Coleg Cymraeg Ffederal

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Coleg Cymraeg Ffederal

Postiogan Hwntw Mawr » Llun 04 Medi 2006 4:00 pm

Y mae'n hen bryd agor trafodaeth gall ar maes-e yngl^yn ^a mater Coleg Cymraeg Ffederal. Y peth pwysig i'w gofio ydi mai y gair "Cymraeg" ydi'r gair allweddol - gair sy'n ysgymun gan y mwyafrif mawr o staff Prifysgol Cymru.

Yn y flwyddyn 1998 cafwyd penderfyniad gan Fwrdd Dysgu Trwy'r Gymraeg y Brifysgol ei hun mewn cynhadledd ym Mangor mai'r unig ateb i ddyfodol dysgu cyfrwng Cymraeg oedd sefydlu Coleg Cymraeg a hynny ar ffurf ffederal h.y. coleg heb ei leoli ar un safle yn unig.

Byth ers hynny ni fu gweithredu ar ran yr awdurdodau ac oherwydd hynny bu protestio achlysurol o du'r myfyrwyr ac eraill a bu Cylch yr Iaith ac ambell unigolyn yn cadw'r fflam ynghyn dros yr wyth mlynedd diwethaf.

Eleni, ar gost afradlon o £80,000 comisiynwyd Cwmni Arad Consulting i ymchwilio i'r mater a daeth y Cwmni hwnnw i'r casgliad (cyfleus i geffylau blaen llwfr a diog ein Prifysgol) mai anaddas ac anfuddiol fyddai sefydlu Coleg Cymraeg. Rhag cywilydd iddynt medd yr Hwntw Mawr.
Hwntw Mawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 17
Ymunwyd: Llun 04 Medi 2006 11:46 am
Lleoliad: Caerffili

Postiogan obi wan » Maw 05 Medi 2006 11:08 am

Un cywiriad bach bach i neges gwbl briodol Hwntw Mawr. Rwy'n credu fod fy nghof yn gywir. Daeth yr alwad gyntaf un am Goleg Cymraeg Ffederal nid o gyfarfod o Fwrdd y Brifysgol ar Ddysgu trwy'r Gymraeg, ond o gynhadledd agored DAN NAWDD y Bwrdd hwnnw a Chanolfan Bedwyr, Bangor. Yn fuan wedyn fe benderfynodd y Bwrdd ei fod yn cytuno, mewn egwyddor, ^a sefydlu C.C.Ffed. Yna, ym mhen rhyw flwyddyn, fe newidiodd ei feddwl, ac oddi ar hynny, mae wedi gwrthod yn l^an fynd ymlaen ^a'r mater. Yn y diwedd cymerwyd pethau allan o'i ddwylo, ac mae'r Bwrdd yn awr wedi ei ddiddymu i bob pwrpas.

Mae Hwntw Mawr yn hollol iawn bod eisiau trafodaeth agored ar hyn -- a dyna, wrth gwrs, mae'r Pwysigion yn ei ofni. Dowch ^a'ch syniadau, bobol Maes-e.
obi wan
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 61
Ymunwyd: Sad 17 Ebr 2004 3:44 pm

Postiogan Hwntw Mawr » Mer 06 Medi 2006 12:57 am

Digon gwir. Ymddengys fod mwyafrif llethol staff Prifysgol Cymru naill ai'n ddifater yngl^yn ^a dysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, neu'n rhy ddiog i roi unrhyw sylw i'r mater, neu'n gwbwl wrth-Gymreig. Yr olaf, mae'n debyg. Mae'r agwedd ffiaidd hon yn hen, hen stori. Yr egwyddor lywodraethol ydi 'DYRCHAFIAD ARALL I GYMRO'!
Cymru yw'r unig un o holl wledydd cred gyda phrifysgol sy'n wrthwynebus i'w hiaith genedlaethol ei hun. Anhygoel! Cymharer Estonia, Latvia et al. Am ba hyd y pery'r anghyfiawnder a'r Saisaddoliaeth hyn? Pam, O pam, fod myfyrwyr Cymru mor ddisymud a llywaeth a llwfr a difater? Onid oes rhywun yn rhywle yn eu mysg yn poeni am yr iaith?
Hwntw Mawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 17
Ymunwyd: Llun 04 Medi 2006 11:46 am
Lleoliad: Caerffili

