Tudalen 1 o 3

Blog - o'r diwedd

PostioPostiwyd: Gwe 06 Ebr 2007 10:28 pm
gan vaughan.roderick
I adael i bawb wybod- dwy'n cychwyn blog etholiadol ar wefan y BBC ddydd Mawrth. Hwn y'r tro cyntaf i'r BBC ganiatau blog go iawn yn y Gymraeg.

Peidiwch a gofyn pam...mae'n stori rhu hir!

Dwy'n gobeitho y bydd y blog o'i hun yn ddigon difyr i ddenu darllenwyr a chyfraniadau ond gan fod ei ddyfodol a'r gobaith o gael rhagor o flogs Cymraeg ar "Cymru'r Byd" yn dibynnu ar ei lwyddiant byswn yn ddiolchgar iawn pe bai pobol fan hyn yn galw draw.

Fe wnai bostio'r union gyfeiriad Ddydd Mawrth ac fe fydd dolen yn ymddangos ar dudalen etholiad a thudalen newyddion Cymru'r Byd.

Diolch

Vaughan

Re: Blog - o'r diwedd

PostioPostiwyd: Sad 07 Ebr 2007 5:50 am
gan sanddef
vaughan.roderick a ddywedodd:I adael i bawb wybod- dwy'n cychwyn blog etholiadol ar wefan y BBC ddydd Mawrth. Hwn y'r tro cyntaf i'r BBC ganiatau blog go iawn yn y Gymraeg.

Quid pro quo, Vaughan. Mae rhai ohonom wedi bod yn blogio am amser maith yn y Gymraeg ac am wleidyddiaeth, ond heb gael llawer o sylw yn y cyfryngau. Edrychwch ar y rhestr o flogiau gwleidyddol Cymreig ar Blamerbell Briefs, Iain Dale's Diary a fy mlog gwleidyddol fi i gael cipolwg ar y Cymry sy'n blogio am wleidyddiaeth Cymru yn y ddwy iaith. Os mae Ceidwadwr o Sais fel Iain Dale yn gallu rhoi sylw at flogiau Cymreig, yna mae'n hen bryd inni weld BBC Cymru yn neud yr un peth ar gyfer blogiau Cymreig a Chymraeg.

Re: Blog - o'r diwedd

PostioPostiwyd: Sad 07 Ebr 2007 6:49 am
gan vaughan.roderick
sanddef a ddywedodd:

Dwy'n gyfarwydd a'r rhan fwyaf o'r blogiau hyn....dwy'n eu darllen nhw! Dwy'n llwyr fwriadu cyfeirio at y rhai nad ydynt yn cynnwys deunydd enllibus nac anaddas (rheolai'r BBC). Mae na ambell i flog a safle (yn Saesneg fel mae'n digwydd) na fyddwn yn gallu doleni a nhw o oherwydd iaith anaddas a sylwadau personnol trahaus. Mae'r un y mae Iain Dale yn canmol yn un o rheini.

Re: Blog - o'r diwedd

PostioPostiwyd: Sad 07 Ebr 2007 7:14 am
gan sanddef
vaughan.roderick a ddywedodd: Mae'r un y mae Iain Dale yn canmol yn un o rheini.

Mae ganddo mwy nag un ar ei restr o flogiau Cymru:

0725 to Paddington
Alun Cairns AM (Con)
Alun Pugh AM (Lab)
Arsembly
Blamerbell Briefs
Chanticleer
David Banks
David Davies AM MP (Con)
David Jones MP (Con)
Dylan Jones-Evans
Emma Greenow
Glyn Davies AM (Con)
Leanne Wood AM (Plaid)
Leighton Andrews AM (Lab)
Luke Young
Mike Wood
NatWatch
Nick Bourne AM (Con)
Ordovicius (PC)
Peter Black AM (Lib)
Sky Blue Thinking
Stephen Crabb MP (Con)
Tiger Tales

Re: Blog - o'r diwedd

PostioPostiwyd: Sad 07 Ebr 2007 9:55 am
gan Tegwared ap Seion
vaughan.roderick a ddywedodd:I adael i bawb wybod- dwy'n cychwyn blog etholiadol ar wefan y BBC ddydd Mawrth.

Gwych, dwi 'di bod yn chwilio am hwn ers rhai dyddiau :)

Re: Blog - o'r diwedd

PostioPostiwyd: Sad 07 Ebr 2007 1:44 pm
gan vaughan.roderick
sanddef a ddywedodd:
vaughan.roderick a ddywedodd: Mae'r un y mae Iain Dale yn canmol yn un o rheini.

Mae ganddo mwy nag un ar ei restr o flogiau Cymru:

Digon gwir one mae'n canmol un yn arbeenig sef "Arsembly" ac fe fyddai dolenu a honna yn groes i rheolai'r BBC oherwydd natur y cynnwys.

