Mici a ddywedodd:Rhywun wedi gweld
hwn
Do, trist. Ymgyrchwyr cenedlaetholgar Saesnig sy'n gyfrifol, gyda sylwadau'r chwarawr tennis yn cael eu hamlygu gan foi o'r enw Gareth sy'n blogio o dan yr enw Little man in Toque.
Dwi wedi bod mewn rhyw fath o gysylltiad gyda fo ers amser, gan mod i'n cydymdeimlo gyda ei safbwynt o a chenedlaetholwyr Saesnig eraill ynglyn a Senedd i Loegr - ond yn dwi'n dechrau blinio ar eu hagwedd dirmygys a hiliol at Albanwyr (a weithiau at Gymry).
Ar un llaw mae'nt yn cyhoddor'r Cymru a'r Albanwyr o fod yn annifyr a phlentynaidd am ymateb i sylwadau Anne Robinson ayyb, a dweud wrthynt am beidio bod mor wirion am wrthwynebu banneri Lloegr yn Nghymru a'r Alban, ac yna'n mynd gwbwl dros ben llesrti a bod yn ffiaidd tuag at Albanwr yn siarad am bêl-droed gan geisio troi y peth yn hiliaeth
Mae nhw wrth eu boddau gyda straeon am Saeson yn cael eu camdrin yn yr Alban, fel tase menyn ddim yn toddi yng nghegau'r Saeson.
Mae un Albanwr (sydd ddim yn genedlaetholwr) wedi dechrau blog yn arbennig i dynnu blew o'u trwynau, a
dyma sydd ganddo i ddweud am y stori hwn.