huwcyn1982 a ddywedodd:Mae na bosteri Sophie Howe (Llafur, Gogledd Caerdydd) ar yr A470 jyst cyn cylchfan Gabalfa.
A mae na bosteri Sue Lent (Llafur, Canol Caerdydd) dros adeilad y GMB ar ffordd Casnewydd, ac mewn ambell i ardd ar hyd Richmond Road.
Y Toriaid sy' ar goll yng Nghaerdydd - y "shy tories" fatha 1992, efallai...
Tan yr wythnos ola' 'ma o'n i'n gweld hi'n eithaf agos rhwng Llafur a'r Libs yng Nghanol Caerdydd, ond mae'r Rhyddfryds yn mynd ar y blaen erbyn hyn.
Oes unrhyw un wedi gweld poster Toris yng Nghaerdydd o gwbl? Dw i 'di gweld mwy o rhai Plaid Cymru, a mentrwn i ddweud mai Plaid fydd y lleiaf cryf o'r 4 prif blaid yma!