Tudalen 2 o 3

PostioPostiwyd: Gwe 04 Mai 2007 11:19 pm
gan Clebryn
Fel un sydd yn deall anghenion y byd amaeth; yn gwerthfawrogi anghyfiawnder y gwahardidad hela ac yn meddu ar brofiad busnes helaeth, mae Angela Burns llawn cystal ag unrhyw ymgeisydd arall ac yn gaffaeliad i'r Cynulliad!

PostioPostiwyd: Gwe 04 Mai 2007 11:35 pm
gan Clebryn
Beth oedd addasrwydd John Dixon i'r sedd wledig yma?

Mae ei gefndir proffesiynnol yn y maes Technoleg Gwybodaeth.

Fe'i annwyd a'i fagwyd yng nghyffinniau Caerdydd, tra gwasanaethodd am 15 ml fel cynghorydd tref a chynghorydd sir yng nhyffiniau Bro Morgannwg!

Beth oedd yn ei wneud e felly yn gymwys i gynrychioli sedd wledig Hedd?

PostioPostiwyd: Gwe 04 Mai 2007 11:36 pm
gan Hedd Gwynfor
Clebryn a ddywedodd:Fel un sydd yn deall anghenion y byd amaeth; yn gwerthfawrogi anghyfiawnder y gwahardidad hela ac yn meddu ar brofiad busnes helaeth, mae Angela Burns llawn cystal ag unrhyw ymgeisydd arall ac yn gaffaeliad i'r Cynulliad!


Mae'r byd amaeth yng Nghymru yn wahanol IAWN i'r byd amaeth yn Lloegr Clebryn. Buaswn i'n disgwyl i genedlaetholwr honedig ddeall hyn. Wyt ti wirionedol yn dweud fod mewnfudwraig sy'n gwrthwynebu hela yn well ymgeisydd (yn dy farn di fel cenelaetholwr :lol: ) na John Dixon? Os felly, mae rhywbeth yn bod yn rhywle...

PostioPostiwyd: Gwe 04 Mai 2007 11:41 pm
gan Dylan
o blaid hela ti'n feddwl? Ti angen cwsg Hedd :winc:

PostioPostiwyd: Gwe 04 Mai 2007 11:43 pm
gan Clebryn
Dylan a ddywedodd:o blaid hela ti'n feddwl? Ti angen cwsg Hedd :winc:

:lol:

PostioPostiwyd: Gwe 04 Mai 2007 11:55 pm
gan Hedd Gwynfor
Dylan a ddywedodd:o blaid hela ti'n feddwl? Ti angen cwsg Hedd :winc:


Shit, ie. Amser cysgu...

PostioPostiwyd: Sad 05 Mai 2007 2:16 am
gan Mr Gasyth
Hedd Gwynfor a ddywedodd:
Clebryn a ddywedodd:Fel un sydd yn deall anghenion y byd amaeth; yn gwerthfawrogi anghyfiawnder y gwahardidad hela ac yn meddu ar brofiad busnes helaeth, mae Angela Burns llawn cystal ag unrhyw ymgeisydd arall ac yn gaffaeliad i'r Cynulliad!


Mae'r byd amaeth yng Nghymru yn wahanol IAWN i'r byd amaeth yn Lloegr Clebryn.


Ers pwyd wyt ti mor wybodus am y byd amaeth Hedd?

PostioPostiwyd: Sad 05 Mai 2007 11:11 am
gan Cwlcymro
Clebryn a ddywedodd:Aberconwy: Gareth Jones (Plaid Cymru) Bydd Gareth at best yn one term aelod o'r cynulliad ac ar y maenciau cefn. Shwd siom fod DJE wedi colli allan fama


Anheg iawn ar Gareth Jones - Mi wneith o lawer gwell aelod Cynulliad na DJE. Ddim yn shwr be ydi obseshwn lot o bobl efo DJE, tra fod o fil gwaith gwell na Denise Idiot, mi wneith Gareth lawer gwell joban fel Aelod Cynulliad (a fel aelod o'r prif wrthblaid mi fydd o ar fainc llawer mwy i'r blaen na fysa DJE wedi gallu bod :winc: )

PostioPostiwyd: Sad 05 Mai 2007 11:47 am
gan Hedd Gwynfor
Mr Gasyth a ddywedodd:
Hedd Gwynfor a ddywedodd:
Clebryn a ddywedodd:Fel un sydd yn deall anghenion y byd amaeth; yn gwerthfawrogi anghyfiawnder y gwahardidad hela ac yn meddu ar brofiad busnes helaeth, mae Angela Burns llawn cystal ag unrhyw ymgeisydd arall ac yn gaffaeliad i'r Cynulliad!


Mae'r byd amaeth yng Nghymru yn wahanol IAWN i'r byd amaeth yn Lloegr Clebryn.


Ers pwyd wyt ti mor wybodus am y byd amaeth Hedd?


Wyt ti'n anghytuno gyda'r datganiad? Ni ddywedais mod i'n holl-wybodus ar y pwnc, dim ond fod yna wahaniaethau sylfaenol rhwng y byd amaeth yma yng Nghymru ac yn Lloegr. Dwi wedi byw yng ngefn gwlad Cymru trwy gydol fy oes ti'n gwybod.

PostioPostiwyd: Sad 05 Mai 2007 1:09 pm
gan rooney
Clebryn a ddywedodd:Gorllewin Clwyd: Darren Millar (Ceidwadwyr) Y peth dwethaf i ni am weld ydy twf gwleidyddiaeth adain dde/ffwndamentalaidd cristnogol ala George Bush yma yng Nghymru. Mae Millar yn ymgorfforiad o'r traddodiad yma.


Clebryn, pam iselhau y gweddill o dy gyfraniadau gyda'r datganiad yma.
Os dwedodd Millar fod rhyw hoyw yn bechod, mae hynny'n gwbl gywir yn ol y Beibl. Ac rwy'n siwr fod llawer o bleidleiswyr y Ceidwadwyr yng Ngogledd Cymru yn bles gyda aelod sydd yn mynd i siarad yn blaen ac hefo synnwyr cyffredin a deallusrwydd y werthoedd moesol y bobl. Mae llawer gormod o wleidyddion "proffesiynol" ganddom yn barod yn yr asembli sy'n meddwl mae gwrthoedd gwleidyddol gywir yw'r unig werthoedd sydd gan y bobl. Gobeithio bydd Millar yn David Davies pobl y Gogledd. 8)

Falle nad yw'r realiti yna'n eistedd yn rhy gyfforddus gyda'r ddewledd newydd Blairaidd Cameron, ond dyna lle mae Cameron yn mynd o chwith ddwedwn i- cofio'r ymateb gafodd Cameron yn gynhadledd y Toriaid pan soniodd am briodasau hoyw? Nid oes angen i'r Toriaid symud ffwrdd oddi wrth werthoedd traddodiadol moesol cristnogol y gymdeithas er mwyn curo Llafur y tro nesaf. Ac y mwyaf y gwneith y Toriaid symud ffwrdd oddi wrth y gwerthoedd traddodiadol yna y mwyaf gwneith pobl symud tuag at yr UKIP, ac ati.

Ogleuwch spin Llafur yn y linc canlynol. Spin Llafur wedi methu, Alun Pugh allan, HAHHAHAHAH
http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/6599193.stm