Proffwyd. Ethol. Cynulliad - BNP/UKIP?

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Proffwyd. Ethol. Cynulliad - BNP/UKIP?

Postiogan SbecsPeledrX » Iau 19 Ebr 2007 4:19 pm

[Rhwygwyd yr edefyn yma o'r edefyn hon, sef cystadleuaeth proffwydo canlyniadau etholiad y Cynulliad. Ynddo bu i'r Hen Rech Flin broffwydo fod y BNP am gipio sedd rhanbarthol, a datblygodd y drafodaeth isod yn sgil hynny. Os ydych am barhau a'r drafodaeth a fyddech gystal a gwneud hynny yn yr edefyn yma, a cadw'r edefyn arall i'r proffwydo? Diolch - Cardi Bach]

Ti'n disgwyl i'r BNP enill sedd rhanbarth HRF?

Ar ba sail?
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan sanddef » Iau 19 Ebr 2007 4:45 pm

SbecsPeledrX a ddywedodd:Ti'n disgwyl i'r BNP enill sedd rhanbarth HRF?

Ar ba sail?


A Plaid yn cymryd Caerffili hefyd?

Yn sicr ni fydd y BNP hyd yn oed yn cael eu harian yn ol, heb son am ennill sedd!
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan GT » Iau 19 Ebr 2007 4:58 pm

SbecsPeledrX a ddywedodd:Ti'n disgwyl i'r BNP enill sedd rhanbarth HRF?

Ar ba sail?


A dweud y gwir, ti ddim angen llawer iawn o bleidleisiau i gael sedd ranbarthol os nad wyt ti'n cael sedd arall.

Byddwn yn gweld UKIP yn fwy tebygol na'r BNP o gael rhywbeth a dweud y gwir.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan SbecsPeledrX » Iau 19 Ebr 2007 5:16 pm

Rwan UKIP fedrai weld hwna, a deud y gwir dwi'n eu gweld nhw'n llawer mwy o berygl na'r BNP ar hyn o bryd. Plaid asgell dde eithafol, eisiau dileu ymyraeth y wladwriaeth a'r UE ym mhob maes. heblaw ymladd y mewnlifo i loegr wrth gwrs.

Ges i eu taflen etholiadol drwy'r post ddoe. Gobeithio nad yw pobl cymru digon twp i lyncu'r populist crap yma. (No road charging, scrap the welsh assembly and sell their building, no local health boards <bring>, Stop imigration) fyccars yn neidio ar bob bandwagon asgell dde eithafol ma'r Mail a'r Currant Bun yn gallu dechrau.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan S.W. » Iau 19 Ebr 2007 5:26 pm

Heb anghofio "Scrap the Ban on Smoking in Public Places". Siwr bod nhw di meddwl yn hir a chaled cyn dod fyny hefo honne!

Dwim yn poeni gormod amdanyn nhw. Ymgais desperate gan blaid sydd wedi llwyr colli eu ffordd. Yr etholiadau Senedd Ewrop ydy unig lwyfan go iawn nhw.

Ddoth 2 'person' o'r BNP lawr stryd ni wythnos dwetha yn rhoi taflenni trwy ddrysau.. Nes i ddweud wrthyn nhw ble i fynd a bod dwim isio'u stwff nhw trwy fy nrws i.

Oedd un yn skinhead a'r llall hefo ufflon o mullet. Digon cwrtais.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan SbecsPeledrX » Iau 19 Ebr 2007 5:44 pm

Dwi'm yn meddwl eu bod di colli eu ffordd a deud y gwir. Dwi'n meddwl mai jest pathetig ydi eu ffordd. hy mae Scrap the ban on smoking in public places a no road charging yn esiamplau poblogaidd o'r hyn y maent eisiau ei gwneud. Rhain fydd yn enill pleidleisiau i gweddill eu rhaglen, sy'n digon tebyg. Scrap Health and Safety law, No taxes (let people pay for the medical treatment of their choice <h>), ban trade unions <if they can't be bought>, cut funding for welsh, irish and scotish things - trade in english only so we can rape your arse royally!

LOL oni'n meddwl bo rhywun am dadle efo fi nad oeddent o blaid scrap taxes - ond dwi'n cofio rwan - roedd eu pamffled yn deud cut council tax by 60% heb unrhyw esbobiad o sut, o le bydde'r pres yn dod yn lle neu pa wasanaethau y bysem yn eu colli o'r herwydd.
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
SbecsPeledrX
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3057
Ymunwyd: Llun 13 Ion 2003 12:32 pm
Lleoliad: Treffynnon

Postiogan Cardi Bach » Gwe 20 Ebr 2007 1:25 pm

[Rhwygwyd yr edefyn yma o'r edefyn hon, sef cystadleuaeth proffwydo canlyniadau etholiad y Cynulliad. Ynddo bu i'r Hen Rech Flin broffwydo fod y BNP am gipio sedd rhanbarthol, a datblygodd y drafodaeth isod yn sgil hynny. Os ydych am barhau a'r drafodaeth a fyddech gystal a gwneud hynny yn yr edefyn yma, a cadw'r edefyn arall i'r proffwydo? Diolch - Cardi Bach]
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan S.W. » Gwe 20 Ebr 2007 2:25 pm

I fod yn onest dwi'm yn meddwl bod unryw tebygolrwydd o'r UKIPs na'r BNP o fod o unrhyw berryg o gwbl yn Etholiadau'r Cynulliad.

