Hogyn o Rachub a ddywedodd:Dwi ddim yn gwybod be ydi union fanylion y Coleg Ffederal arfaethedig hwn ond mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n uffernol o falch o weld yr ymgyrch wedi dwyn ffrwyth o'r diwedd - hen bryd, a rhywbeth wirioneddol dda a gyflawnwyd gan y glymblaid. Da iawn wir
Os fydd y Coleg Ffederal gaiff ei sefydlu yn go agos at yr hyn mae Robin Williams yn argymell yna fyddw ni tua 75% o'r ffordd yna. Mae yna lot o ddysgu o'r ymgyrch 10 mlynedd yma. Dyma'r camau dwi'n gallu olrhain.
1999-2002:
Codi ymwybyddiaeth am yr anghyfiawnder ymysg y myfyrwyr eu hunain i ddechrau.
2003-2005:
Protestiadau gwir boblogaidd a thorfol yn ogystal a rhai elfennau mwy "eithafol" yn paentio fin nos heb sêl bendith yr arweinyddiaeth.
2005-2007:
Aeddfedu'r ddadl ddeallusol, gweithio ar ddogfenau ac argymhellion polisi. Diddorol nodi fod y protestio poblogaidd erbyn y pwynt yma wedi colli peth o'i stem ond doedd dim ots oherwydd roedd y protestio a fu wedi gosod y dôn ar gyfer y gwaith lobîo.
2008-2009:
Ennill y ddadl ddeallusol ac meddianu'r agenda wleidyddol.
2010:
Sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg?
Y ddau ffactor bwysig dwi'n meddwl oedd hyn:
i.) Protestiadau torfol yn gorfodi pobl i gymryd safbwynt - "wyt ti gyda ni neu wyt ti ddim?" mentality.
ii.) Rhai wedi gwneud LOT o waith cartref i mewn i fanion polisi i'r pwynt fod arweinwyr yr ymgyrch yn fwy gwybodus yn y maes na staff y sector, gweision sifil a'r gwleidyddion. Hawdd iawn dylanwadu os nad rheoli'r agenda wleidyddol ac ennill dadleuon wedyn.
Dyma ddau fideo o'r protestio yn 2003, roedd gymaint o gynwrf ar y pryd:
Hydref, 2003
Tachwedd, 2003