Tudalen 1 o 3

Diffig Posteri Etholiadol

PostioPostiwyd: Mer 25 Ebr 2007 9:33 am
gan HuwJones
Mae na drafodaeth ar flog Y Byd ynglyn a diffyg posteri etholiadol i'w gweld wrth yrru o gwmpas Cymru.

Es i swyddfa Plaid Cymru yn Llangefni i gynnig sticio posteri fyny ymhobman ond ges i ordars reit bendant i beidio meiddio neud y fath beth!

Yma yn Ynys Môn mae'r mae pleidiau yn gallu cael dirwy o £200 am bob un poster wedi gosod ar bostyn lamp neu deliffon. Yn ol criw y Blaid mae'r awdurdodau (y Cyngor Sir dwi'n cyrmyd?) yn dweud bod rhaid gyrru lori efo jac "cherry picker" i'w tynnu. Tasa cwpl o ddwsin o bosteri yn gallu costio'r Blaid miloedd o bunnoedd.

Yn yr ardal yma mae rhywun yn plastro posteri gigs efo past papur wal yn cael llwyth o strach hefyd.

Mae hynny'n gwarthus! Mae'n cyfyngu ar hawliau i fynegu barn ac mae stopio fly postio posteri gigs yn neud hi'n anodd iawn i gynnal sioau o'r fath. Heblaw am hynny mae'r awdurdodau'n cwbl anghywir mae tref heb bosteri ddim yn edrych yn well mae o'n ymddangos fell lle boring, di-ddim.

PostioPostiwyd: Mer 25 Ebr 2007 10:23 am
gan huwwaters
Dwi'n meddwl yr ateb i hyn yw gwna posteri dy hun, a cer di a dy ffrindiau i'w rhoi i fyny ym mhobman.

PostioPostiwyd: Mer 25 Ebr 2007 10:26 am
gan SbecsPeledrX
Be am trefnu criw i fynd rownd yn codi swp o bosteri'r Blaid "Lafur"?

PostioPostiwyd: Mer 25 Ebr 2007 10:30 am
gan Hedd Gwynfor
Dim yn syniad da. Bydd Plaid Cymru yn cael dirwy mawr os yw hyn yn digwydd.

Y peth gore i'w wneud ydy cynnig helpu codi arwyddion y Blaid yng ngerddi cefnogwyr. Galle ti fynd rownd tai pobl ti'n meddwl sy'n gefnogol i'r Blaid yn dy ardal, a holi os fyddai'n iawn gosod arwydd yn yr ardd?

PostioPostiwyd: Mer 25 Ebr 2007 11:06 am
gan garynysmon
Ti'n gwbod os oes gan y swyddafa yn Llangefni sticeri car Ieuan Wyn ta? Dwi efo un Alun Ffred yn barod gan mod i'm 'schmoozio' rhwng y ddau etholaeth yn aml.

Fferm rhwng Bryngwran a Llangefni wedi codi arwyddion Ieuan Wyn Jones bora ma 'fyd. Swn i'm yn synnu dim mai un o gaeau Bob Treban oedd o (Bob Parry, FUW)

PostioPostiwyd: Mer 25 Ebr 2007 9:44 pm
gan Cwlcymro
Canlyniad Helfa Drysor Posteri Etholiadol yr A470 o Benygroes i Gaerdydd:

Plaid = 30 (2 Alun Ffred, 28 Dafydd El)
Lib = 15 (2 Bates, 13 Kirsty Williams (6 yn yr un cae ddo!))
Toriaid = 13 (tri cae efo 4 yr un i Suzie Davies a un ar y ffor mewn i Gaerdydd i Jonathan Morgan)
Llafur = 0 - honestli, DIM UN postar LLafur yr holl ffordd o Benygroes i Rhath, Caerdydd!

O gerddad o gwmpas Rhath heddiw

Lib Dem = 5
Plaid = 1
Llafur = 1 (cynta i fi weld unrhywle etholiad ma)
Toriaidd = 0

Sticeri Ceir

Plaid = 1 (fi!)
Llafur = 0
Toriaid = 0
Lib Dem = 0

Sticeri ceir ddim mor boblogaidd blwyddyn yma yn amlwg!

PostioPostiwyd: Mer 25 Ebr 2007 9:54 pm
gan huwcyn1982
Mae na bosteri Sophie Howe (Llafur, Gogledd Caerdydd) ar yr A470 jyst cyn cylchfan Gabalfa.

A mae na bosteri Sue Lent (Llafur, Canol Caerdydd) dros adeilad y GMB ar ffordd Casnewydd, ac mewn ambell i ardd ar hyd Richmond Road.

Y Toriaid sy' ar goll yng Nghaerdydd - y "shy tories" fatha 1992, efallai...

PostioPostiwyd: Mer 25 Ebr 2007 9:57 pm
gan Cwlcymro
huwcyn1982 a ddywedodd:Mae na bosteri Sophie Howe (Llafur, Gogledd Caerdydd) ar yr A470 jyst cyn cylchfan Gabalfa.


Ochr canol y ddinas i gybalfa dwin cymeryd? Nesi droi off am Rhath so eshi ddim fforna

A mae na bosteri Sue Lent (Llafur, Canol Caerdydd) dros adeilad y GMB ar ffordd Casnewydd, ac mewn ambell i ardd ar hyd Richmond Road.


Cofio byw yn RIchmond Road adag etholiad '05 - ty ni yn plastyrd efo posteri Plaid tra odd Llafur a Lib Dems bobman arall!

Y Toriaid sy' ar goll yng Nghaerdydd - y "shy tories" fatha 1992, efallai...

Cwpwl o bosteri mewn gardd jusd cyn cyrradd Gabalfa ar y ffordd i mewn i Gaerdydd

PostioPostiwyd: Mer 25 Ebr 2007 9:57 pm
gan garynysmon
Welish i rywyn efo fflag Car (fel rhai Lloegr adeg Cwpan y Byd), y Blaid Lafur rownd Bangor.

PostioPostiwyd: Iau 26 Ebr 2007 11:41 am
gan Y Fampir Hip Hop
Posteri Lafur sydd yn amlwg rownd ffor' hyn, gyda ambell o un Lib. Ma' cefnogaeth gryf lawr fan hyn da'r Blaid Lafur o hyd, ers dyddie y Llais Llafur o Ystalyfera, ond does dim gobeth da nhw ennill, ers diflannodd y diwydiant glo. Fel mae'r Libs yn hoff o ddweud - ras rhwng y Toriaid a nhw yw e.

Dimond heddi nes gal gwbod pwy ddiawl oedd yn rhedeg am Llafur, rhyw foi di-flach o Aberhonddu gyda'r poster/taflen mwya diflas erioed. Diddorol ffindo mas hefyd bod y hen Gwynoro Jones yn rhedeg am set yn yr ardal 'ma.

Ond nol at y phosteri - Llafur mwya', wetyn y Libs, trydydd Plaid (dimond un ne dau), ac yn ola', y Toris.