Chris, dydy popeth ddim amdanat ti, ti'n gwybod? Chill, tipyn bach - dim ond gwefan yw hon, cofia
Jyst i gymryd un peth o'r dadl uchod, rhywbeth dyn ni'n dau wedi trafod o'r blaen: y tuedd o grybwyll fasgiaeth yn yr un frawddeg â chenedlaetholdeb yn mynd yn hen, hyd yn oed os wyt ti'n dyfynnu pobl eraill. Mae cenedlaetholwyr yr unfed ganrif ar hugain yn <i>gwybod</i> hanes Plaid Cymru. Mae Sion Jobbins (neu Brooks, sa i'n cofio) wedi sgwennu rhywle darn sy'n derbyn bob un o dy bwyntiau am syniadaeth Saunders Lewis rhwng y rhyfelau ond ti'n dal yn defnyddio yr un hen ddadl yn erbyn cenedlaetholwyr. Ocê, ocê, <i>we get it</i>!
Ydy Ffred Ffrancis yn ffasgaidd? Ydy Angharad Tomos? Ydy Cynog Dafis neu Simon Brookes? Ydy Seimon Glyn - ti fas o fyd ffantasi yr <i>Welsh Mirror</i>? Ydy Emyr Llew? Os wyt ti'n meddwl bod nhw, rho tystiolaeth - a nady, nid yw'r ffaith bod nhw i gyd wedi darllen <i>Ati, Wyr Ifainc</i> ddim yn profi dim, fel dydy'r ffaith bod ti wedi darllen gweithiau hanfodol dy ethos di ddim yn golygu dy fod di'n derbyn bob gair bob un onohyn nhw.
I ddweud bod bob math o genedlaetholdeb yr un peth yw i chwarae gêm <i>reducto ad absurdum</i>. Ydy sosialaeth Paul Flynn yr un peth â sosialaeth Stalin? Wrth gwrs nady fe.
Dw i ddim cweit yn deall yr holl angst am dy Gymreictod, achos am wn i does neb yma wedi dweud gair ambyti, a 'sen nhw wedi byddwn i wedi bod y cyntaf ar y barricades gyda ti.