Tudalen 3 o 3

PostioPostiwyd: Sad 05 Mai 2007 11:11 am
gan Cwlcymro
Clebryn a ddywedodd:Aberconwy: Gareth Jones (Plaid Cymru) Bydd Gareth at best yn one term aelod o'r cynulliad ac ar y maenciau cefn. Shwd siom fod DJE wedi colli allan fama


Anheg iawn ar Gareth Jones - Mi wneith o lawer gwell aelod Cynulliad na DJE. Ddim yn shwr be ydi obseshwn lot o bobl efo DJE, tra fod o fil gwaith gwell na Denise Idiot, mi wneith Gareth lawer gwell joban fel Aelod Cynulliad (a fel aelod o'r prif wrthblaid mi fydd o ar fainc llawer mwy i'r blaen na fysa DJE wedi gallu bod :winc: )

PostioPostiwyd: Sad 05 Mai 2007 11:47 am
gan Hedd Gwynfor
Mr Gasyth a ddywedodd:
Hedd Gwynfor a ddywedodd:
Clebryn a ddywedodd:Fel un sydd yn deall anghenion y byd amaeth; yn gwerthfawrogi anghyfiawnder y gwahardidad hela ac yn meddu ar brofiad busnes helaeth, mae Angela Burns llawn cystal ag unrhyw ymgeisydd arall ac yn gaffaeliad i'r Cynulliad!


Mae'r byd amaeth yng Nghymru yn wahanol IAWN i'r byd amaeth yn Lloegr Clebryn.


Ers pwyd wyt ti mor wybodus am y byd amaeth Hedd?


Wyt ti'n anghytuno gyda'r datganiad? Ni ddywedais mod i'n holl-wybodus ar y pwnc, dim ond fod yna wahaniaethau sylfaenol rhwng y byd amaeth yma yng Nghymru ac yn Lloegr. Dwi wedi byw yng ngefn gwlad Cymru trwy gydol fy oes ti'n gwybod.

PostioPostiwyd: Sad 05 Mai 2007 1:09 pm
gan rooney
Clebryn a ddywedodd:Gorllewin Clwyd: Darren Millar (Ceidwadwyr) Y peth dwethaf i ni am weld ydy twf gwleidyddiaeth adain dde/ffwndamentalaidd cristnogol ala George Bush yma yng Nghymru. Mae Millar yn ymgorfforiad o'r traddodiad yma.


Clebryn, pam iselhau y gweddill o dy gyfraniadau gyda'r datganiad yma.
Os dwedodd Millar fod rhyw hoyw yn bechod, mae hynny'n gwbl gywir yn ol y Beibl. Ac rwy'n siwr fod llawer o bleidleiswyr y Ceidwadwyr yng Ngogledd Cymru yn bles gyda aelod sydd yn mynd i siarad yn blaen ac hefo synnwyr cyffredin a deallusrwydd y werthoedd moesol y bobl. Mae llawer gormod o wleidyddion "proffesiynol" ganddom yn barod yn yr asembli sy'n meddwl mae gwrthoedd gwleidyddol gywir yw'r unig werthoedd sydd gan y bobl. Gobeithio bydd Millar yn David Davies pobl y Gogledd. 8)

Falle nad yw'r realiti yna'n eistedd yn rhy gyfforddus gyda'r ddewledd newydd Blairaidd Cameron, ond dyna lle mae Cameron yn mynd o chwith ddwedwn i- cofio'r ymateb gafodd Cameron yn gynhadledd y Toriaid pan soniodd am briodasau hoyw? Nid oes angen i'r Toriaid symud ffwrdd oddi wrth werthoedd traddodiadol moesol cristnogol y gymdeithas er mwyn curo Llafur y tro nesaf. Ac y mwyaf y gwneith y Toriaid symud ffwrdd oddi wrth y gwerthoedd traddodiadol yna y mwyaf gwneith pobl symud tuag at yr UKIP, ac ati.

Ogleuwch spin Llafur yn y linc canlynol. Spin Llafur wedi methu, Alun Pugh allan, HAHHAHAHAH
http://news.bbc.co.uk/1/hi/wales/6599193.stm

PostioPostiwyd: Sad 05 Mai 2007 8:53 pm
gan Saflon
Hedd,
Mae rhai o dy gyfraniadau di yn yr edefyn yma yn ymddangos yn blentynaidd iawn ar adegau - braidd gormod ohonynt i restru.
Dwi yn gyn aelod o'r Blaid ac mae genai llawer iawn o ffrindiau dal ynddi ac mae gennyf barch mawr iddyn nhw a rhai o'u safbwyntiau.
Dydd Iau pleidleisias i Dafydd El yn yr etholaeth ac i'r Ceidwadwyr ar y rhestr rhanbarthol, fel llawer,llawer iawn o fobol eraill yn lleol yma.
Pam? Yn syml am mai dyma oedd y pobol sydd wedi gweithio yn galetach drosom ni yma yn y Blaenau (er fyddai rhai yn dadalau i'r gwrthwyneb ar adaegau am Dafydd).
Roedd Glyn Davies a Lisa Francis wedi gweithio'n galed iawn yn y Cynullad i gymunedau fel Stiniog, bydd ei colled yn enfawr.
Diolch i'r drefn fod na aelodau o'r Blaid sydd mwy dioddefgar ac yn wir, chydig mwy aeddfed yn ei agwedd tuag at eraill na thi. Ti angen "chillio" allan Hedd a siarad mwy hefo pobol go iawn allan yn y byd heb wisgo dy "plaid tinted glasses" frawd 8) .

