gan sian » Llun 19 Chw 2007 9:36 pm
Wel, er yr holl drafod, mae'n debyg bod cryn ddryswch ynghylch y Coleg Cymraeg Ffederal o hyd. Gweler y Cymro, 16 Chwefror:
Llythyr gan Hugh T Jones: "Hyd y gwn nid oes neb wedi egluro beth yw Coleg Ffederal mewn ffordd syml a dealladwy"
Erthygl Hafina Clwyd: "Nid oes neb wedi mynd ati i egluro i'r anwybodus a'r diddeall (hynny yw, fi) beth yn union yw oblygiadau sefydliad o'r fath."
Mae'r ymgyrchwyr wedi gwneud job dda yn dangos bod 'na wendidau mawr yn y system ar hyn o bryd - licio'r fideos, Rhys - ond ychydig o sôn sydd am y cam nesaf. Roeddwn wedi bwriadu mynd i'r Rali dydd Sadwrn ond roeddwn yn sâl.
Es i Lên LL?n yn ufudd â'm chwephunt yn fy llaw i brynu Problem Prifysgol. Darllenais y broliant sy'n dweud rhywbeth i'r perwyl ei bod yn wirionedd cyffredinol bod y bobl sy'n rhedeg sefydliadau hyn o fyd naill ai'n ynfydion neu'n gnafon. Rhoddais y llyfr yn ôl ar y silff. Efallai fy mod yn gwneud cam â Dafydd Glyn Jones ond allwn i ddim stumogi darllen llyfr sy'n cychwyn o'r sylfaen bod y sawl sy'n anghytuno â chi naill ai'n ddrwg neu'n wallgo. Efallai y dylwn ymwroli a rhoi ail gynnig arni.
Gwelais raglen y Byd ar Bedwar ar y pwnc. Mae angen bod yn ofalus ag un o'r dadleuon a gyflwynwyd a oedd yn hollol i'r gwrthwyneb i'r ddadl a ddefnyddir fel rheol gan bleidwyr addysg ddwyieithog. Bu sôn ar y newyddion yn ddiweddar bod pobl sy'n astudio gwyddoniaeth a mathemateg trwy gyfrwng y Gymraeg i TGAU a Lefel A yn gwneud cystal â os nad gwell na rhai sy'n astudio trwy gyfrwng y Saesneg ac yn mynd ymlaen i astudio'r pynciau yn ddiffwdan yn y Brifysgol. Ond roedd un ferch ar y rhaglen yn dweud bod amryw wedi rhoi'r gorau i'w cyrsiau mathemateg yn y Brifysgol am eu bod yn gorfod eu hastudio trwy'r Saesneg. Hyd nes y daw addysg Brifysgol trwy gyfrwng y Gymraeg yn y pynciau hyn, gallai'r ddadl hon olygu bod pobl yn dewis astudio mathemateg/gwyddoniaeth Lefel A trwy gyfrwng y Saesneg os ydynt yn dymuno mynd ymlaen i'w hastudio yn y Brifysgol.
Felly, byddai'n dda cael mwy o fanylion am drefniadau posibl ar gyfer Coleg Ffederal - e.e. os mai dim ond un neu ddau fodiwl mewn pwnc fyddai ar gael yn y Gymraeg, a fyddai'n drafferthus i fyfyrwyr gofrestru yn y Coleg 'arferol' a'r Coleg Ffederal? A fyddai darlithwyr Cymraeg yn y rhan fwyaf o bynciau yn cael rhan o'u cyflog gan y Coleg 'arferol' a rhan gan y Coleg Ffederal? A fyddai'r Coleg Ffederal yn rhannu darlithfeydd/labordai y colegau 'arferol' ar yr un telerau neu a fyddai angen eu rhentu neu rywbeth? etc