn ar ddyddiau gwahanol?

Hefyd ydy'ch chi am dargedu Colegau eraill y ddinas? UWIC, Coleg Cerdd a Drama?

Dwin gwbod be ti'n feddwl am bod yn rhy gysylltiedig a yfed felly be am siopau, tu allan i darlithoedd ac ati?
Diolch, ma hi'n neis cael syniadau gan rywun o'r tu-allan. Ma na sawl ffordd yn fama sydd am fod yn werthfawr iawn yn hybu'r undeb newydd.

Mi yda ni'n bwriadu targedu colegau eraill o fewn Caerdydd gan fod UMCA yn gwneud rhywbeth tebyg yn Aber, y broblem ar hyn o bryd ydi cysylltu efo nhw. Gobeithir cael llais ar ran y canolfanau hyn o fewn yr undeb.

Twpsan a ddywedodd:Be' 'di`r prif wrthwynebiad pam bod 'na`m un yn barod?
Dwi'n siwr y gall bobl eraill roi mwy o gefndir i hwn ond mi gafwyd ymgyrch pan oedd sefydlu undebau Bangor a Aber yn digwydd ond cafodd o mo'i dderbyn. Ma na deimlad weithia fod pobl yn dianc o'r brifddinas i gael oddi wrth y bywyd Cymraeg, fel petae, ond gan ein bod ni yng Nghymru does na ddim rheswm pam na all Cymry eraill gael y bywyd hwnnw.
Dydi'r brif undeb yma yng Nghaerdydd heb fod yn rhy gefnogol i'r Gymraeg chwaith, felly ein gobaith ni fydd i neud y Gymraeg yn flaenllaw ym mywyd bob dydd y brifysgol.

Os oes yna unrhywun sydd am gael eu cynnwys ar sustem e-bostio'r undeb anfonwch neges breifat a mi fyddaf yn siwr o'ch cynnwys.
Rhithffurf defnyddiwr
Huw Psych
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1205
Ymunwyd: Iau 13 Hyd 2005 3:05 pm
Lleoliad: Ty'n Twll, Gwlad y Rwla

Postiogan Geraint Edwards » Llun 01 Mai 2006 10:36 pm

Dyma chi gyfeillion, dyma awgrym am gyfansoddiad (rhybudd - neges hir iawn!). Bydd gwelliannau i'r drafft yn cael eu hychwanegu o bryd i'w gilydd, wedi eu tanlinellu. Plis anfonwch eich sylwadau fan hyn neu drwy neges breifat.

--------------------------------------------------------------------------------------

CYFANSODDIAD DRAFFT
UNDEB MYFYRWYR CYMRAEG CAERDYDD

CYNNWYS

1 CYFFREDINOL
2 IAITH
3 AELODAETH
4 GWELLIANNAU CYFANSODDIADOL
5 RHEOLAU Y CYFARFOD CYFFREDINOL
6 RHEOLAU CYFARFOD CYFFREDINOL BRYS
7 Y PWYLLGOR GWAITH
8 RHEOLAU ETHOLIADAU
9 CYHOEDDIADAU
10 CYMDEITHASAU AC IS-BWYLGORAU
11 RHEOLAU SEFYDLOG Y CYFARFOD CYFFREDINOL
12 Y DDOGFEN BOLISI


--------------------------------------------------------------------------------------

1 CYFFREDINOL

1.1 Enw swyddogol y mudiad fydd UNDEB MYFYRWYR CYMRAEG CAERDYDD ('UMCC' neu 'Yr Undeb').

1.2 Amcanion yr Undeb fydd:

1.2.1 hybu cydweithrediad rhwng yr aelodau, gan ddiogelu a hyrwyddo eu buddiannau academaidd, diwylliannol, cymdeithasol ac athletaidd; a

1.2.2 darparu ar gyfer lles yr aelodau ac i'w cynrychioli ym mhopeth a fydd a wnelo
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint Edwards
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 660
Ymunwyd: Sul 19 Ion 2003 10:39 pm
Lleoliad: Llanddeiniolen / Caerdydd

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 02 Mai 2006 10:54 am

Ydych chi wedi ystyried rhoi cynnig yn yr undeb i newid teitl swydd 'Swyddog Materion Cymreig' i 'Cynrychiolydd UMCC'?!?!

Yn ei dro, tymor hir, gellid troi hwna wedyn yn rol sabathol.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan rabscaliwn » Maw 02 Mai 2006 12:07 pm

Rhys Llwyd a ddywedodd:Ydych chi wedi ystyried rhoi cynnig yn yr undeb i newid teitl swydd 'Swyddog Materion Cymreig' i 'Cynrychiolydd UMCC'?!?!

Yn ei dro, tymor hir, gellid troi hwna wedyn yn rol sabathol.
Ai awgrymu wyt ti Rhys y dylsai arweinwyr y mudiad newydd hwrio'u hun a gwneud UMCC yn ddim mwy na 'subsidiary' o'r 'brif' undeb Saesneg, fel y gwnaeth llwfr-fyfyrwyr Bangor ar ol brwydr galed y cenhedlaethau blaenorol i sefydlu UMCB yn annibynnol?
rabscaliwn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 175
Ymunwyd: Maw 07 Chw 2006 9:30 am

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 02 Mai 2006 12:14 pm

rabscaliwn a ddywedodd:
Rhys Llwyd a ddywedodd:Ydych chi wedi ystyried rhoi cynnig yn yr undeb i newid teitl swydd 'Swyddog Materion Cymreig' i 'Cynrychiolydd UMCC'?!?!

Yn ei dro, tymor hir, gellid troi hwna wedyn yn rol sabathol.
Ai awgrymu wyt ti Rhys y dylsai arweinwyr y mudiad newydd hwrio'u hun a gwneud UMCC yn ddim mwy na 'subsidiary' o'r 'brif' undeb Saesneg, fel y gwnaeth llwfr-fyfyrwyr Bangor ar ol brwydr galed y cenhedlaethau blaenorol i sefydlu UMCB yn annibynnol?


Ddim o gwbl. Mae UMCA yn aelod o Urdd Myfyrwyr Aber ydy, ond mae ganddi awtonomi.

Ni fuasai modd i UMCA ymgyrchu heb swyddog cyflogedig llawn amser, swyddfa ac adnoddau helaeth gweinyddol ac ariannol yr undeb mwy.

Nid undeb Saesneg mo'r undeb mwy beth bynnag yn Aberystwyth ond undeb 'dwy-ieithiog' - does dim undeb Saesneg per se yn Aberystwyth.

Dim ond hyn a hyn or ffordd fedrwch chi fynd heb swyddog cyflogedig a swyddfa.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Google [Bot] a 5 gwestai

cron