Y mae'n hen bryd agor trafodaeth gall ar maes-e yngl^yn ^a mater Coleg Cymraeg Ffederal. Y peth pwysig i'w gofio ydi mai y gair "Cymraeg" ydi'r gair allweddol - gair sy'n ysgymun gan y mwyafrif mawr o staff Prifysgol Cymru.
Yn y flwyddyn 1998 cafwyd penderfyniad gan Fwrdd Dysgu Trwy'r Gymraeg y Brifysgol ei hun mewn cynhadledd ym Mangor mai'r unig ateb i ddyfodol dysgu cyfrwng Cymraeg oedd sefydlu Coleg Cymraeg a hynny ar ffurf ffederal h.y. coleg heb ei leoli ar un safle yn unig.
Byth ers hynny ni fu gweithredu ar ran yr awdurdodau ac oherwydd hynny bu protestio achlysurol o du'r myfyrwyr ac eraill a bu Cylch yr Iaith ac ambell unigolyn yn cadw'r fflam ynghyn dros yr wyth mlynedd diwethaf.
Eleni, ar gost afradlon o £80,000 comisiynwyd Cwmni Arad Consulting i ymchwilio i'r mater a daeth y Cwmni hwnnw i'r casgliad (cyfleus i geffylau blaen llwfr a diog ein Prifysgol) mai anaddas ac anfuddiol fyddai sefydlu Coleg Cymraeg. Rhag cywilydd iddynt medd yr Hwntw Mawr.