Coleg Cymraeg Ffederal

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Re: Coleg Cymraeg Ffederal

Postiogan Rhys Llwyd » Sul 28 Meh 2009 9:38 pm

Hogyn o Rachub a ddywedodd:Dwi ddim yn gwybod be ydi union fanylion y Coleg Ffederal arfaethedig hwn ond mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n uffernol o falch o weld yr ymgyrch wedi dwyn ffrwyth o'r diwedd - hen bryd, a rhywbeth wirioneddol dda a gyflawnwyd gan y glymblaid. Da iawn wir :D


Os fydd y Coleg Ffederal gaiff ei sefydlu yn go agos at yr hyn mae Robin Williams yn argymell yna fyddw ni tua 75% o'r ffordd yna. Mae yna lot o ddysgu o'r ymgyrch 10 mlynedd yma. Dyma'r camau dwi'n gallu olrhain.

1999-2002:
Codi ymwybyddiaeth am yr anghyfiawnder ymysg y myfyrwyr eu hunain i ddechrau.
2003-2005:
Protestiadau gwir boblogaidd a thorfol yn ogystal a rhai elfennau mwy "eithafol" yn paentio fin nos heb sêl bendith yr arweinyddiaeth.
2005-2007:
Aeddfedu'r ddadl ddeallusol, gweithio ar ddogfenau ac argymhellion polisi. Diddorol nodi fod y protestio poblogaidd erbyn y pwynt yma wedi colli peth o'i stem ond doedd dim ots oherwydd roedd y protestio a fu wedi gosod y dôn ar gyfer y gwaith lobîo.
2008-2009:
Ennill y ddadl ddeallusol ac meddianu'r agenda wleidyddol.
2010:
Sefydlu Coleg Ffederal Cymraeg?

Y ddau ffactor bwysig dwi'n meddwl oedd hyn:
i.) Protestiadau torfol yn gorfodi pobl i gymryd safbwynt - "wyt ti gyda ni neu wyt ti ddim?" mentality.
ii.) Rhai wedi gwneud LOT o waith cartref i mewn i fanion polisi i'r pwynt fod arweinwyr yr ymgyrch yn fwy gwybodus yn y maes na staff y sector, gweision sifil a'r gwleidyddion. Hawdd iawn dylanwadu os nad rheoli'r agenda wleidyddol ac ennill dadleuon wedyn.

Dyma ddau fideo o'r protestio yn 2003, roedd gymaint o gynwrf ar y pryd:
Hydref, 2003
Tachwedd, 2003
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Nôl

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 13 gwestai

cron