Proffwyd. Ethol. Cynulliad - BNP/UKIP?

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan S.W. » Gwe 27 Ebr 2007 10:07 am

Ges i daflen y BNP drwy'r post ddoe. Yr unig Gymraeg welais i oedd Y Trallwng yn y cyfeiriad.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Dylan » Gwe 27 Ebr 2007 6:31 pm

SbecsPeledrX a ddywedodd:Glywes i ddim am hynu, da iawn Radio Wales. Piti fod S4C a Radio Cymru ddim a'r un bols.


i'r gwrthwyneb. Llongyfarchiadau i S4C a Radio Cymru am beidio llesteirio rhyddid barn. Radio Wales sydd â'r diffyg bôls
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dili Minllyn » Gwe 27 Ebr 2007 6:33 pm

Ger27 a ddywedodd:Mi wnaeth BBC Radio Wales wrthod darlledu un o ddarllediadau y BNP cwpwl o ddiwrnodau yn ol - da iawn nhw.

A phwy wyt ti, neu dechnegwyr y BBC, i benderfynu pwy s'n cael llwyfan gyhoeddus? Mewn cymdeithas rydd - peth rydyn ni i gyd yn credu ynddo, gobeithio - rhaid i bawb fod yn rhydd i leisio ei farn, faint bynnag mor wrthun yw honno i ti neu fi. Os wyt ti eisiau cymdeithas lle mae rhai syniadau'n cael eu gwahardd, gwell i ti bleidleisio dros y ffasgwyr.

Fel Iddew, byddaf yn amddiffyn i'r eithaf hawl pobl eraill i bardduo'r Iddewon, beirniadu Israel, a gwadu'r Holocost yn gyhoeddus; fel y byddaf yn sefyll yn gadarn dros fy hawl innau i anghytuno'n gyhoeddus efo nhw ac i wrthbrofi eu dadleuon.
Rhithffurf defnyddiwr
Dili Minllyn
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 1181
Ymunwyd: Llun 11 Gor 2005 6:30 pm
Lleoliad: Uwchben Ynys Echni

Postiogan Dylan » Gwe 27 Ebr 2007 6:35 pm

licio'r go mae'r Bî-en-pî yn ei gael ar Iwcip yn y daflen ges i drwy'r post heddiw gyda llaw. Werth ei ddyfynnu'n llawn (er mae'n siwr o fod ar bob un o'u taflenni ledled Prydain):

Don't be conned by UKIP either. Their leaders have used cheap Polish labour to do up their mansions. Their MEPs all broke their promise to hand over their huge Brussels expenses claims to help fund the fight against a federal EU. They're just greedy English tories in green wellies


haha!
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Nôl

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 9 gwestai

cron