Coleg Cymraeg Ffederal

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Rhys Llwyd » Maw 20 Chw 2007 8:24 am

sian a ddywedodd:Felly, byddai'n dda cael mwy o fanylion am drefniadau posibl ar gyfer Coleg Ffederal - e.e. os mai dim ond un neu ddau fodiwl mewn pwnc fyddai ar gael yn y Gymraeg, a fyddai'n drafferthus i fyfyrwyr gofrestru yn y Coleg 'arferol' a'r Coleg Ffederal? A fyddai darlithwyr Cymraeg yn y rhan fwyaf o bynciau yn cael rhan o'u cyflog gan y Coleg 'arferol' a rhan gan y Coleg Ffederal? A fyddai'r Coleg Ffederal yn rhannu darlithfeydd/labordai y colegau 'arferol' ar yr un telerau neu a fyddai angen eu rhentu neu rywbeth? etc


Dwi'n tybio fod hyn yn cael ei drafod yn y glwyd olaf dan benawd 4.0 ond wrth reswm lle y llunwy'r polisi yw mynd ar ôl y manion ond dwi'n meddwl mod i wedi cynnig rhyw egwyddor i'w ddilyn yn 4.0
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan sian » Maw 20 Chw 2007 9:25 am

Diolch Rhys.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Taflegryn » Iau 22 Chw 2007 11:57 pm

sian a ddywedodd:W

Ond roedd un ferch ar y rhaglen yn dweud bod amryw wedi rhoi'r gorau i'w cyrsiau mathemateg yn y Brifysgol am eu bod yn gorfod eu hastudio trwy'r Saesneg.


Rhaid gen i oedden nhw yn rili thick achos nes i gael 'C' yn Saesneg TGAU a dal cael gradd BSc a oedd yn cael ei ddysgu trwy'r saesneg!!!
Rhithffurf defnyddiwr
Taflegryn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 130
Ymunwyd: Maw 14 Hyd 2003 8:45 pm

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 27 Tach 2007 8:43 pm

cymdeithas.org a ddywedodd:Heddiw (Dydd Mawrth, Tachwedd 27 2007) fe fydd grwpiau ymgyrchu ym maes Addysg Gymraeg yn y Sector Addysg Uwch yn cyflwyno dogfen sylweddol a manwl i'r Gweinidog Addysg er diben hwyluso a phrysuro eu gweithrediad o'i polisi Coleg Ffederal Cymraeg. Cefnogir y papur hwn gan sawl grwp ymgyrchu; Ymgyrchoedd Iaith Gymraeg Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru (UCMC), Undeb Myfyrwyr Cymraeg Aberystwyth (UMCA), Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor (UMCB), Cymdeithas Gymraeg UWIC a Chelloedd Coleg Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.


Datganiad llawn + dolenni at y ddogfen yma...
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Hedd Gwynfor » Mer 28 Tach 2007 2:18 pm

Delwedd

Delwedd
Golygwyd diwethaf gan Hedd Gwynfor ar Mer 28 Tach 2007 8:42 pm, golygwyd 1 waith i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Postiogan Tshiffalaffs » Mer 28 Tach 2007 4:50 pm

Yn hytrach na sefydlu trwythur anelwig ac anodd ei esbonio, beth am gau Coleg Prifysgol Llambed, sydd o braidd dim o ddefnydd i neb heblaw am bobl o bant sydd wedi cael lle'n astudio cyrsiau micimows drwy'r system clearing ac agor Coleg Prifygol Cymraeg ar y safle, gydag ystod gymharol gyfyng o gyrsiau i ddechrau, ond gyda'r sgôp i ehangu? Yng Nghanada, mae yna brifysgolion Saesneg, a Phrifysgolion Ffrangeg eu hiaith ac mae'r system i'w weld i weithio'n dda. Efallai byddai'n cymryd amser i'r coleg Cymraeg i dyfu i gynnwys yr un math o ddewis a sydd ar gael yn y colegau Saesneg, ond edrychwch ar sut mae'r ysgolion cymraeg wedi tyfu. Sai'n gweld y system ffrydio 'ffederal' yn gweithio cystal. Nid yw'r unedau Cymraeg ochr yn ochr ag unedau Saesneg eu cyfrwng mewn ysgolion yn plesio fawr o neb, felly pam disgwyl i'r gyfundrefn weithio yn y sector addysg uwch?
Twp fel sledj.
Tshiffalaffs
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 24
Ymunwyd: Llun 23 Mai 2005 8:45 pm
Lleoliad: Brongwyn

Postiogan Darth Sgonsan » Iau 29 Tach 2007 11:09 am

Tshiffalaffs a ddywedodd:Yn hytrach na sefydlu trwythur anelwig ac anodd ei esbonio, beth am gau Coleg Prifysgol Llambed, sydd o braidd dim o ddefnydd i neb heblaw am bobl o bant sydd wedi cael lle'n astudio cyrsiau micimows drwy'r system clearing ac agor Coleg Prifygol Cymraeg ar y safle,


wow nawr gw'gerl, os mai 'cyrsiau micimows' ydi'r maen prawf fydd dim prifysgol i gael yng Nghymru

braidd yn anheg cyfyngu'r Cymry i Lanbed dydi. os oes raid iddy fo fod ar un safle, Gaerdydd ydi'r unig ddewis - fanno ma'r cyw-ysgolheigion i gyd isho mynd
He who makes a beast of himself gets rid of the pain of being a man
Darth Sgonsan
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 736
Ymunwyd: Llun 23 Mai 2005 9:43 am
Lleoliad: yn pesgi ar farwolaeth mamwlad dlawd

Re: Coleg Cymraeg Ffederal

Postiogan Hedd Gwynfor » Llun 22 Meh 2009 9:45 pm

Adroddiad mas heddiw (pdf) - http://wales.gov.uk/docs/dcells/publica ... portcy.pdf

Y Coleg Ffederal
Adroddiad i’r Gweinidog dros Blant, Addysg, Dysgu Gydol Oes a Sgiliau
Yr Athro Robin Williams, CBE, FRS.
Mehefin 2009
Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Coleg Cymraeg Ffederal

Postiogan Hedd Gwynfor » Maw 23 Meh 2009 7:04 pm

Rhithffurf defnyddiwr
Hedd Gwynfor
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 6140
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:51 pm
Lleoliad: Caerfyrddin

Re: Coleg Cymraeg Ffederal

Postiogan Hogyn o Rachub » Mer 24 Meh 2009 7:53 am

Dwi ddim yn gwybod be ydi union fanylion y Coleg Ffederal arfaethedig hwn ond mae'n rhaid i mi ddweud fy mod i'n uffernol o falch o weld yr ymgyrch wedi dwyn ffrwyth o'r diwedd - hen bryd, a rhywbeth wirioneddol dda a gyflawnwyd gan y glymblaid. Da iawn wir :D
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron