Y Werin datws a phêl-droed

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Y Werin datws a phêl-droed

Postiogan Robin Pigwyn » Maw 12 Tach 2002 12:42 am

Diddorol ydy darllen llith Dewi Prysor yn amddiffyn cefnogi timau pêl-droed mawr Lloegr. I ddechrau ga i gytuno mai dim ond un agwedd fach o fywyd Cymru ydy pêl-droed, ac mai dim pêl-droed ydy’r "be all and end all". Mae cefnogi busnesau lleol, y dyn llnau ffenestri lleol, miwsic Cymraeg ayyb i gyd yn rannau bach, ond pwysig, o’r frwydr dros annibynniaeth - sydd yn dod â ni yn ôl at fy ngalwad weriddiol – “gwnewch bopeth yn Gymreig”.

Thema gyson mewn negeseuon / areithiau Dewi ydy’r cyfeiriadau at "y werin" a’r snobs. A ti’n son am y salwch Cymreig o fod yn rhy rhanedig?!! Beth ydy hyn ond ceisio creu rhaniadau o fewn Cymry cenedlaetholgar? Dwi’n siwr y byddai Blair yn wên o glust i glust (wel, mwy nac arfer!) o weld "Divide and conquer" yn gweithio unwaith eto.

Ti’n gwbod be dwi’n meddwl o’r busnas "y werin" yma? Rhyw bolycs patronising sy’n ceisio rhoi pobl mewn rhyw focs cymdeithasol. Be di’r rheolau ar gyfer ymuno efo clwb "y werin" ta? Mynd i’r bingo bob nos Iau? Gwylio Corrie ar ITV yn ddi-ffael? Byw mewn ty teras? neu cefnogi Lerpwl?
Neu ai gwerin ddiwylliannol y cymunedau llechi sydd gen ti dan sylw? Trafod politics dros banned, ymuno yn y band pres a chael cystadleuthau llunio enlyngion?
O be dwi’n gweld, dydi holl aelodau Cymuned ddim yn ffitio i mewn i’r un o’r ddau focs yna. A da o beth yw hynny. I unrhyw fudiad fod yn wir lwyddiant, rhaid cael cefnogaeth pob math o Gymro. Ddim jisd rhai sy’n chwarae’r delyn, a ddim jisd y rhai sy’n yfed 18 peint yn y Crown bob nos Sadwrn. Sdopia drio roi pobl mewn bocsys.

Yn ôl at y pwynt. Ti’n dweud fod "y werin" yn dilyn y pethau poblogaidd – yn y cyswllt yma timau mawr Lloegr. Eto mae hyn yn hollol patronising. Felly dydi cefnogwyr timau pêl-droed Bangor, Penrhyncoch a Phontardawe ddim yn cael mynediad i glwb "y werin"? Be ydy nhw felly - snobs?
Os mae dilyn ffads poblogaidd yn ddall yw’r allwedd i gael mynediad i’r clwb, wel "count me out"! Mae gofyn bod ychydig yn wahannol i fod yn genedlaetholwr yng Nghymru. Dilyn y farn boblogaidd fyddai bod yn Brydeiniwr bach da. Mae pawb yn gwybod fod Dewi yn bell o fod yn Brydeiniwr da(!) felly pam fod hi mor annodd i chdi ‘optio allan’ o ddilyn y dorf lle mae cefnogi timau Lloegr yn y cwestiwn?

I wneud pethau’n glir, dydw i ddim yn awgrymu na ddylai pobl edrych ar ‘Match of the Day’ neu beth bynnag. Mae hi’n dechrau mynd yn broblem pan fod Cymry yn colli golwg ar y ffaith mai dinas yn Lloegr yw Lerpwl. Mae’r ffaith fod Dewi yn cyfaddef y byddai yn cefnogi Lerpwl yn erbyn timau Cymreig yn syniad anhygoel i mi!
Dwi’n dilyn timau mewn gwledydd eraill fel Celta Vigo a Dortmund. Ond os bydd Bangor yn chwarae Celta yng Nghwpan Ewrop, does gen i ddim math o broblem ym mha dim y byddwn i’n cefnogi. Fe fyddwn yn cefnogi UNRHYW dim Cymreig yn erbyn UNRHYW dim o UNRHYW wlad arall.

Gwnewch bopeth yn Gymreig.
Rhithffurf defnyddiwr
Robin Pigwyn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 42
Ymunwyd: Mer 18 Medi 2002 8:48 pm
Lleoliad: Gwynedd

Postiogan ceribethlem » Maw 12 Tach 2002 6:06 pm

Fi'n credu bod ti'n gormod mas o'r peth Robin.
Give it a rest achan.
Blydi hel, mae'r Labour supporting sheep sy'n mynd am beint ar ol gwylio Llanelli yn chwarae rygbi ddim yn fwy o Gymru na Dewi oherwydd eu bod yn cefnogi tim o Gymru.
Gem yw ffwtbol, gem yw rygbi a criced ayb. Dydyn nhw ddim yn bwysig yn y tymor hir, cyfle i ymlacio yw hi wrth eu gwylio.
Agwedd pobl at anghyfiawnder y byd a'i bobl sy'n cyfrif.
Mae pethau pwysicach i neud ffys am na pwy sy'n cefnogi pwy.
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan ceribethlem » Maw 12 Tach 2002 6:07 pm

Fi'n credu bod ti'n gormod mas o'r peth Robin.
Give it a rest achan.
Blydi hel, mae'r Labour supporting sheep sy'n mynd am beint ar ol gwylio Llanelli yn chwarae rygbi ddim yn fwy o Gymry na Dewi oherwydd eu bod yn cefnogi tim o Gymru.
Agwedd pobl at anghyfiawnder y byd a'i bobl sy'n cyfrif.
Mae agwedd Dewi tipyn mwy Cymraeg na llawer o gefnogwyr timau Cymraeg.
Ipso Facto Mae Dewi yn fwy o Gymry na nhw.
Mae pethau pwysicach i neud ffys am na pwy sy'n cefnogi pwy.
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan nicdafis » Maw 12 Tach 2002 9:45 pm

Dw i'n credu bod Ceri jyst mor ddespret i bostio neges #1000 ar Maes E, naeth e ail-bostio ei neges diwetha.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan ceribethlem » Mer 13 Tach 2002 5:45 pm

Dw i'n credu bod Ceri jyst mor ddespret i bostio neges #1000 ar Maes E, naeth e ail-bostio ei neges diwetha.


Neges#1000??
Dim ond 63 fi arno, well i fi bostio hwn mlaen 938 o weithie ife? :winc: :winc:
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan ceribethlem » Mer 13 Tach 2002 5:47 pm

64 yn cynnwys y neges dwetha wrth gwrs, 65 yn cynnwys hwn :winc:
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du


Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron