Cacamwri a ddywedodd:Sut aeth hwn neithiwr te?
Whare teg Cacamwri, ti heb anghofio dy wreiddie yng Nheredigion. Ie, shwt ath hi Jac?
Cymedrolwr: Mr Gasyth
Roedd stori Dairygold wedi mynd yn dawel nes i grwp bach o bobl ifanc lwyfannu'r ddrama Drwg yn y Caws yn Theatr Felin-fach ym mis Medi 2006. Ymatebodd y gynulleidfa i'r ddrama trwy fynd ar eu hunion i safle'r ffatri wag a cherdded o'i chwmpas mewn protest - gweithred a ddenodd sylw'r wasg genedlaethol. Ar unwaith, cyhoeddodd y gweinidog Materion Gwledig ar y pryd, Carwyn Jones, ei fod e am erlyn y cwmni.
Mae'n amlwg fod chwaraewyr y ddrama a'r gynulleidfa wnaeth brotestio wedi anfon neges rymus at Lywodraeth y Cynulliad a gyhoeddai nad oedd y stori ar ben. Bellach gwelsom ganlyniad eu penderfyniad, ac er i'r cyfan gymryd bron i ddwy flynedd, ry'n ni'n hapus iawn fod y cwmni wedi gorfod syrthio ar eu bai." Huw McConochie, Cadeirydd Gweithgor Dyffryn Aeron
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 7 gwestai