Ar Nos Iau Medi 21 bydd perfformiad o'r sioe Drwg yn y Caws yn Theatr Felin-fach, Dyffryn Aeron. Datblygwyd y sgript gan grwp o ffermwyr, plant i gyn-weithwyr y ffatri, athrawon, ac eraill dan arweiniad Cyfarwyddwr a Chynhyrchydd y sioe, Euros Lewis. Bu'r grwp yn cyfarfod drwy'r haf yn wythnosol yn Nhafarn Dyffryn Aeron i geisio canfod y gwir resymau am benderfyniad cwmni Dairygold i gau ffatri bacio caws Dyffryn Aeron. Mae canlyniadau'r ymchwil hwn yn dangos pethau erchyll am y modd mae cwmniau rhyngwladol yn gallu anwybyddu llywodraethau cenedlaethaol, rheolau'r Undeb Ewropeaidd, cynghorau sir, a hawliau gweithwyr.
Y gwir amdani yw mai carreg sarn oedd Felin-fach mewn proses ehangach gan y cwmni o resymoli. Roedd angen Felin-fach arnyn nhw er mwyn medru cyfiawnhau diswyddo gweithwyr yn Mitchelstown, Iwerddon. Yr Irish Examiner er enghraifft: Dairygold has closed its Horlicks farm and dairies with production transferring to Aeron Valley, ac erthygl arall o bapur yn Iwerddon ble mae un o reolwyr y cwmni yn dadlau nad yw Mitchelstown bellach yn ddewis real gan bod y gwaith yn gallu cael ei wneud yn rhatach o lawer yn Nyffryn Aeron.
Mae'r sioe Nos Iau yn cynnwys cyfweliadau ffilmiwyd dros y penwythnos gyda chyn-weithwyr Dairygold yn Michelstown. Tref Dairygold oedd hon mewn gwirionedd, a phan ddechreuwyd diswyddo gweithwyr yno yn ôl RTE ...the town faces 'meltdown' http://www.rte.ie/news/2004/0820/dairygold.html
Wedi i Dairygold lwyddo i gyflawni yr hyn roedden nhw eisiau ei gyflawni - diswyddo gweithwyr yn Iwerddon, aed ati'n syth wedyn i gau Felin-fach a symud peiriannau newydd dalwyd amdanyn nhw ag Arian Amcan 1 i Swydd Stafford, gan sathru ar reolau Ewrop.
I goroni'r cyfan chwaraeodd y Cynulliad ran allweddol yn yr holl broses - yn anfwriadol - drwy gyfrannu at grantiau i Dairygold i brynu peiriannau newydd yn Felinfach a hwyluso'r holl broses. Mae Carwyn Jones yn cael ei feirniadu'n llym yn y Sioe fel person wnaeth fethu sylweddoli beth oedd yn digwydd, ac mewn gwirionedd, fel person oedd ddim yn poeni rhyw lawer 'chwaith.
Mae'r sioe yn Felin-fach Nos Iau yn hollbwysig: "Dyw'r Stori Ddim ar Ben" yw'r geiriau wrth droed y poster. Mae geiriau Arundhati Roy yn arbennig o berthnasol yn hyn o beth. Yr Ymerodraeth erbyn hyn yw cwmnioedd rhyngwladol hollbwerus:
Dylai ein strategaeth fod - nid yn unig i ymladd Ymerodraeth wyneb yn wyneb ond i warchae arni. Ei hamddifadu o ocsigen. Ei chywilyddio. Ei gwawdio. Gyda'n celf, ein cerddoriaeth, ein llên, ein styfnigwrydd, ein llawenydd, ein hathrylith, ein hymroddiad di-ildio - a'n gallu i adrodd ein storïau ein hunain. Storïau sy'n wahanol i'r rhai y cyflyrwyd ni'n feddyliol i'w credu.
Fe fydd y chwyldro corfforaethol yn dymchwel os gwrthodwn ni brynu yr hyn maen nhw'n ei werthu - eu syniadau nhw, eu fersiwn nhw o hanes, eu rhyfeloedd nhw, eu harfau nhw, eu syniad nhw fod y cyfan yn anorfod.
Mae pobl Dyffryn Aeron yn dal i anadlu, yn dal i adrodd eu straeon, yn dal i wrthod yr uniongrededd hollbresennol sy'n cael ei gorfodi arnyn nhw o bob tu, yn dal i fod yn styfnig a llawen, er gwaethaf pob ymgais i'w dallu a'u tagu.
Dwy res o seddi sydd ar ôl ar gyfer y sioe - mynnwch nhw!