PostioPostiwyd: Sad 05 Mai 2007 9:01 pm
gan Hedd Gwynfor
Saflon a ddywedodd:Roedd Glyn Davies a Lisa Francis wedi gweithio'n galed iawn yn y Cynullad i gymunedau fel Stiniog, bydd ei colled yn enfawr.


Cytunaf, roedd Glyn a Lisa gyda'r gore o blith y Ceidwadwyr.

Saflon a ddywedodd:Hedd a siarad mwy hefo pobol go iawn allan yn y byd heb wisgo dy "plaid tinted glasses" frawd 8) .


Nid "plaid tinted glasses" ond rhai cenedlaetholgar. Fi yw'r 1af i ymosod ar Blaid Cymru os nad wy'n teimlo eu bod yn gwneud y peth iawn.

Dwi'n cytuno, roedd peth o'r cyfraniadau uchod yn anaeddfed, ond roedd hi bron yn 1am a doeddwn i heb gysgu ers deuddydd bron - i fod yn deg! :winc:

PostioPostiwyd: Sad 05 Mai 2007 9:07 pm
gan Nanog
Fe hoffwn i wybod mwy am Mohammed Ashgar....

Mi ges i hwn o flog Vaughan Rhoderick.


Linc

"I will be serving with my heart and soul for the ethnic minorities which are an integral part of the United Kingdom and Wales," meddai Ashgar.
Dwi ddim yn siwr o beth i feddwl am y geiriau hynna....?

PostioPostiwyd: Sad 05 Mai 2007 9:09 pm
gan Hedd Gwynfor
Nanog a ddywedodd:Fe hoffwn i wybod mwy am Mohammed Ashgar....

Mi ges i hwn o flog Vaughan Rhoderick.


Linc

"I will be serving with my heart and soul for the ethnic minorities which are an integral part of the United Kingdom and Wales," meddai Ashgar.
Dwi ddim yn siwr o beth yw feddwl am y geiriau hynna....?


Dyma beth sydd ar wefan y Blaid:

Ganwyd Mohammad Asghar yn Pashawar yn 1945 ac mae’n byw ar hyn o bryd yng Nghasnewydd.

Mynychodd Brifysgol Pashawar a chwblhau cwrs cyfrifeg yng Ngholeg Nash, Casnewydd.

Mae wedi sefyll dros Blaid Cymru mewn etholiadau blaenorol, gan gynnwys yr Etholiad Cyffredinol diwethaf. Mae Mohammad yn Gydlynydd Rhanbarthol i’r Blaid ac yn aelod o’r Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol.

Ymhlith diddordebau Mohammad mae athletau a badminton, ac mae hefyd yn gefnogwr criced brwd. Mae gan Mohammad drwydded peilot ac mae’n mwynhau hedfan.

Mae diddordebau gwleidyddol Mohammad yn cynnwys datblygu economaidd, ac mae’n teimlo’n gryf am frwydro’n erbyn eithrio cymdeithasol.

PostioPostiwyd: Sad 05 Mai 2007 9:10 pm
gan Saflon
Ond y ffordd ti wedi bod yn siarad, mae'n ymddangos os mae Ceidwadwyr ydi'r pobol yma mae nhw allan o tune a Brits dy nhw.
Ti'n gor symleiddio pethau, dwi'n genedlaetholwr a dwi isio senedd llawn i Gymru a dwi'n meddwl y byddai cyfraniad rhai o'r Blaid Geidwadol yn bwysig iawn ar lawr senedd o'r fath.
Ar adegau rwy'n gallu uniaethu yn well efo rhai ohonyn nhw nac ambell i bolisi neu ddatganiad gan aelodau o'r Blaid - mae hynny yn naturiol yn fy mhoeni :ofn: ...er nid y fi sydd wedi newid ond y Blaid.

PostioPostiwyd: Sad 05 Mai 2007 9:18 pm
gan Nanog
Dioch Hedd. Yr unig beth wy'n gobeithio yw fod Ashgar yn teimlo'n angerddol dros Gymru a'r mudiad cendlaethol. Mi gawn i weld.

Dwi'n cytuno 'da ti Hedd taw'r Blaid yw'r unig ffordd ymlaen.....ond dwi hefyd yn anhapus ac ambell beth fel y nodwyd gan Sanddef.....sef y £5000 i brynwyr tai a'r busnes lap-tops ma.

PostioPostiwyd: Sad 05 Mai 2007 9:26 pm
gan Hedd Gwynfor
Nanog a ddywedodd:Dioch Hedd. Yr unig beth wy'n gobeithio yw fod Ashgar yn teimlo'n angerddol dros Gymru a'r mudiad cendlaethol. Mi gawn i weld.

Dwi'n cytuno 'da ti Hedd taw'r Blaid yw'r unig ffordd ymlaen.....ond dwi hefyd yn anhapus ac ambell beth fel y nodwyd gan Sanddef.....sef y £5000 i brynwyr tai a'r busnes lap-tops ma.


Ie, nid oedd y rhain gyda'r syniadau gorau. :? Ond dwi ddim yn credu y bydd hi'n bosib i unrhywun gytuno gyda pob polisi unrhyw blaid. Y pecyn sy'n bwysig, a Plaid Cymru yw'r unig blaid genedlaetholgar, Gymreig a Chymraeg a'r pethau yma sy'n bwysig i mi.