Coleg Cymraeg Ffederal

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan sian » Sad 11 Tach 2006 10:02 am

sian a ddywedodd:Oni fyddai'n well esbonio'n gwrtais sut y byddai'r drefn yn gweithio - cyfeirio at daflenni'r ymgyrch ac ati?


Sori i 'nyfynnu'n hunan - ond, erbyn meddwl, a oes taflenni/erthyglau ar gael sy'n disgrifio'n syml pa fath o beth fyddai Coleg Cymraeg Ffederal a sut y byddai'n gweithio? Methu gweld dim ar y we.
Mwya dw i'n meddwl am y peth, mwya o gwestiynau sy'n codi.

Rhys Llwyd - rwyt ti ynghanol bwrlwm yr ymgyrch a'r sefyllfa i'w gweld yn glir i ti - i bobl fel taflegryn a mi sy'n edrych o'r tu fas, mae angen esboniad mwy manwl.
Dw i'n synnu dy fod mor anoddefgar o ystyried y cwmni rwyt ti'n gadw (gweler tudalen flaen rhifyn cyfredol yr Angor) :winc:
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan Taflegryn » Sad 11 Tach 2006 9:29 pm

Hwntw Mawr a ddywedodd:Llai o'r rwdl hyn am ragoriaeth y Saesneg os gwelwch yn dda - cawsom shwd lond bola ohono am saith ganrif a rhagor.


Ddudes i unrhywbeth am ragoraieth Saesneg?

Fel hyn dwi'n gweld y ffordd orau i gael siaradwyr cymraeg mewn swyddi lle mae angen siaradwyr cymraeg. Yn lle gwario arian ar Goleg Ffederal Gymreig, beth am dargedu graddedigion mewn nyrsio, deintyddiaeth, fferylliaeth ayyb ac rhoi cymhelliad arianol er mwyn iddyn nhw ymarfer eu galwedigaeth yma yng Nghymru. Stopio y 'brain drain' ydy ei bwrpas.

Esboniwch i fi eto sut bydd y coleg ffederal yma yn gweithio yn iawn.
Rhithffurf defnyddiwr
Taflegryn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 130
Ymunwyd: Maw 14 Hyd 2003 8:45 pm

Postiogan Hwntw Mawr » Sul 12 Tach 2006 2:01 am

Efalle fod rhai o ohebwyr maes-e yn treulio llawer gormod o'u hamser yn gregech ar maes-e yn hytrach na darllen llyfrau a chylchgronne safonol. Cafwyd trafodaethe llawn yn Barn, Y Faner Newydd, Y Cymro etc ar fater y Coleg Cymraeg. Fe gyhoeddwyd llyfyr gwych iawn hefyd ar y mater gydag esboniade llawn ar shwd y bydd y Coleg Cymraeg yn cael ei gynllunio a'i sefydlu a'i gadw a'i ariannu - a phopeth arall ynglyn ag e.

Gydag ychydig o bwyll a dyfalbarhad dylai unrhyw un sydd ag ychydig o grebwyll allu dilyn yr oll o'r dadleuon. Mater syml yw e yn y bon. Gyda llaw, mae'r ymgyrch hon ymlan er 1998! Mae'n rhaid nad yw llawer o bobl yn cymryd digon o ddiddordeb ym myd addysg uwch i fod wedi trafferthu darllen yr un sill amdano. Bellach, heb Goleg Cymraeg, bydd ar ben ar y Gymraeg. Mae'n bosib ein bod eisoes rhy hwyr prun bynnag.

Enw'r llyfr - anhepgorol yn y cyswllt hwn - yw [b]PROBLEM PRIFYSGOL A PHAPURAU ERAILL [/b]a gyhoeddwyd yn 2003 gan Wasg Carreg Gwalch. Yr awdur yw'r ysgolhaig o Fangor, Dafydd Glyn Jones. Ydi £6 yn ormod i'w buddsoddi, tybed, yn nyfodol yr iaith Gymraeg?

Ar y flaen-dudalen ceir dau ddyfyniad. Dewiswch chi, wedi darllen y llyfr, pa un sy'n berthnasol i chi.

1. [i]"Mae Dafydd Glyn Jones yn llygad ei le" [/i](Richard Wyn Jones, Coleg Prifysgol Cymru Aberystwyth)

2. [i]"A dweud y gwir iti 'nghariad i, dydw i'n malio dim dam" [/i](Clarke Gable yn [i]'Gone with the Wind'[/i]).
Hwntw Mawr
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 17
Ymunwyd: Llun 04 Medi 2006 11:46 am
Lleoliad: Caerffili

Postiogan Tegwared ap Seion » Sul 12 Tach 2006 2:16 am

Hwntw Mawr a ddywedodd:Ydi £6 yn ormod i'w buddsoddi, tybed, yn nyfodol yr iaith Gymraeg?