PostioPostiwyd: Sad 07 Ebr 2007 3:25 pm
gan Rhys Llwyd
Byddaf i yn cysegru fy mlog (bron) yn llwyr i sylwebu/dyddiadur yr etholiad am yr wythnosau nesaf gan mod i mynd i fod yn taflu fy hun i ymgyrch y Blaid fan hyn yng Ngheredigion. Adroddiadau o lygad y ffynon gan un a barn bendant heb fod yn enllubus gobeithio!

PostioPostiwyd: Sad 07 Ebr 2007 5:03 pm
gan sanddef
Wel, gan ein bod yn siarad am ymweld a blogiau...

e-clectig
dechrau: Mawrth 2006
pyst: 48
Tagiau:ariannin (1) asia (1) cenedl (9) cerddi (1) cerddoriaeth (9) crefft ymladd (1) cyfriniaeth (4) dychan (2) etholiadau (6) ewrop (6) fi (1) gwleidyddiaeth (16) gwyddoniaeth (3) iaith (11) iberia (5) iwerddon (2) llyfrau (4) rhithfro (2) sinema (6) technoleg (2) teledu (2) yr alban (1)
zen (1)
"hits" : 8134
sylwadau: 10

Dw'i wedi treulio oriau maith yn sgwennu a chyfieithu erthyglau ar gyfer fy mlog. Does dim rhaid imi ddweud nad wyf yn ennill unrhyw arian am y gwaith. Ond fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddai'r ymwelwyr yn gadael sylw, hyd yn oed os dim ond un gair ydy. Ac, wrth gwrs, ar unrhyw flogiau Cymraeg eraill. Dan ni -y blogwyr- yn hyrwyddo'r Gymraeg ar y rhyngwe, ond mae blogwr sydd ddim yn cael adborth ddim yn union yn cael ei ysgogi i ddal ati.

Re: Blog - o'r diwedd

PostioPostiwyd: Sad 07 Ebr 2007 5:19 pm
gan Hen Rech Flin
vaughan.roderick a ddywedodd:
Digon gwir one mae'n canmol un yn arbeenig sef "Arsembly" ac fe fyddai dolenu a honna yn groes i rheolai'r BBC oherwydd natur y cynnwys.

Gwylier dy hun Vaughan. Bydd unrhyw un ohonom nad ydym yn derbyn sylw ar dy flog yn gallu gweld hynny fel condemniad annheg o'n blogiau fel rhai sydd yn cynnwys Iaith Anweddus, Sylwadau Personol Sarhaus neu Ddeunydd Enllibus . :winc:

Hyd y gwyddwn does neb wedi dwyn na wedi bygwth dwyn achos o enllib yn erbyn yr awdur anhysbys Blog Arsembley. Prin fod yr iaith sydd arni yn fwy anweddus na chlywir yn rheolaidd ar raglenni radio a theledu'r BBC na'r ymosodiadau mymryn yn waeth na chlywir ar raglenni dychan gwleidyddol y BBC megis Have I Got News for You. Rheolau haerllug braidd yw dy reolau felly - be di'r bwriad sensro eraill neu greu monopoli ar iaith gref a dychan i'r Bîb?

Re: Blog - o'r diwedd

PostioPostiwyd: Sad 07 Ebr 2007 5:31 pm
gan sanddef
Hen Rech Flin a ddywedodd:
vaughan.roderick a ddywedodd:
Digon gwir one mae'n canmol un yn arbeenig sef "Arsembly" ac fe fyddai dolenu a honna yn groes i rheolai'r BBC oherwydd natur y cynnwys.

Gwylier dy hun Vaughan. Bydd unrhyw un ohonom nad ydym yn derbyn sylw ar dy flog yn gallu gweld hynny fel condemniad annheg o'n blogiau fel rhai sydd yn cynnwys Iaith Anweddus, Sylwadau Personol Sarhaus neu Ddeunydd Enllibus . :winc:

Hyd y gwyddwn does neb wedi dwyn na wedi bygwth dwyn achos o enllib yn erbyn yr awdur anhysbys Blog Arsembley. Prin fod yr iaith sydd arni yn fwy anweddus na chlywir yn rheolaidd ar raglenni radio a theledu'r BBC na'r ymosodiadau mymryn yn waeth na chlywir ar raglenni dychan gwleidyddol y BBC megis Have I Got News for You. Rheolau haerllug braidd yw dy reolau felly - be di'r bwriad sensro eraill neu greu monopoli ar iaith gref a dychan i'r Bîb?

Rhaid cofio hefyd mai blog Saesneg yw "Arsembly". Does dim byd enllibus hyd y gwn i ar y mwyafrif y blogiau Cymraeg, ac am hyrwyddo blogiau Cymraeg eu hiaith o'n i'n son yn bennaf. O ran gwleidyddiaeth: Hen Rech Flin (y blog), Annibyniaeth i Gymru, Gwenu dan Fysiau, e-clectig, Blog Rhys Llwyd, mae hyd yn oed Hogyn o Rachub wedi bod yn blogio ar bethau gwleidyddol...ac unrhywun arall sydd am adio eu hun i'r rhestr.