Llafur yn fodlon trafod â Phlaid Cymru

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Cwlcymro » Maw 24 Ebr 2007 12:46 pm

I ddechra dydi Rhodri ddim yn deud dim byd ar y stori yma

Rhoderz
"Welsh Labour is aiming to form a government based on a mandate from the people of Wales".


i.e. dim denial o unrhyw fath - dim son am be ddigwyddith AR OL yr etholiad.

IWJ
"However, we will not support a failing Labour government on an informal basis, propping up the shambles that we've seen over the past eight years."


BBC
BBC Wales understands that Plaid would demand major concessions from Labour at Westminster as well as in Cardiff Bay in return for its support, including a commitment to a rapid expansion in the assembly's powers.


Dim on gwrthwynebu yr "administration" presennol ma'r Blaid. Pa odds y bysa nhw'n barod i weithio a LLafur HEB Rhodri Morgan wrth y llyw? Geni deimlad ella fod y "leak" yma yn waith gen Lafurwyr cefnogol i Carwyn syn eitha ffansi'r syniad o gael gwared o Rhodri ASAP ac yn gweld cytundeb efo Plaid fel y ffordd ora i wneud hynny.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan jac » Maw 24 Ebr 2007 12:51 pm

Rhaid dweud fy mod yn mwynhau'r ymgyrch yma fwy fwy. Ar y cychwyn mi o'n i'n sicr mae clymblaid Llafur / Rh Cym oedd y canlyniad anochel i'r etholiad. Bellach, dydy hynny ddim yn sicr o gwbl. Mae'n edrych yn fwy tebygol pob dydd y bydd gan Blaid Cymru rol allweddol wrth penderfynnu cyfansoddiad y llywodraeth nesaf.

Yn bersonol, Fel Aled, mae'n lot well gen i weld clymblaid PC / C / Rh Cym na cytundeb rhwng PC a Llafur sy'n caniatau i Lafur dal grym. Ond os mae pris cytundeb yw diwygio y fformiwla Barnett - a bod cynnydd sylweddol yn yr arian sy'n dod i Gymru - yna heb os mi fyddai hynny'n fuddugoliath sylweddol i Gymru - ac yn hwb mawr i stoc Blaid Cymru yn yr hir dymor.
Rhithffurf defnyddiwr
jac
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 171
Ymunwyd: Iau 14 Hyd 2004 2:29 pm

Postiogan Mr Gasyth » Maw 24 Ebr 2007 1:18 pm

y gwahaniaeth mawr rhwng Llafur a'r Ceidwadwyr wrth gwrs ydi fod Llafur mewn grym yn San Steffan a felly gyda llawer mwy o ffafrau/polisiau i'w rhannu. Gallai clymblaid gyda Llafur weld diwygio Barnett neu rhoi mwy o bwerau i'r Cynulliad tra na all y Ceidwadwyr wneud y fath ymrwymiadau hyd yn oed tasen nhw isho (tan 2009/10 o leia).
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Rhods » Maw 24 Ebr 2007 3:33 pm

O edrych ar hyn - mi wnath Plaid wrth gwrs llwyddo i gael deal ffantastig i Gymru yn nhrafodaethau'r gyllid gyda Llafur yn mis Rhagfyr....£300,000 yn ychwanegol ar gyfer blwyddyn ariannol 2006/07....mae hyn yn gweithio allan £156 y flwyddyn i bob ysgol neu £3 yr wythnos i bob ysgol - roedd hyn yn gonseshwn enfawr wrth gwrs ac yn newyddion gret i i Gymru!!!!!!....ac hefyd llwyddwyd i cal peth arian yn ol yn sgil Tir Mynydd (wel ma fe £12miliwn yn llai na beth oedd e ond errrr mi wnawn ni ddim rili son am hynny wrth gwrs :? ) O gofio hyn - ar gwellaint enfawr gwnath Plaid a IWJ llwyddo gael i Gymru - ma pethe yn argoeli'n dda ir gytundeb posib ma rhwng Plaid a Llafur........ :?
Rhithffurf defnyddiwr
Rhods
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1266
Ymunwyd: Gwe 06 Ion 2006 2:17 pm

Postiogan S.W. » Maw 24 Ebr 2007 4:09 pm

Rhods = pregethwr yr efengyl yn nol Ceidwadwyr Cymru. Mae darllen ymatebion Rhods fel darllen maniffesto'r Ceidwadwyr.

Ti'n foi iawn Rhods ond ffyc mi, ti'n waith caled!
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan Ger27 » Maw 24 Ebr 2007 4:16 pm

Mr Gasyth a ddywedodd:y gwahaniaeth mawr rhwng Llafur a'r Ceidwadwyr wrth gwrs ydi fod Llafur mewn grym yn San Steffan a felly gyda llawer mwy o ffafrau/polisiau i'w rhannu. Gallai clymblaid gyda Llafur weld diwygio Barnett neu rhoi mwy o bwerau i'r Cynulliad tra na all y Ceidwadwyr wneud y fath ymrwymiadau hyd yn oed tasen nhw isho (tan 2009/10 o leia).


