SbecsPeledrX a ddywedodd:Ti'n disgwyl i'r BNP enill sedd rhanbarth HRF?
Ar ba sail?
Rwy'n gobeithio yn arw fy mod yn anghywir ac y bydd holl aelodau'r Maes yn chwerthin ar fy mhen ar Fai 4ydd am fod mor bell o'r marc, ond rwyf yn wirioneddol yn poeni ei fod yn bosibilrwydd.
Yn gyffredinol bydd gwell siawns i'r pleidiau llai cael aelod yn y cynulliad eleni nag a fu yn y ddau etholiad diwethaf.
Yn yr etholiad diwethaf enillodd tair o'r pedair prif blaid seddi mewn 1 rhanbarth, dwy o'r pedair mewn dau ranbarth a dim ond un o’r pedair fawr yn y ddau ranbarth arall. O ganlyniad mae'r cyfle i'r pleidiau llai i ennill sedd wedi bod yn amhosibl gan fod y pleidiau mawr a gafodd siom wedi curo'r seddi rhanbarthol. Er hynny bu nifer y pleidleisiau cyfwerth angenrheidiol ar gyfer y bedwaredd sedd yn weddol isel rhwng 6 a 7.5% y cant o'r bleidlais yn unig. (Ac os bydd y bleidlais cyn ised a 30% bydd hynny'n golygu dim ond namyn 2% o'r holl etholwyr.)
Mewn sefyllfa lle mae 3 neu 4 o bleidiau yn ennill seddau etholaethol o fewn un rhanbarth (rhywbeth sy'n fwy tebyg o ddigwydd eleni) bydd cyfanswm y bleidlais sydd ei angen ar un o'r pleidiau llai i gael pig i mewn yn lleihau.
Y rhanbarth lle mae'r pedair prif blaid yn debyg o fod yn fwyaf cyfartal o ran canran y bleidlais a dosbarthiad y seddi yw Canol De Cymru
Mae modd i'r Ceidwadwyr ennill Gogledd Caerdydd a'r Fro. Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn weddol sicr o gadw canol y brifddinas. Rwy'n credu bod gan y Blaid siawns go lew o ennill un neu ddwy ymysg etholaethau Cwm Cynnon, Pontypridd a'r Rhondda gan adael y Blaid Lafur a dwy sedd sicr a phedair posib. Dyma sefyllfa euraidd i un o'r pleidiau llai i dorri trwodd.
Pleidiau rhy "dosbarth canol" yw UKIP a'r Blaid Werdd i'r rhanbarth yma. Yn baradocsaidd, hwyrach, pleidiau dosbarth canol yw'r pleidiau sosialaidd eithafol hefyd. Mae'r BNP yn blaid sy'n apelio i'r difreintiedig, ac yn ôl yr hyn a glywaf fod yna dipyn o gefnogaeth i'w syniadau yn ardaloedd difreintiedig y cymoedd a stadau tai cyngor mawr y brifddinas.
Felly mae'r BNP yn fygythiad go iawn yn etholaeth ranbarthol Canol De Cymru, ac mae'n bwysig bod y perygl yna'n cael ei sylweddoli yn hytrach na'i hanwybyddu.