Ydi. Dwi'm yn darllen dim un o'r cylchgronau uchod. Alli di ymhelaethu? Ti i weld yn dalld y dalldings.
Aelwyd yr Ynys
Clera - Cymdeithas Offerynnau Traddodiadol Cymru

Sdwff ni a dim rhyw sothach ail-law Seisnig
Rhithffurf defnyddiwr
Tegwared ap Seion
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3443
Ymunwyd: Maw 22 Chw 2005 5:26 pm
Lleoliad: Môn

Postiogan Taflegryn » Sul 12 Tach 2006 11:02 pm

Sut yn ddaearyddol bydd y Coleg Ffederal yn gweithio? Fydd o mewn un lle megis Aberystwyth? Neu a fydd adran gymraeg Caerdydd yn symyd i Fangor?! A fydd adranau yn cau lawr oherwydd y Coleg Ffedral? Fydd on rhan o Prifysgol Cymru?

Y rheswm dwi'n gymaint o sgeptic ydy mae yna gymaint o gwestiynnau heb atebion call.

Mêt, holl ddiben Coleg Ffederal Cymraeg fyddai cynnyddu'r ddarpariaeth ym MHOB maes, yn enwedig ym maesydd sy'n wan neu heb ddim byd ar hyn o bryd megis nyrsio a meddyginiaeth


Ffantasi ydy hyn, Mêt.
Rhithffurf defnyddiwr
Taflegryn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 130
Ymunwyd: Maw 14 Hyd 2003 8:45 pm

Postiogan Rhys Llwyd » Llun 13 Tach 2006 8:59 am

Taflegryn a ddywedodd:Sut yn ddaearyddol bydd y Coleg Ffederal yn gweithio? Fydd o mewn un lle megis Aberystwyth? Neu a fydd adran gymraeg Caerdydd yn symyd i Fangor?! A fydd adranau yn cau lawr oherwydd y Coleg Ffedral? Fydd on rhan o Prifysgol Cymru?

Y rheswm dwi'n gymaint o sgeptic ydy mae yna gymaint o gwestiynnau heb atebion call.

Mêt, holl ddiben Coleg Ffederal Cymraeg fyddai cynnyddu'r ddarpariaeth ym MHOB maes, yn enwedig ym maesydd sy'n wan neu heb ddim byd ar hyn o bryd megis nyrsio a meddyginiaeth


Ffantasi ydy hyn, Mêt.


Ffederal = Aml-Safle

Fydd o ddim yn Goleg llythrennol brics a mortar jest yn strwythur ariannol a gweinyddol pwrpasol ar gyfer Addysg Gymraeg rhwng ac oddi mewn i'r sefydliadau presenol.

Pam yn union fod cynyddu'r ddarpariaeth ym maes nyrsio a meddyginiaeth yn ffantasi? Os y buddsoddir yr arian a gwneud ambell i benodiad mi fydd cynydd. Dim ond ewyllus sydd angen. Duda efo Nyrsio fod dim tiwtora neu dysgu trwy'r Gymraeg ar hyn o bryd. Wedi hyfforddi un addysgwr yn y maes a'i benodi mi fydd y ddarpariaeth wedi codi 100% dros nos.

Fe sgwenesi ddogfen drafod 'Y Glwyd Olaf' a'i gyhoeddi yn enw UMCA llynedd. Ond nid oes genyf gopi ar y cyfrifiadur hwn, fe geisiaf roi copi fyny ar y we yn fuan.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan sian » Llun 13 Tach 2006 8:59 am

Hwntw Mawr a ddywedodd:Efalle fod rhai o ohebwyr maes-e yn treulio llawer gormod o'u hamser yn gregech ar maes-e

Falle wir :wps:

Hwntw Mawr a ddywedodd:Cafwyd trafodaethe llawn yn Barn, Y Faner Newydd, Y Cymro etc ar fater y Coleg Cymraeg.

Rwy wedi darllen tipyn am y Coleg Cymraeg yn y rhain ond mae'r rhan fwya o'r trafodaethau fel pe baen nhw'n canolbwyntio ar golbio'r gelynion (tybiedig?) yn hytrach na chyflwyno'r achos dros y Coleg Cymraeg.

Hwntw Mawr a ddywedodd:Fe gyhoeddwyd llyfyr gwych iawn hefyd ar y mater gydag esboniade llawn ar shwd y bydd y Coleg Cymraeg yn cael ei gynllunio a'i sefydlu a'i gadw a'i ariannu - a phopeth arall ynglyn ag e.

