Cath Ddu a ddywedodd:O ran vote Plaid get Tory yn gelwydd. Wel pam? Ydi o'n fwy o gelwydd na vote Plaid get Labour? Hyd y gwelaf mae Plaid yn fodlon gweithio gyda LLafur ac hefyd fel prif wrthblaid yn fodlon cyd-weithio gyda'r Ceidwadwyr. Beth yn union oedd y celwydd fan hyn felly?
Dydi o ddim yn fwy nag yn llai o gelwydd na hynny, ond a bod yn deg a'r Toriaid (yn genedlaethol os nad yn lleol) mae eu hymgyrch wedi bod braidd yn fwy cadarnhaol nag un Llafur.
Gellir cwmpasu ymgyrch Llafur yng ngeiriau Rhodri Morgan - yn fras -
If the people of Wales don't elect a Labour government, they'll get a Tory led something or other.
Edrych ar eu taflen ranbarthol - mae dwy ran o dair ohoni yn ymarferiad mewn darogan erchylldra a gwae os caiff y Toriaid eu dwylo ar y gwasanaeth iechyd, neu'r gwasanaeth addysg (ag ystyried record Llafur yn y ddau faes yma, mae'r honiad yn cymryd cryn wyneb - ond stori arall ydi honno).
Edrych ar flog Martin ac mae'n gwneud rhyw lun ar ymdrech i egluro i ni pam y byddai'n 'anodd' cydweithredu efo'r Blaid - annibyniaeth a gwahaniaethau sylfaenol mae'n debyg.
A thrwy hyn oll, mae'n ymddangos mai eu gobaith ydi y bydd y Blaid yn achub eu crwyn wedi iddynt gael cweir wythnos i ddydd Iau.
Y gwir ydi bod Llafur yn gwybod y byddai llawn mor hawdd (neu anodd) gan y Blaid gyd weithredu efo Llafur, nag efo'r Toriaid. Iddyn nhw, mater o fathemateg ydi'r peth - os ydi amgylchiadau yn mynnu hynny, byddant yn gwneud pob dim posibl i ffurfio llywodraeth gyda chefnogaeth y Blaid.
O'm rhan fy hun (nid bod fy marn i'n bwysig yn hyn o beth), byddai'n well gen i weld llywodraeth sy'n cael ei harwain gan y Blaid, ac a fyddai hefyd yn cynnwys Toriaid (ac ambell i annibynwr os oes rhaid). Ni fyddwn am weld Lib Dems na Llafur mewn llywodraeth o'r fath.
'Dwi ddim yn arbennig o hoff o'r Toriaid (fel y gwyddost 'dwi'n siwr), ond byddai llywodraeth o'r fath yn well nag unrhyw gyfuniad arall sy'n debygol o ffurfio. Byddai'n iachach i wleidyddiaeth Cymru petai Llafur allan o rym am sbel, byddai hefyd yn iachach pe bai'n glir na fydd y Lib Dems mewn grym pob tro na all Llafur gael 30 sedd.
Yn bwysicach byddai'n rhoi cyfle i newid gwleidyddiaeth Cymru. Gallai llywodraeth effeithiol (yn hytrach na'r shambyls a gafwyd am wyth mlynedd) roi gobaith o leiaf, i newid natur llwythol gwleidyddiaeth llawer o Gymru, ac yn gwneud etholiadau yn rhywbeth amgen nag ymarferiad llwythol mewn pleidleisio yn erbyn cael llywodraeth Doriaidd yn Llundain, a gallai arwain at drawsnewid gwleidyddiaeth Cymru a'i wneud yn aeddfetach ac yn fwy tebygol i symud tuag at ymreolaeth cenedlaethol.
Gobaith gwrach efallai ond mae aelodau mwy galluog y Cynulliad yn Doriaid ac yn Bleidwyr - a byddai gobaith o wneud llwyddiant o bethau.