Marchnad Dai. Swigen?

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Marchnad Dai. Swigen?

Postiogan Nanog » Mer 18 Ebr 2007 7:00 pm

Pwy sy'n iawn?

Mae hwn yn drafodaeth byr ond diddorol o'r sefyllfa yn Iwerddon. Mae'r Undeb Ewropeaidd wedi dechrau codi cyfraddau llog gyda mwy o godiadau i ddod. Mae un o'r bobl ar y fideo yn son am cryfder yr Ewro erbyn y Dollar. Ers ddoe, mae'r Dollar wedi gwanhau i 2 = 1 punt. Mae'r farchnad tai yn America wedi dechrau cwympo gyda llawer o ganlyniad i llawer o fethdaliadau. Ryw'n credu fod mwy neu lai yr un dadaleuon on berthnasol i'r Iwerddon a Chymru (a'r DU) heb law am efallai bod eu economi nhw yn gryfach. Beth sy'n mynd i ddigwydd nesa gan gofio fod pob swigen yn bostio yn y pen draw......os yw hanes yn unrhyw linyn mesur?
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Postiogan Nanog » Iau 19 Ebr 2007 11:03 am

Ydw i'n siarad wrth fy hunan 'fan hyn. Edrych fel 'ny! Ta beth, erthygl diddorol gan Ted Jones heddi ar ei flog ynglyn a'r economi.

http://ted-jones.blogspot.com/index.html
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Postiogan Nanog » Llun 17 Medi 2007 2:09 pm

Diweddariad

Ond y cwestiwn sydd rhaid gofyn yw, pam fod y Dem Rhyddion wedi aros hyd hyn cyn dweud unrhyw beth. Dwi heb glywed llawer wrth y pleidiau eraill ychwaith gan gynnwys Blaid Cymru. Nid oes syndod wrth-gwrs fod y Toriaid yn cadw'n ddistaw gyda'u record nhw.... :)

Wrth gwrs, bydd gan hyn goblygiadau pellgyrhaeddol......gan gynnwys pryd bydd y pwrsyn Brown yn galw'r etholiad nesaf. The 'good' times are over..... :(
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Re: Marchnad Dai. Swigen?

Postiogan Nanog » Maw 08 Ebr 2008 7:43 am

Pop!

House prices fell by 2.5 per cent during March, their biggest monthly decline since the 1990s' house price crash, figures showed today.


Ta ta Gordon.
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Re: Marchnad Dai. Swigen?

Postiogan Mr Gasyth » Maw 08 Ebr 2008 8:29 am

wel roedd o'n bownd o ddigwydd doedd, dim ond mater o amser.
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Re: Marchnad Dai. Swigen?

Postiogan huwwaters » Maw 08 Ebr 2008 10:06 am

Ma'r holl beth yn andros o gamarweiniol. Be ma Gordon Brown wedi neud pan yn ganghellor yw rywsut rhannu chwyddiant nwyddau a chwyddiant dai yn ddau. O ganlyniad hyn mae Llafur newydd wedi gallu dadlau fod chwyddiant wedi cael ei gadw'n isel, ond dim ond ar nwyddau ma hyn di bod. Ma chwyddiant y farchnad tai wedi mynd allan o reolaeth gan arwain at brisiau tai enfawr.

Cyfunwch y peth a gwech chi ganran debycach i be oedd hi o dan y Ceidwadwyr.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Re: Marchnad Dai. Swigen?

Postiogan Nanog » Sul 13 Ebr 2008 7:43 pm

huwwaters a ddywedodd:Ma'r holl beth yn andros o gamarweiniol. Be ma Gordon Brown wedi neud pan yn ganghellor yw rywsut rhannu chwyddiant nwyddau a chwyddiant dai yn ddau. O ganlyniad hyn mae Llafur newydd wedi gallu dadlau fod chwyddiant wedi cael ei gadw'n isel, ond dim ond ar nwyddau ma hyn di bod. Ma chwyddiant y farchnad tai wedi mynd allan o reolaeth gan arwain at brisiau tai enfawr.



Gwir

"The Bank of England is not supposed to look after the welfare of banks; that is down to the Financial Services Authority. The Bank of England has one simple task: combating inflation by keeping the Consumer Prices Index below 2%. So why is it cutting interest rates when the index is 2.5% and rising fast? Real inflation, as anyone who lives in a house, drives a car or goes to the shops knows, is well over 4%, and there is a lot more inflation in the pipeline. If the Bank were doing its job, interest rates should be static or even being raised. But it is at moments like this that you realise that the country is being governed by fools, by people who behave in a contradictory and irrational manner."


"Well over 4%".

Mae'n rhaid iddo (Brown) geisio cadw prisiau tai i fyny drwy gadw cyfraddau llog i lawr......ond mae'r gem bron ar ben nawr. Y peth da am hyn fydd cael gwared ar Lafur fydd yn sicr o ddigwydd gyda pobl yn gwario llai wrth deimlo'n dlotach ac yn ffaelu cymeryd arian mas o'r ty wrth ail-forgeisio. Y peth truenus yw fod lot o bobl yn mynd i golli eu swyddi pan fydd y swigen wedi bostio. Ond yw hi'n ddiflas fod economi Prydain mor ddibynol ar brisiau tai.....yn lle diwydiant a gwerthu nwyddau.......

"The property market has made a fool of anyone who has tried to run a business. Why slave for years to build a firm when, just by sitting in a house in London, or even parts of Edinburgh, you could turn into a millionaire?"



"The only compensation is that it is likely to destroy Gordon Brown's place in history."


Mi yfa i beint mewn mangre wrth feddwl am hynna.

Y broblem yw, pwy fydd yn debygol o lywodraethu yn eu lle nhw........

"It came apart in the 1980s with council house sales, the biggest bribe in modern history and the moment our collective obsession with property began. Now, after a tripling of house prices, Britain is the most indebted country in the developed world."


Does dim lot o obeth nag oes e?!
Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm

Re: Marchnad Dai. Swigen?

Postiogan Prysor » Llun 14 Ebr 2008 9:07 am

Catch 22 ydi hi o hyd. Marchnad yn stagnatio, prisiau tai yn gostwng... hwre i rywun sy'n chwilio am dŷ?... ond na!... achos mae'r banciau'n gwrthod rhoi morgeisi...

Wnaiff dim byd newid tan mae cartrefi'n cael eu cyfri fel adnoddau cymunedol, nid eiddo y farchnad rydd.
Rhithffurf defnyddiwr
Prysor
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3181
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 5:37 pm

Re: Marchnad Dai. Swigen?

Postiogan splosh » Sul 20 Ebr 2008 7:56 pm

Mae Iwerddon mewn sefyllfa llawer gwell na Cymru a gweddill Phrydain i oroesi y caledi economaidd sydd yn mynd i sgwaru o'r farchnad ariannol gan fod ei economi hwy wedi'i sefydlu o amgylch Ewrop yn fwy na America. Hefyd mae ei llywodraeth nhw yn fwy parod ac wedi'i rhedeg yn well yn gyffredinol.
"Killing one person is murder. Killing a thousand is foreign policy."
splosh
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 16
Ymunwyd: Iau 14 Meh 2007 6:51 pm

Re: Marchnad Dai. Swigen?

Postiogan Nanog » Llun 16 Awst 2010 7:30 pm

Nanog
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 708
Ymunwyd: Llun 26 Rhag 2005 9:13 pm


Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 14 gwestai

cron