DATGANOLI A DYDD GWYL DEWI

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

DATGANOLI A DYDD GWYL DEWI

Postiogan Prysor » Maw 05 Tach 2002 8:31 pm

Wel, dyna y Cynulliad wedi mynd at Llundain a gofyn yn neis, neis, "Plis gawn ni wneud dydd Gwyl Dewi yn wyl y banc, Mr Blair?", a mae'r ateb wedi dod yn ol yn "Na".
Three cheers for devolution, boys - hip, hip...erm..be?

Dwi yn edmygu safiad pobol fel Chris Castle oddifewn y Blaid Lafur am drio cwffio dros faterion Cymreig etc. Mae o a bobl fel Ron Davies, Paul Flynn, (a Carwyn Jones petai o ddim yn rhwym i'r executive line) yn haeddu parch - a mae nhw yn ei gael gennyf i. Ond Iesu bach, pipe-dream ydi gobeithio y byddant yn llwyddiannus...

A pipe-dream ydi meddwl bod y Blaid Lafur wedi bod yn hael efo datganoli. Mae'r settlement yn joc.

Mae'n hen bryd iddyn nhw sylweddoli eu bod yn wastio amsar yn y Blaid Lafur Brydeinig.......
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Postiogan ceribethlem » Mer 06 Tach 2002 9:03 pm

Clywch clywch, mae'n hen bryd fod Rhodri Morgan a'i cronies yn sylweddoli fod anghenion Cymru yn wahanol i anghenion de-ddwyrain Lloegr.
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Chris Castle » Sad 09 Tach 2002 12:00 pm

Beth am Gogledd Dwyrain Llogr, Beth am gernyw, beth am Wolverhampton, beth am fryste?

Dwi'n teimlo yr un mor "unedig" â nhw ag ydw i â Caernarfon ac Aberystwyth.

Pipe dream oedd Cynulliad (o gwbl) - diolch Plaid Lafur a Llwyddiant ymdrechion Ron ac ati. Dwi'n cofio fy nghyfarfod gyntaf cangen Grangetown. Wnes i ddadl dros Cynulliad sy'n cymryd drosodd pob cyfrifoldeb y "Welsh grand Comitee". Dyna aeth ein safbwynt ni ond oedd cangenau eraill yn llai o blaid syniad o gynulliad o gwbl. Dyna rheswm inni "Dechrau proses"
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan Hedd Gwynfor » Sul 10 Tach 2002 2:53 pm

Beth am Gogledd Dwyrain Llogr, Beth am gernyw, beth am Wolverhampton, beth am fryste?


Oeddwn ni ddim yn ymwybodol fod y rhain yn dathlu Dydd Gwyl Dewi!

Y pwynt ydi fod ein Cynulliad Ni, Cynulliad pobl Cymru wedi gofyn am wneud Dydd Gwyl Dewi yn Wyl Banc, a bod y brawd mawr anemocrataidd yn Llundain wedi gwrthod. Pan, neu os, fydd gan Ogledd ddwyrain Lloegr Senedd neu Gynulliad, bydd gyda nhw hefyd y cyfle i alw am wneud Dydd Gwyl Dewi yn Wyl Banc. Dwi ddim yn credu fod hyn yn debygol iawn!

Dyw e ddim yn broblem mawr, mae gan yr Alban wyl banc ar wahanol adeg na gweddill Prydain. Jyst mater o'r brawd mawr yn flecio ei fysls yw hwn.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Hogyn o Rachub » Llun 11 Tach 2002 8:43 pm

Y pwynt yw dylai'n llywodraeth cenedlaethol ni cael y pwer i wneud hyn heb orfod gofyn am ganiatâd Llundain. Ond dim ond rhanbarth dibwys yr ydym ac mae ymdriniaeth Lloegr erioed wedi adlewyrchu'r agwedd honno.
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub


Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Google [Bot] a 10 gwestai