Fe wna i fuddsoddi yn hwn - fel y dywedodd y pregethwr yn ein capel ni ddoe, mae'n bwysig buddsoddi yn y dyfodol.
sian
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 3413
Ymunwyd: Llun 19 Ebr 2004 4:37 pm
Lleoliad: trefor

Postiogan andras » Llun 13 Tach 2006 1:38 pm

andras
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 3
Ymunwyd: Sul 10 Medi 2006 10:03 am

Postiogan Taflegryn » Llun 13 Tach 2006 4:04 pm

Pam yn union fod cynyddu'r ddarpariaeth ym maes nyrsio a meddyginiaeth yn ffantasi? Os y buddsoddir yr arian a gwneud ambell i benodiad mi fydd cynydd. Dim ond ewyllus sydd angen. Duda efo Nyrsio fod dim tiwtora neu dysgu trwy'r Gymraeg ar hyn o bryd. Wedi hyfforddi un addysgwr yn y maes a'i benodi mi fydd y ddarpariaeth wedi codi 100% dros nos.


Pan nes i fy ngradd mewn pwnc gwyddonol toc dros ddeg mlynedd yn nol, mi ges i dros gyfnod o dair mlynedd tua 35 o ddarlithwyr gwahanol(roedd tua hanner ohonynt yn dod o wledydd tramor). O tua 150 ar yr run cwrs a mi tua 4 ohonom oedd yn rhugl yn y Gymraeg. Wedi holi fy ffrindiau a nath gradd BA, roeddant yn deud cafodd nhw tua 8-10 o ddarlithwyr gwahanol. Efallai bod angen i ymgyrchwyr sydd am Goleg Ffederal edrych sut mae gradd gwyddonol yn cael ei ddysgu ai ddarparu ar lefel brifysgol. Mewn adranau gwyddonol prifysgolion ymchwil yw ei phrif ddiddordeb - ryw mater bach ydy rhoi darlithoedd i is-raddedigion.

Ta waeth dwi ar fin darllen 'Y Glwyd Olaf'
Rhithffurf defnyddiwr
Taflegryn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 130
Ymunwyd: Maw 14 Hyd 2003 8:45 pm

Postiogan Rhys Llwyd » Llun 13 Tach 2006 4:26 pm

Taflegryn a ddywedodd:
Pam yn union fod cynyddu'r ddarpariaeth ym maes nyrsio a meddyginiaeth yn ffantasi? Os y buddsoddir yr arian a gwneud ambell i benodiad mi fydd cynydd. Dim ond ewyllus sydd angen. Duda efo Nyrsio fod dim tiwtora neu dysgu trwy'r Gymraeg ar hyn o bryd. Wedi hyfforddi un addysgwr yn y maes a'i benodi mi fydd y ddarpariaeth wedi codi 100% dros nos.


Pan nes i fy ngradd mewn pwnc gwyddonol toc dros ddeg mlynedd yn nol, mi ges i dros gyfnod o dair mlynedd tua 35 o ddarlithwyr gwahanol(roedd tua hanner ohonynt yn dod o wledydd tramor). O tua 150 ar yr run cwrs a mi tua 4 ohonom oedd yn rhugl yn y Gymraeg. Wedi holi fy ffrindiau a nath gradd BA, roeddant yn deud cafodd nhw tua 8-10 o ddarlithwyr gwahanol. Efallai bod angen i ymgyrchwyr sydd am Goleg Ffederal edrych sut mae gradd gwyddonol yn cael ei ddysgu ai ddarparu ar lefel brifysgol. Mae adranau gwyddonol prifysgolion ymchwil yw ei phrif ddiddordeb - ryw mater bach ydy rhoi darlithoedd i is-raddedigion.

Ta waeth dwi ar fin darllen 'Y Glwyd Olaf'


Wrth reswm, mi fyddai rhaid mynd at bynciau gwyddonol yn wahanol oherwydd fod eu natur yn wahanol. Cyfaill i mi sy'n Ffisegwr fuodd yn helpu fi sgwennu'r glwyd olaf ac felly rwyf yn deall gwead cwbwl wahanol adranau gwyddonol o'i gymharu a rhai celfyddydol.

Yn achos arbenigaeth byd-eang, gorau medrwn gellid gwneud penodiadau Cymreig OND yn y tymor byr gellid yn sicr gyflwyno 1. tiwtora ac 2. asesu dwy-ieithog mewn adrannau gwyddonol, hyn eisioes wedi dechrau i raddau yn Aberystwyth.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 35 gwestai