Pwynt da. Byddai glymaid PC-Tory yn golygu bod na dair plaid yn deddwriaethu dros Gymru - tydi hynny ddim yn aergoili'n dda.

Mae Deddf Llywodraeth Cymru 2006 wedi ei strwythuro mewn ffordd sydd yn golygu bod yn rhaid i'r berthynas rhwng San Steffan a'r Bae fod yn gryf. O fis Mai ymlaen, gall Peter Hain ddefnyddio ei veto dros holl fesyrau sy'n cael eu llunio gan y Cynulliad. Mae pawb yn gwybod beth yw teimladau Hain dros Blaid Cymru a'r Tories, sydd yn gwneud i mi boeni byddai hi bron yn amhosibl i glymblaid PC-Tory fod yn effeithiol.

Wedi dweud hynny, gall popeth fod yn vice-versa os[/pan] bydd Cameron yn rheoli Westminster, felly nid yw'r sefyllfa yn un perffaith o bell ffordd.
Rhithffurf defnyddiwr
Ger27
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 343
Ymunwyd: Maw 30 Mai 2006 3:01 pm
Lleoliad: Caerdydd

Re: llafur yn fodlon trafod efo Plaid Cymru

Postiogan anffodus » Maw 24 Ebr 2007 6:13 pm

aled g job a ddywedodd:Pam ar wyneb y ddaear dylid cynnal breichiau plaid fethiannus sydd:

* Wedi gwneud smonach gydag ad-drefnu ysbytai cymunedol
*Wedi torri eu haddewid am ofal am ddim i'r henoed
* Wedi methu'n llwyr a manteisio ar arian amcan Un i wella economi'r Gorllewin a'r Cymoedd
*Yn gwbl lugoer ynghylch dyfodol y Gymraeg
*Wedi gelyniaethu llawer o bobl y gogledd gyda'u diffyg diddordeb yn fan hyn
* Yn parhau'n rhan annatod o holl dwyll Llafur newydd ynghylch rhyfel Iraq
*Yn credu bod ganddyn nhw ryw hawl ddwyfol i reoli Cymru
* Yng ngofal dyn sydd ag un uchelgais yn unig ar gyfer Cymru: sef bod wrth y llyw ar gyfer Ryder Cup 2009!!!!

Byddai rhai yn dweud na fyddai pledleiswyr Llafur y cymoedd byth yn maddau i PC petae nhw'n mynd i glymblaid efo'r Toris.
Ond oni fyddai o les mawr i bobl y cymoedd gael eu rheoli gan rywun heblaw Llafur bellach, wedi methiannau'r Blaid yn y rhan hon o Gymru dros y ganrif ddiwethaf? Ac onid cychwyn newydd sydd angen ar bobl Cymru ben baladr erbyn hyn?Onid oes teimlad cyffredinol ymhob rhan o'r wlad bod Llafur wedi chwythu'i plwc yn lan? Onid peth da i ddemocratiaeth Gymreig fyddai gweld Llafur yn yr anialwch gwleidyddol am gyfnod- nid yn unig o ran ni yr etholwyr ond hefyd o'u rhan nhw, iddyn nhw gael adnewyddu eu hunain?


Dwi'n cytuno'n llwyr efo chdi 'de ond yn anffodus, yn enwedig yn y cymoedd ma 'na lot o deyrngarwch i Lafur o hyd. Ma nhw dal i gofio'r petha da naethon nhw ddegawda nol, heb sylweddoli bron bod y blaid di newid gymaint. O'n i'n siarad efo ryw hen anti i fi chydig yn ol ag wrth son am yr etholiad soniodd hi bod hi dal i bleidleisio i Lafur ers blynyddoedd am eu bod nhw wedi cal hawlia i'r gweithwur ddegawda nol.

Ond fel arfar y to hyn sgin y teyrngarwch 'ma felly dwi'n rhagweld y bydd o'n diflannu'n raddol dros y blynyddoedd nesa' e.e. ar hacio neithiwr efo'r ffug-etholiad efo 4 o ysgolion o'r de-ddwyrain mi ddoth Llafur yn ola' un.
Cod ar dy draed y llipryn! Lle ti'n feddwl wt ti?! Butlins?!!
anffodus
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 265
Ymunwyd: Maw 07 Maw 2006 7:31 pm
Lleoliad: trefor (yn y tywyllwch - newydd gal powercut)

Re: llafur yn fodlon trafod efo Plaid Cymru

Postiogan Hogyn o Rachub » Maw 24 Ebr 2007 7:06 pm

anffodus a ddywedodd:Ond fel arfar y to hyn sgin y teyrngarwch 'ma felly dwi'n rhagweld y bydd o'n diflannu'n raddol dros y blynyddoedd nesa' e.e. ar hacio neithiwr efo'r ffug-etholiad efo 4 o ysgolion o'r de-ddwyrain mi ddoth Llafur yn ola' un.


