Tudalen 2 o 3

PostioPostiwyd: Sul 22 Ebr 2007 6:25 pm
gan Hen Rech Flin
blaidd drwg a ddywedodd:UKIP a BNP yn ddosbarth canol? Cymon...


Na! I'r gwrthwyneb rwy'n credu bod y BNP yn beryglys oherwydd eu bod yn Blaid sy'n apelio mwy i'r difreintiedig (i'r "dosbarth gweithiol" os mae dyna'r term yr wyt am ei ddefnyddio)

blaidd drwg a ddywedodd:Ond wedyn, debyg nad wyt ti wedi gwrando ar ddosbarth gweithiol Sir y Fflint yn ystod y dyddiau diwethaf hyn wrth ganfasio. Mae eu hiliaeth a'u rhagfarn yn dychryn rhywun, er mai lleiafrif ydynt. UKIP, dwi'm yn deud, ond maen nhw'n neidio ar ofnau Llafur a'r dosbarth so-called "gweithiol". Y BNP yn fwy felly, ac mae'n ddychryn. Be di'r ateb? Mae rhywun yn dweud y ffeithiau, ond pan nad ydy pobl yn eu derbyn, ac yn well ganddyn nhw wrando ar rants y Daily Mail a'u tebyg????


Yr wyf yn poeni am y posibilrwydd o weld aelod o'r BNP yn cael ei hethol i'r cynulliad oherwydd fy mod i'n ymwybodol o apêl neges ffiaidd y BNP i'r difreintiedig yn llefydd megis Parc Caia yn Wrecsam, Pen-rhys yn y Rhondda ac Ystâd Llaneirwg yng Nghaerdydd.

Rwy'n ansicr parthed yr ateb i'r broblem. Mae yna beryglon ynghlwm ag ymosod ar y BNP oherwydd bod pob ymosodiad yn rhoi cyhoeddusrwydd i'r blaid yn ei sgil. Mae anwybyddu'r blaid yr un mor beryglus gan ei fod yn rhoi rhwydd hynt iddi ledaeni ei neges ffiaidd.

Mae unig obaith y BNP i wneud argraff yn yr etholiad yn ddibynnol ar bleidlais isel. Un o'r ffurf sicraf o sicrhau nad oes modd iddi lwyddo yw trwy sicrhau bod canran uchel o'r bobl yn pleidleisio yn yr etholiad trwy annog pawb i fwrw pleidlais.

PostioPostiwyd: Sul 22 Ebr 2007 6:42 pm
gan GT
Maddau i mi am ofyn HRF, ond ydi'r BNP yn ymgyrchu yn rhywle? Chlywais i ddim siw na miw ganddynt.

PostioPostiwyd: Sul 22 Ebr 2007 7:18 pm
gan Tegwared ap Seion
Ydyn :)

S.W. a ddywedodd:Ddoth 2 'person' o'r BNP lawr stryd ni wythnos dwetha yn rhoi taflenni trwy ddrysau.. Nes i ddweud wrthyn nhw ble i fynd a bod dwim isio'u stwff nhw trwy fy nrws i.

Oedd un yn skinhead a'r llall hefo ufflon o mullet. Digon cwrtais.

PostioPostiwyd: Sul 22 Ebr 2007 7:51 pm
gan sanddef
Rwy'n gobeithio yn arw fy mod yn anghywir ac y bydd holl aelodau'r Maes yn chwerthin ar fy mhen ar Fai 4ydd


Pam aros tan Mai? :lol:

PostioPostiwyd: Iau 26 Ebr 2007 3:34 pm
gan Llyfwr Pwdin Blew
Diddorol oedd clywed darllediad teledu y BNP noson or blaen. Nhw ydy'r unig blaid sydd wedi dweud yn gyhoeddus eu bod yn pryderu am ddirywiad iaith ar fuarth ein ysgolion. Son am Saesneg a'r Gymraeg oeddynt, nid jest y Gymraeg.

Peidiwch a poeni, dwi'm yn credu gair sy'n dod o'i gennau, yn enwedig pan mae eu tafleni yn uniaith Saeneg!

Trist mai dim ond y BNP sy'n fodlon trafod llosg bynciau yn ymwneud a mewnlifiad a dirywiad iaith. Pryd oedd y tro diwethaf i blaid Cymru fynegu pryder am hyn???

Dim ond 4 mlynedd yn ol roedd Plaid Cymru yn ceisio gwadu mai annibyniaeth oedd eu uchelgais for ffoc sec!

PostioPostiwyd: Iau 26 Ebr 2007 3:55 pm
gan SbecsPeledrX
you gotta laugh.

Darllediad etholiadol y sgymmers a ddywedodd:Efo'r holl pwyliaid yma yn symud i fewn mae Cymru yn gwynebu mewnlifiad fel nad yw hi wedi ei weld erioed or blaen


:lol: :rolio:

A'u cynghorydd yn fy ardal i? Sais o fewnfudwr a Phrydeiniwr rhonc, ex coldstream guards, dim gair o Gymraeg.

BNP "Cymru" :D :D :D :D :D

Ar mater mwy dwys, gwarth ar technegwyr y BBC am adael i'r fath sothach gael ei ddarlledu. Dim asgwrn cefn.

PostioPostiwyd: Iau 26 Ebr 2007 4:07 pm
gan Ger27
Mi wnaeth BBC Radio Wales wrthod darlledu un o ddarllediadau y BNP cwpwl o ddiwrnodau yn ol - da iawn nhw.

Mi wnes i ddal diwedd eu darllediad nhw ar S4C. Llwyth o rybish, ond ddim mor "extreme" a mae nhw wedi bod yn y gorffenol. Dwi'n gweld pleidlais y BNP yn codi yn y dinasoedd a'r trefi mawr, ond mi fyddent dal yn bell iawn o gael sedd fyddwn i'n tybio.

PostioPostiwyd: Iau 26 Ebr 2007 4:13 pm
gan SbecsPeledrX
Glywes i ddim am hynu, da iawn Radio Wales. Piti fod S4C a Radio Cymru ddim a'r un bols.

PostioPostiwyd: Iau 26 Ebr 2007 11:11 pm
gan Iesu Nicky Grist
Diddorol fel odd advert s4c (yr un Cymraeg :ofn: ) yn wahanol i'r un ar bbc Wales. (ma ishe gwenoglun protruding tongue!) Welodd rhywun Ricky fucking Tomlinson ar advert y socialists heno? (ma gwir angen gwenoglun protruding tongue!)

Ma gwleidyddiaeth Cymru mor ddiddorol.

GWENOGLUN PROTRUDING TONGUE

PostioPostiwyd: Gwe 27 Ebr 2007 12:46 am
gan Hen Rech Flin
Iesu Nicky Grist a ddywedodd: Welodd rhywun Ricky fucking Tomlinson ar advert y socialists heno?



Ers cychwyn yr ymgyrch yr wyf wedi bod yn dilyn Newsnight Scotland, sydd i'w gweld ar ôl Newsnight "go iawn" ar BBC 2 Scotland; a gan hynny wedi dal nifer o’r PPB's Albanaidd, gan gynnwys un y Socialist Labour party. Roedd darllediad SLP yr Alban bron gair am air yr un ag un Gymru ond efo lluniau gwahanol. Dyma Blaid sy'n honni credu mewn ymreolaeth i Gymru oddi wrth Loegr - ond nid oddi wrth Sgotland mae'n ymddangos.

Dyma wenoglyn i gyfleu fy marn amdanynt: Delwedd

Lle dda am ddewis amgen o wenoglyniau.