DEFEND COUNCIL HOUSING
erthygl gan AUSTIN MITCHELL
http://www.poptel.org.uk/scgn/
Beth am Hedd a Dewi prysor pwyso am gefnogaeth i ymgyrchoedd fel hyn yn Lloegr er mwyn codi "solidarity"
Cymedrolwr: Mr Gasyth
Sori Hedd ond CULNI yw dy agwedd yma.
Dyna'r rheswm mae wrth-gymraeg yn casau cenedlaetholwyr.
HOGIA NI SY'N PWYSIG SNEB ARALL YN CYFRI!
mae cydweithio a phobl gyda phrofiadau tebyg yn ddefnyddiol o hyd!
Chris Castle a ddywedodd:Bydd newidiadau i hyn ond:-
http://www.welshfabianessays.net
Ymunais ar Gymuned am y reswm doedd CIG ddim yn gwneud dim o werth ar y pryd. Ond ti'n iawn eu bod nhw'n mynd ar lwybr anghywir, mae'n debyg bydd rhaid imi ymadael yn fuan.
Wyt ti'n dweud taw mudiad dros Cenedlaetholdeb yw Cymdeithas yr Iaith? Adain Militant Plaid Cymru efallai?
Dwi ddim yn gofyn neb i fynd i Loegr a gweithredu. Jyst am lythyr o gefnogaeth! Gofyn ydw i i'r mudiadau sy'n cwyno am broblemau TAI sy'n effeithio ar ein Iaith cefnogi a deall ymgyrchoedd dros problemau Tai PRYDEINIG.
Mudiad sy'n gweithio dros y pethau sy'n effeithio ar oroesiad yr iaith yw CIG. Os mae prosesau hyn yn bodoli ar draws Prydain mae rhaid gweithredu ar lefel Prydeinig, gyda mudiadau eraill sy'n gwneud yr un peth. Os mae prosesau yn gweithredu ar lefel Ewropiaidd mae angen gweithredu ar lefel Ewropiaid.
Dyna reswm wnaeth yr Undebau ymuno â'r ILP, Fabians, a'r Co-operative Party i greu Plaid LAfur. - roedd rhaid inni dderbyn roedd ein problemau sylfaenol yn dod o'r tu allan y gweithle. Fel Undebwr Lafur dwi wedi cefnogi Undebau ym Mhakistan, ffiji, America, Bryste ac ati pryd eu bod nhw wedi gofyn am gefnogaeth. Ond dwi'n nabod lot o "Comrades" sy'n meddwl yr un fath a Ti "what's Fiji/Pakistan/Bristol to me?" Syndicalists ydyn nhw - ideoleg sy'n gallu bod yn "Comunitarian" ond hefyd sy'n gallu dirywio i fod yn ffasgaeth.
MAe pobl fel Lorraine Barret/Llew Smith ac ati yn credu mae'r iaith yn dim ond esgus ar gyfer syniadau cul dros codi muriau rhwng pobl - dyna pam dwi'n dy feirniadu. Dwi'n awgrymu modd ichi newid eu meddyliau. Mae problem Tai abersoch yr un problem tai yng Nghaerdydd ac Oxford ac Bournmouth. Methiant Cenedlaetholwyr yw deall hyn. Dyna pam mae sawl Lafurwr yn credu eich bod chi'n ar y llwybr ffasgaidd.
Mae Lafurwyr yn gwrando ar bobl sy'n "fight your corner but show solidarity"
Os ydych chi'n jyst gweiddi FI FI FI FI FI FI, CYMRU CYMRY CYMRU CYMRY cewch chi eich anwybyddu a'ch ceryddu.
'fight your corner but show solidarity"
Dwi'n cytuno y byddai yn syniad da llythyru, a rhannu gwybodaeth. Mae wedi cael ei wneud ar amryw o adegau yn y gorffenol, a bydd yn syniad da ei wneud eto
...
Mae CYIG wedi trefnu cynhadledd ddechrau'r flwyddyn nesaf yn San Steffan i drafod y problem dai yma yng Nghymru. Mae aelodau'r Gymdeithas o bob sir yng Nghymru yn mynd i fod y n bresennol, ac maent yn llythyru eu haelodau seneddol er mwyn eu cael nhw i fod yn bresennol. Yn ogystal mae gwahoddiad wedi mynd i Aelodau Seneddol mewn mannau eraill ym Mhrydain, er enghraifft ardal y llynoedd yn lloegr yn gofyn iddyn nhw fod yn bresennol. Mae aelodau o'r grwp Deddf Eiddo yn ogystal wedi cysylltu a chynghorwyr a aelodau blaenllaw eraill o'r ardaloedd yma yn Lloegr a gofyn iddyn nhw i fod yn bresennol.
Sai'n siwr sut i ymateb i'r pwynt yma. Mae braidd gormod o falu c***u a dwi ddim yn siwr be ti'n trio dweud.
Paid defnyddio'r term Ffasgaidd mor hawdd.
CYMRY YW FY NGWLAD I
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 23 gwestai