Postiogan Mihangel Macintosh » Mer 06 Medi 2006 12:10 pm

Hwntw Mawr a ddywedodd:Pam, O pam, fod myfyrwyr Cymru mor ddisymud a llywaeth a llwfr a difater? Onid oes rhywun yn rhywle yn eu mysg yn poeni am yr iaith?


Falle fod myfyrwyr yn apathetic - ond mae na rhai sydd yn fodlon codi lleisiau a dangos ochr. Mae UMCA, UMCB a Chymdeithas yr Iaith wedi bod yn ymgyrchu dros Goleg Ffederal ers blynyddoedd.

Cafwyd protest yn yr Eisteddfod eleni ar y cyd gan y tri sefydliad uchod mewn protest yn galw am Goleg Aml-safle Cymraeg. Ym mis Mai fe wnaeth 6 aelod o'r Gymdeithas lwyddo fynd ar dô Prifysgol Bangor, ac aeth 15 ar dô Prifysgol Aberystwyth yn dilyn asesiad gwarthus cwmni ARAD.

Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan Hwntw Mawr » Gwe 08 Medi 2006 6:53 pm

Diolch MM am dy ymateb. Do, wrth gwrs, bu rhyw ychydig o fyfyrwyr yn protestio a diolch amdanynt - y gweddill ffyddlon a dewrgalon. Cyfeirio at y trwch mawr o fyfyrwyr Cymraeg cwbl ddifater roeddwn i. Mae hynny'n wirioneddol drist.

Cofiwch fodd bynnag fod C. yr Iaith wedi cymylu peth ar yr ymgyrch trwy ddechre s^on am ymestyn gweithgarwch y Coleg Cymraeg Ffederal i neuadde pentrefi etc. Gadewch i ni ganolbwyntio ar gael CCFf yn gyntaf - mae honno ynddi'i hun yn BATTLE ROYAL! Sefydlu'r Coleg fydd y cam cyntaf a'r pwysicaf. Cofier hefyd mai pobl, ac nid adeilade o anghenraid, sy'n 'gwneud' Coleg - athrawon, darlithwyr, ymchwilwyr, myfyrwyr, gweinyddwyr.

Nawr mae'r frwydyr yn dechre !!!
Hwntw Mawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 17
Ymunwyd: Llun 04 Medi 2006 11:46 am
Lleoliad: Caerffili

Postiogan obi wan » Gwe 27 Hyd 2006 5:12 pm

Clywed ddoe fod rhyw brotestio/gweithredu wedi dechrau eto (?? yn Aber) are y mater hwn. All rhywun ddweud rhagor?
obi wan
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 61
Ymunwyd: Sad 17 Ebr 2004 3:44 pm

Postiogan Rhys Llwyd » Gwe 27 Hyd 2006 5:40 pm

obi wan a ddywedodd:Clywed ddoe fod rhyw brotestio/gweithredu wedi dechrau eto (?? yn Aber) are y mater hwn. All rhywun ddweud rhagor?


Wele yr edefyn yma
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Rhys Llwyd » Gwe 27 Hyd 2006 5:49 pm

obi wan a ddywedodd:Un cywiriad bach bach i neges gwbl briodol Hwntw Mawr. Rwy'n credu fod fy nghof yn gywir. Daeth yr alwad gyntaf un am Goleg Cymraeg Ffederal nid o gyfarfod o Fwrdd y Brifysgol ar Ddysgu trwy'r Gymraeg, ond o gynhadledd agored DAN NAWDD y Bwrdd hwnnw a Chanolfan Bedwyr, Bangor.


