mae natwatch ddim ond wedi llwyddo i greu helynt i bobl oherwydd fod gormod o bobl amhroffesiynol wedi gadael iddyn nhw
mae'n gwbl hurt fod rhywun wedi mynd o flaen yr heddlu oherwydd cwyn gan natwatch, dyle fod gen yr heddlu bethau pwysicach i'w wneud fel amddiffyn y cyhoedd yn erbyn dihirod a lladron. Ebost preifat rhwng y gwr yma a natwatch oedd sail y gwyn, sut ar y ddaear gall cwyn am rywbeth felly gan bobl ddi-enw gael ei gymryd o ddifri. ni wnaeth y gwr yna fwriadu i'w sylwadau ymddangos yn y papur newydd, siawns fod rhoi cyhoeddusrwydd i'r sylwadau mewn papur newydd ond yn gwneud pethau'n waeth felly sut fod y newyddiadurwr ddim yn cael ei holi gan yr heddlu hefyd. a pham ar y ddaear fod y gweithiwr wedi cael helynt gan ei weithle ynglyn a hyn gan yn ei amser sbar y gwnaeth y sylwadau yma.
a pham fod cyngor gwynedd wedi gwrando ar gelwyddau natwatch ynglyn a'u cyn-weithiwr? darllenwch:
http://british-nats-watch.blogspot.com/ ... -zone.html
nid oedd y person yna wedi gweithio o gwbl ar broject y marina, ac felly braidd yn amlwg fod y cyhuddiad yn un stiwpid, felly pam na wnaeth y cyngor amddiffyn y gweithiwr? oes ryfedd fod y gweithiwr wedi ymddiswyddo pan wnaeth sylweddoli fod cyngor gwynedd yn rhoi'r benefit of the doubt i natwatch? mae hyn yn gwneud i'r cyngor sir edrych fel laffing stoc, ydy nhw mor amhroffesiynol nag yw nhw'n gallu ymchwilio mewn i'r mater yn well na hyn?
dim ond edrych ar y wefan sydd angen i sylweddoli beth yw natwatch: gwefan faleisus enllibus yn erbyn pobl cymraeg gan gynnwys rhai cynghorwyr gwynedd. wnaeth y cyngor sir ofyn i mr natwatch am ei enw a chyfeiriad cyn ystyried y gwyn? oherwydd os ewch chi ar wefan cyngor gwynedd i wneud cwyn ar y dudalen yma http://www.gwynedd.gov.uk/gwy_doc.asp?d ... catid=4362
fe welwch fod enw a chyfeiriad yn hanfodol
fedrwch chi ddim gyrru cwyn dros y we trwy wefan y cyngor heb ddarparu'r wybodaeth yma. yn amlwg ni wnaeth natwatch ddatgelu eu manylion personol i'r cyngor (hyd y gwyddom)
ac felly sut derbyniodd y cyngor gwyn gan natwatch?
a wnaeth y cyngor roi ymateb i natwatch ynglyn a'r cwyn? os ddim, pam ddim, gan fe wnaethon nhw weithredu ar y gwyn wrth geisio taflu aelod o staff mewn i broses ddisgyblu
yn amlwg mae'r ymchwil a gafodd ei wneud i'r sefyllfa yn joc. welodd nhw'r ebostiau lle roedd natwatch yn bygwth eu gweithiwr? os ddim, pam ddim? http://natwatchwatch.blogspot.com/2005/ ... dence.html
sut fath o ymchwilwyr & rheolwyr ceiniog a dimau sydd yno?