Dwi'n meddwl na'r unig lwyfan y mae'r UKIPs yn debygol o ennill seddi ydy yn Etholiadau Ewrop. A hynny mewn seddi rhanbarthau Lloegr. Does dim sail ganddynt yma yng Nghymru. Plaid protest ydyn nhw yn y bon o blith cefnogwyr traddodiadol y Blaid Geidwadol. Mae hyn hefyd yn egluro'u safbwynt ar y Cynulliad. Mae nhw'n gobeithio neith hynny ddennu cefnogwyr traddodiadol y Blaid Geidwadol fydd yn anfodlon a cefnogaeth y Ceidwadwyr i fodolaeth y Cynulliad.

O ran y BNP, dwim yn gweld nhw'n dod yn agos yn y rhanbarthau chwaith, ond o ddewis 1 rhanbarth y byddant yn debygol o lwyddo yna rhanbarth Gogledd Cymru byddai hwnnw'n anffodus. Ardal arfordir y Gogledd, rhannau o Sir y Fflint a rhannau o Wrecsam ydy'r tir mwyaf ffrwythlon iddynt. Ond dwi'm yn rhagweld y tir ffrwythlon yma'n dod ag unrhyw sedd iddynt chwaith.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Re: Proffwyd. Ethol. Cynulliad - BNP/UKIP?

Postiogan Hen Rech Flin » Sad 21 Ebr 2007 3:19 am

SbecsPeledrX a ddywedodd:Ti'n disgwyl i'r BNP enill sedd rhanbarth HRF?

Ar ba sail?


Rwy'n gobeithio yn arw fy mod yn anghywir ac y bydd holl aelodau'r Maes yn chwerthin ar fy mhen ar Fai 4ydd am fod mor bell o'r marc, ond rwyf yn wirioneddol yn poeni ei fod yn bosibilrwydd.

Yn gyffredinol bydd gwell siawns i'r pleidiau llai cael aelod yn y cynulliad eleni nag a fu yn y ddau etholiad diwethaf.

Yn yr etholiad diwethaf enillodd tair o'r pedair prif blaid seddi mewn 1 rhanbarth, dwy o'r pedair mewn dau ranbarth a dim ond un o’r pedair fawr yn y ddau ranbarth arall. O ganlyniad mae'r cyfle i'r pleidiau llai i ennill sedd wedi bod yn amhosibl gan fod y pleidiau mawr a gafodd siom wedi curo'r seddi rhanbarthol. Er hynny bu nifer y pleidleisiau cyfwerth angenrheidiol ar gyfer y bedwaredd sedd yn weddol isel rhwng 6 a 7.5% y cant o'r bleidlais yn unig. (Ac os bydd y bleidlais cyn ised a 30% bydd hynny'n golygu dim ond namyn 2% o'r holl etholwyr.)

Mewn sefyllfa lle mae 3 neu 4 o bleidiau yn ennill seddau etholaethol o fewn un rhanbarth (rhywbeth sy'n fwy tebyg o ddigwydd eleni) bydd cyfanswm y bleidlais sydd ei angen ar un o'r pleidiau llai i gael pig i mewn yn lleihau.

Y rhanbarth lle mae'r pedair prif blaid yn debyg o fod yn fwyaf cyfartal o ran canran y bleidlais a dosbarthiad y seddi yw Canol De Cymru

Mae modd i'r Ceidwadwyr ennill Gogledd Caerdydd a'r Fro. Bydd y Democratiaid Rhyddfrydol yn weddol sicr o gadw canol y brifddinas. Rwy'n credu bod gan y Blaid siawns go lew o ennill un neu ddwy ymysg etholaethau Cwm Cynnon, Pontypridd a'r Rhondda gan adael y Blaid Lafur a dwy sedd sicr a phedair posib. Dyma sefyllfa euraidd i un o'r pleidiau llai i dorri trwodd.

Pleidiau rhy "dosbarth canol" yw UKIP a'r Blaid Werdd i'r rhanbarth yma. Yn baradocsaidd, hwyrach, pleidiau dosbarth canol yw'r pleidiau sosialaidd eithafol hefyd. Mae'r BNP yn blaid sy'n apelio i'r difreintiedig, ac yn ôl yr hyn a glywaf fod yna dipyn o gefnogaeth i'w syniadau yn ardaloedd difreintiedig y cymoedd a stadau tai cyngor mawr y brifddinas.

Felly mae'r BNP yn fygythiad go iawn yn etholaeth ranbarthol Canol De Cymru, ac mae'n bwysig bod y perygl yna'n cael ei sylweddoli yn hytrach na'i hanwybyddu.
Rhithffurf defnyddiwr
Hen Rech Flin
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1437
Ymunwyd: Gwe 29 Ebr 2005 2:52 am
Lleoliad: Dyffryn Conwy

Postiogan blaidd drwg » Sul 22 Ebr 2007 3:55 pm

UKIP a BNP yn ddosbarth canol? Cymon... Ond wedyn, debyg nad wyt ti wedi gwrando ar ddosbarth gweithiol Sir y Fflint yn ystod y dyddiau diwethaf hyn wrth ganfasio. Mae eu hiliaeth a'u rhagfarn yn dychryn rhywun, er mai lleiafrif ydynt. UKIP, dwi'm yn deud, ond maen nhw'n neidio ar ofnau Llafur a'r dosbarth so-called "gweithiol". Y BNP yn fwy felly, ac mae'n ddychryn. Be di'r ateb? Mae rhywun yn dweud y ffeithiau, ond pan nad ydy pobl yn eu derbyn, ac yn well ganddyn nhw wrando ar rants y Daily Mail a'u tebyg????
Mae'r blaidd drwg yn nesau
blaidd drwg
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 15
Ymunwyd: Iau 16 Meh 2005 9:26 pm

Nesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 8 gwestai

cron