Wel, cywiriad i'r cywiriad. Fe ddaeth yr alwad yn wreiddiol ymhell yn ôl y y 50au gan unigolion fel R.M. (Bobi) Jones ac R. Tudur Jones. Diau eu bod nhw wedi eu dylanwadu gan y neo-Galfinydd o'r Iseldiroedd Abraham Kuyper gyda'i ymdrechion llwyddiannus ef i sefydlu Prifysgol Rydd Amsterdam. Er nad Prifysgol 'Gristnogol' oedd gan Bobi a Tudur mewn golwg diau fod yr egwyddor o ollwng y dead wood a sefydlu strwythur newydd gwbl iach gan Kuyper wedi bod o edmygedd iddynt. Mae'n sicr yn dwyn edmygedd ac ysbrydoliaeth i mi.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan obi wan » Gwe 27 Hyd 2006 7:11 pm

Tua 1950-1 bu cynnig gan Gwynfor Evans yn Llys y Brifysgol, yn galw am sefydlu coleg Cymraeg o ryw fath. Sefydlwyd PWYLLGOR BACH wrth gwrs, a bu hwnnw'n eistedd am tua 6-7 mlynedd heb gytuno ar ddim byd ond y polisi o benodi rhyw un darlithydd trwy'r Gymraeg yma, a rhyw un acw. Araf ofnadwy y datblygodd y cynllun. Ni fu erioed fwy na rhyw ddau ddwsin o'r darlithwyr hyn, ac i lawr, i lawr yr aeth y nifer oddi ar ddechrau'r 1980au. Rwyf wedi cael cip ar "Adroddiad Arad", ac mae'n dweud yn hollol blaen fod HOLL benaethiaid HOLL golegau Cymru (14 i gyd) yn "ddiamwys" yn erbyn y syniad o goleg ffederal. Merfyn Jones a'i ddirprwy Meri Huws yn Mangor, Noel Lloyd yn Aberystwyth a'i ddirprwy yntau Aled Jones, Medwin Hughes, Prifathro Coleg y Drindod. Pawb fel yna. Clywais ddweud nad oes neb o bwys yn y colegau na'r Brifysgol o blaid, na neb sydd isio bod yn rhywun o bwys. Clywais ddweud y BYDDAI ambell un o blaid onibai fod ei draed o'n brifo. Isio eistedd. Iso cadair. Petha fel'na maen nhw'n ddweud. Wn i ddim.
obi wan
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 61
Ymunwyd: Sad 17 Ebr 2004 3:44 pm

Postiogan obi wan » Gwe 27 Hyd 2006 7:11 pm

Tua 1950-1 bu cynnig gan Gwynfor Evans yn Llys y Brifysgol, yn galw am sefydlu coleg Cymraeg o ryw fath. Sefydlwyd PWYLLGOR BACH wrth gwrs, a bu hwnnw'n eistedd am tua 6-7 mlynedd heb gytuno ar ddim byd ond y polisi o benodi rhyw un darlithydd trwy'r Gymraeg yma, a rhyw un acw. Araf ofnadwy y datblygodd y cynllun. Ni fu erioed fwy na rhyw ddau ddwsin o'r darlithwyr hyn, ac i lawr, i lawr yr aeth y nifer oddi ar ddechrau'r 1980au. Rwyf wedi cael cip ar "Adroddiad Arad", ac mae'n dweud yn hollol blaen fod HOLL benaethiaid HOLL golegau Cymru (14 i gyd) yn "ddiamwys" yn erbyn y syniad o goleg ffederal. Merfyn Jones a'i ddirprwy Meri Huws yn Mangor, Noel Lloyd yn Aberystwyth a'i ddirprwy yntau Aled Jones, Medwin Hughes, Prifathro Coleg y Drindod. Pawb fel yna. Clywais ddweud nad oes neb o bwys yn y colegau na'r Brifysgol o blaid, na neb sydd isio bod yn rhywun o bwys. Clywais ddweud y BYDDAI ambell un o blaid onibai fod ei draed o'n brifo. Isio eistedd. Iso cadair. Petha fel'na maen nhw'n ddweud. Wn i ddim.
obi wan
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 61
Ymunwyd: Sad 17 Ebr 2004 3:44 pm

Nesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron