Tudalen 1 o 1

Blogiau newydd dros Annibyniaeth

PostioPostiwyd: Llun 22 Ion 2007 11:37 pm
gan Hedd Gwynfor
Mae tipyn o stwff lan ar y blogiau erbyn hyn. Mwy ar yr un Saesneg gan fod 1 o'r cyfranwyr mwyaf egniol yn ddi-Gymraeg. Lot o stwff difyr ar yr economi. Dewch draw i adael sylwadau...

http://annibyniaeth.blogspot.com/
http://independent-wales.blogspot.com/

Danfonwch neges breifat os hoffe chi gyfrannu :D

PostioPostiwyd: Maw 23 Ion 2007 9:51 am
gan Iwan Rhys
Llongyfarchiade i bawb sy'n ymwneud â'r blogs yma.

Pan ddaeth y pôl piniwn cynta mas yn dangos bod cefnogaeth i annibyniaeth dros yr 20%, nes i ddim talu rhyw lawer o sylw. Ro'n i'n meddwl mai rhyw one-off bach dibwys oedd e, gan dybio nad oedden nhw wedi gofyn i ddigon o bobl, ac ati. Mae arolygon y Sefydliad yn Aberystwyth wedi bod yn dangos mai ogwmas 10-12% yw'r gwir ffigwr, ond nawr mae un arolwg ar ôl y llall yn dangos bod y gefnogaeth yn 20% neu'n uwch, a hynny pan nad oes gennym ni gyfryngau cenedlaethol yn gwthio trafodaeth ar yr agenda, a phan nad yw'n plaid genedlaethol ni'n gwneud popeth o fewn ei gallu i chwalu dadleuon celwyddgar Llafur am Brydeindod.

Gobeithio y bydd y ddau flog yma yn gwneud rhywfaint o'r gwaith y gallai cyfryngau cenedlaethol, a'n plaid genedlaethol, fod yn ei wneud, a phob lwc iddyn nhw.

Oes rhywun yn gwybod pa mor aml ma'r Sefydliad yn Aberystwyth yn gwneud arolwg, a phryd ma'r un nesa'n cael ei gyhoedi?

PostioPostiwyd: Maw 27 Chw 2007 11:18 pm
gan Hedd Gwynfor
Mae'n werth gwylio'r darn yma oddi ar rhaglen Question Time wythnos diwethaf oddi ar y blog annibyniaeth. Mae Alex Salmond a Hardeep Singh Kohli yn gwneud yr achos dros annibyniaeth i'r Alban yn gryf iawn.

PostioPostiwyd: Mer 28 Chw 2007 11:08 am
gan Rhys
Dadleuon da yma dros annibynniaeth i'r Alban, y rhan fwyaf yn berthnasol i Gymru hefyd.

A Case for Independence Part 1 (Yr economi)
A Case for Independence Part 2 (Lleoliad grym)
A Case for Independence Part 3 (Ymdeimlad + perthynas â Lloegr)

PostioPostiwyd: Sad 07 Ebr 2007 3:37 pm
gan Hedd Gwynfor
Darn diddorol iawn gan Rhodri Griffiths o Blaid Werdd Cymru ar flog Annibyniaeth i Gymru.

Rhodri Griffiths - Y Blaid Werdd a ddywedodd:Rydym yn y Blaid Werdd o blaid annibyniaeth i Gymru... Mae tueddiad gyda Plaid Cymru ac yr SNP i feddwl fod ganddynt monopoli ar annibyniaeth... Hoffwn i wahodd Plaid Cymru - ac efallai Forward Wales/Cymru Ymlaen, os maent dal yn fodoli - i ymuno a ni mewn clymblaid debyg (gol. â'r Alban) yma yng Nghymru.