Cymedrolwr: Mr Gasyth
Geraint a ddywedodd: Sut, yn union, y fydd yn wahanol i'r sefyllfa presennol? Pa wahaniaethau, dydd i ddydd bydd i fyfyrwyr? Esboniad syml, os gwelwch yn dda.
Taflegryn a ddywedodd:Dwi'm yn dallt sut fydd o'n gweithio chwaith - os dwi eisiau astudio i gael gyrfa i fod yn optegydd er enghraifft, sut bydd y coleg ffedral cymraeg yn mynd i'n helpu i?
obi wan a ddywedodd:Rwyf wedi cael cip ar "Adroddiad Arad", ac mae'n dweud yn hollol blaen fod HOLL benaethiaid HOLL golegau Cymru (14 i gyd) yn "ddiamwys" yn erbyn y syniad o goleg ffederal. Merfyn Jones a'i ddirprwy Meri Huws yn Mangor, Noel Lloyd yn Aberystwyth a'i ddirprwy yntau Aled Jones, Medwin Hughes, Prifathro Coleg y Drindod. Pawb fel yna.
Taflegryn a ddywedodd:Felly, myfyrwyr sy'n cael ei darlithoedd yn y Gymraeg yn barod fydd yn elwa o'r coleg ffedral yma? Myrfyrwyr sy'n astudio Cymraeg, Hanes Cymru, Addysg, Drama a.y.y.b. Sy'n arwain mi at y cwestiwn pam fod angen gwario i gael coleg ffederal ar gyfer myfyrwyr sydd eisioes yn cael ei darlithoedd yn y Gymraeg?
Hwntw Mawr a ddywedodd:Clywes hefyd fod Prifysgol Wales yn awr yn gwrthod rhyddhau y wybodeth ynglyn a'r tystiolaethe a gyflwynwyd i Arad Consulting, y cwmni hwnnw gafodd £80,000 i ladd y synied o Goleg Cymraeg. Odi hyn hefyd yn wir?
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 42 gwestai