gan jammyjames60 » Sul 02 Gor 2006 12:52 am
Maeswyr, peidiwch poeni yn Y Felinheli - mi roedd carnifal y Felinheli ar heddiw 'ma a mi oedd na gorymdaith mawr a thra roedd y prosesiwn ymlaen, roedd pob fflag Lloegr oedd yn hongian ar gar yn cael eu tynnu i lawr (yn boleit:rolio: ) ac yn rhoi nhw yn y bin cyfagos.
Y Felinheli yw un o gadarnleoedd y iaith Gymraeg, ni ddylen ni cael fath hiliaeth a hysbysebiant Saesnegaidd yn pentref mor Gymreigaidd, baswn i'n meddwl o ganran, Mae'r felinheli yn mwy gymreigaidd na Gaernarfon.
Ar ol y galifantio yn y parade mi oedd parti yn y pabell ar lan y mor a fel rhan o'r nosn mi oedd yn digryfwr arbennig o dda, dwy ieithog ond yn gwneud ei digryfiant yn bennaf yn y Gymraeg. Mi oedd o'n gwneud jocs aruthrol o ddoniol am y fflagia ma, a pethau eitha' gwir amdanyn nhw. Mi oedd o'n dda oherwydd mi wnaeth o ddweud pa mor Gymreigaidd ydi'r Felinheli a pa mor hilaethol yw'r fflagia tuag at y dorf (ac yn enwedig i'r Saeson - oedd dim ond yn 10 person o 300 o bobol)mewn ffordd anfygythiol, er hynnny, fe gaeth o'i bwynt ar draws i'r Saeson. Ond y newyddion pwysicaf sydd angen i gwybodi - DOS NA DDIM FFLAG LLOEGR AR GAEL YN Y LLE!