Ti'n cofio'r canlyniadau?
"Be gymrwch chi Wiliam, ai salad ta beth?"
"Oes rhaid i chi ofyn? Wel, tatws trwy crwyn!"

Y Rachub Rydd Gymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Hogyn o Rachub
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4939
Ymunwyd: Gwe 25 Hyd 2002 7:59 pm
Lleoliad: Caerdydd a Rachub

Postiogan anffodus » Maw 24 Ebr 2007 8:16 pm

Ryw fath. O'r cynta i'r ola':

Plaid Cymru
Democratiaid Rhyddfrydol
Ceidwadwyr?
Plaid Pobl Ifanc?
Llafur.

Dwi'm yn gwbod faint o bleidleisiau gafodd pawb chwaith.
Cod ar dy draed y llipryn! Lle ti'n feddwl wt ti?! Butlins?!!
anffodus
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 265
Ymunwyd: Maw 07 Maw 2006 7:31 pm
Lleoliad: trefor (yn y tywyllwch - newydd gal powercut)

Postiogan GT » Maw 24 Ebr 2007 11:04 pm

Un neu ddau o bwyntiau brysiog ynglyn a stori fawr y diwrnod:

Yn gyntaf mae beth ddigwyddodd yn gwbl rhyfeddol. Canolbwynt ymgyrch Llafur hyd yma oedd Vote Plaid, get Tory. Yn sicr, dyma unig thema etholiadol yr ymgeisydd Llafur yn yr ardal yma. Eto - os ydi stori'r BBC i'w gredu, bwriad gwirioneddol Llafur ydi dod i gytundeb a Phlaid Cymru wedi'r etholiad - rhywbeth maent wedi tyngu na fyddent yn ei wneud ers misoedd.

Mae Rhodri Morgan bellach yn gwadu hyn, ac mae Peter Hain wedi rhyddhau datganiad sydd ar yr olwg gyntaf yn gwadu'r honiad - ond o edrych yn agosach nid yw'n gwadu'r peth o gwbl.

Mae sawl eglurhad:

(1) Mae'r gohebydd a dorrodd y stori, Vaughan Roderick, yn dweud celwydd.

(2) Mae Rhodri Morgan yn dweud celwydd.

(3) Mae rhywun oddi fewn i'r Blaid Lafur yn gweithredu tu cefn i Rhodri, ac yn ol pob tebyg yn cynllwynio yn ei erbyn.

(4) Mae Rhodri yn rhyw hanner dweud y gwir hy mae yn gynnil efo'r gwirionedd.

Fe allwn ddiystyru (1) cyn gwneud dim byd arall. Mae'n gwbl sicr y byddai'n rhaid i Vaughan brofi tu hwnt i pob amheuaeth i reolwyr y Bib bod y stori'n wir, neu ni fyddai wedi ei rhyddhau gan y Bib. Petai Vaughan yn cael ei ddal yn dweud celwydd, byddai yn sefyll yng nghiw dol Cowbridge Road yn fuan yr wythnos nesaf.

Fe allwn hefyd anghofio (3). Efallai bod gan Rhodri elynion oddi mewn i'w blaid - a rhai sydd yn gogwyddo tuag at Plaid Cymru ar hynny - ond mae'r wybodaeth mor ffrwydrol yng nghyd destun yr etholiad arbennig yma, fel ei bod yn anhebygol y byddant yn darnio eu hymgyrch eu hunain er mwyn niweidio Rhodri - yn sicr yng nghanol etholiad.

Mae (2) yn bosibl. Bydd gwleidyddion yn dweud celwydd yn aml.

Ond (4) yw'r mwyaf tebygol. Mae'n debyg gen i bod Llafur wedi bod yn edrych ar eu data canfasio, ac wedi dod i'r casgliad na allant reoli ar eu pen eu hunain, a'i bod yn fwy na phosibl na fyddant yn gallu ffurfio llywodraeth efo'r Democratiaid Rhyddfrydol chwaith. Mae trafodaeth fewnol anffurfiol wedi mynd rhagddi, ac mae plan C wedi ei ffurfio - llywodraeth Lafur yn cael ei chefnogi o'r tu allan gan y Blaid. Dydi Rhodri heb arwain hyn, ond mae'n ymwybodol o'r deillianau. Mae rhywun wedi penderfynu paratoi'r ffordd trwy siarad gyda Vaughan, ond nid yw Rhodri wedi rhoi caniatad iddynt wneud hynny.

Beth bynnag Vaughan, da iawn chdi - hwyrach bod y bennod bach hon am wneud mwy o les i Walia nag a lwyddaist i'w wneud yn dy orffennol pell mwy, ah hem, chwyldroadol.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 5 gwestai