Wel, dyna y Cynulliad wedi mynd at Llundain a gofyn yn neis, neis, "Plis gawn ni wneud dydd Gwyl Dewi yn wyl y banc, Mr Blair?", a mae'r ateb wedi dod yn ol yn "Na".
Three cheers for devolution, boys - hip, hip...erm..be?
Dwi yn edmygu safiad pobol fel Chris Castle oddifewn y Blaid Lafur am drio cwffio dros faterion Cymreig etc. Mae o a bobl fel Ron Davies, Paul Flynn, (a Carwyn Jones petai o ddim yn rhwym i'r executive line) yn haeddu parch - a mae nhw yn ei gael gennyf i. Ond Iesu bach, pipe-dream ydi gobeithio y byddant yn llwyddiannus...
A pipe-dream ydi meddwl bod y Blaid Lafur wedi bod yn hael efo datganoli. Mae'r settlement yn joc.
Mae'n hen bryd iddyn nhw sylweddoli eu bod yn wastio amsar yn y Blaid Lafur Brydeinig.......