Ai fi di'r unig un nad yw'n gweld hon yn llawer o stori?
Mae Llafur wedi datgan yn gyson na fyddent yn cyd-weithio gyda'r Ceidwadwyr a'r Ceidwadwyr felly hefyd yn achos LLafur.
Ni chredaf fod Llafur (er gwaethaf y dacteg Vote Plaid Get Conservatives) wedi ymwrthod yn llwyr a'r posibilrwydd o gyd-weithio gyda'r ddwy blaid arall (sef LD's a Plaid) ac mae'r modd y cafodd ymgeisydd Llafur Mon chwip din am ei sylwadau ar Pawb a'i Farn yn cadarnhau hyn.
Beth felly yw gwraidd y stori 'fawr' yma? Onid y ffaith fod y stori yn dilyn flip flopio IWJ ar y mater sydd wedi codi'r diddordeb? Wn i ddim.
Ta waeth, mae Dylan Jones-Evans yn hollol gywir wrth nodi fod heddiw yn ddatblygiad pwysig yn etholaeth Aberconwy (felly hefyd Gorll. Clwyd fe dybiaf). Yn ngwyneb sylwadau IWJ a LLafur (boed swyddogol neu ddim) ymddengys fod honiad y Ceidwadwyr fod pleidlais i Plaid yn cyfateb i gadw Llafur mewn grym yn debygol o fod yn neges na all etholwyr ei gwadu o ran bod yn ffeithiol gywir. Dwi'n credu fod hyn, os dim arall, yn gwneud trafodaeth y cyfryngau heddiw yn ddatblygiad pwysig o ran dyfodol dwy sedd (ac eraill megis Maldwyn efallai) lle mae'r rhaniad pleidlais wrth Lafur yn digwydd rhwng y Ceidwadwyr a Plaid.
Cawn weld.