A ddylid dysgu 'Creadaeth' yn yr ysgolion?

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan sanddef » Sul 06 Mai 2007 5:32 pm

Dydy creadigaeth ddim yn dderbyniol fel rhan o fyd addysg. Fe fydd rhaid i Mr Miller gilio ar y syniad neu fydd ei yrfa ar ben cyn iddo ddechrau, mor syml a hynny.
Meh
Rhithffurf defnyddiwr
sanddef
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1608
Ymunwyd: Llun 04 Hyd 2004 9:27 am

Postiogan Dylan » Sul 06 Mai 2007 5:48 pm

meddwl mai creadaeth ydi'r gair Cymraeg
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan rooney » Sul 06 Mai 2007 5:51 pm

huwwaters a ddywedodd:Bydda'n ofalus cyn gwneud honiadau. Mae esblygiad wedi ei brofi, a mae'n digwydd yn ddyddiol


ydy ni'n siarad am yr un math o esblygu? dwi'n amau
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Dylan » Sul 06 Mai 2007 5:55 pm

rooney a ddywedodd:
huwwaters a ddywedodd:Bydda'n ofalus cyn gwneud honiadau. Mae esblygiad wedi ei brofi, a mae'n digwydd yn ddyddiol


ydy ni'n siarad am yr un math o esblygu? dwi'n amau


pa fath arall o esblygiad biolegol sy' 'na? Yr un mecanwaith sylfaenol sydd wrth wraidd y cwbl
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan ceribethlem » Sul 06 Mai 2007 5:57 pm

rooney a ddywedodd:
huwwaters a ddywedodd:Bydda'n ofalus cyn gwneud honiadau. Mae esblygiad wedi ei brofi, a mae'n digwydd yn ddyddiol


ydy ni'n siarad am yr un math o esblygu? dwi'n amau
Cymer fel un enghraifft syml, y pepperred moth, Biston Betularia. Mae hwnna'n profi esblygiad.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Cwlcymro » Sul 06 Mai 2007 6:03 pm

I ddechra rooney sa well fi bwyntio allan nad ydwi erioed wedi darllen gair gan Dawkins, ond ma dy rybish am "hynod fregus".

Theori ydi esblygu ia. Ond theori ydi gravity heyfd - dwi'n cymeryd fod chdi'n coelio hwnnw?

In common usage, people often use the word theory to signify a conjecture, an opinion, or a speculation. In this usage, a theory is not necessarily based on facts; in other words, it is not required to be consistent with true descriptions of reality. True descriptions of reality are more reflectively understood as statements that would be true independently of what people think about them.

In science, a theory is a mathematical description, a logical explanation, a verified hypothesis, or a proven model of the manner of interaction of a set of natural phenomena, capable of predicting future occurrences or observations of the same kind, and capable of being tested through experiment or otherwise falsified through empirical observation. It follows from this that for scientists "theory" and "fact" do not necessarily stand in opposition. For example, it is a fact that an apple dropped on earth has been observed to fall towards the center of the planet, and the theory which explains why the apple behaves so is the current theory of gravitation.


Ma hyd yn oed yr eglwys gatholig yn derbyn fod esblygu yn ffaith. A ma'r Anglicans yn anghyfforddus efo'r syniad o ddysgu creadaeth.

In March 2006, Archbishop of Canterbury Rowan Williams, the leader of the world's Anglicans, stated his discomfort about teaching creationism, saying that creationism was "a kind of category mistake, as if the Bible were a theory like other theories."


-felly yndi, ma'r syniad o ddysgu creadaeth fel gwyddoniaeth yn hurt ac eithafol. Does na ddim un darn o dystiolaeth gwyddonol i brofi creadaeth. Fel ddudodd Rowan Williams ei hun, dydio ddim yn theori "fel theoris erill (i.e. gwyddonol). theori yn ei ddiffiniad cyffredin ydi creadaeth - i.e. "a conjecture, an opinion, or a speculation"
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dylan » Sul 06 Mai 2007 6:09 pm

rooney a ddywedodd:rant arall gan y ffwndamentalwr seciwlar, Dawkings loving Dylan, ac mae'n debyg fod Dylan yn awyddus i wthio theoriau heb eu profi (e.g. esblygu) fel ffeithiau ar blant ysgol? pam ddylai dy grefydd di, fod dy gyndeidiau yn fwnciod, gael ei wthio ar blant pobl eraill?


'mond newydd sylwi ar hwn. Wwwff, mae'n boenus. Mae 'na'n llythrennol fwy o bethau cwbl gwbl sylfaenol yn hollol anghywir yn y pwt bach yma nag sydd yna o linellau ynddo. O diar.

rant arall gan y ffwndamentalwr seciwlar


Dydi hwnna ddim yn gwneud synnwyr. A does a wnelo seciwlariaeth ddim byd a wnelo â dadliadau personol beth bynnag. Mae modd bod yn grefyddol ac yn seciwlar. Ond ddim yn ffwndamentalwr.

ac mae'n debyg fod Dylan yn awyddus i wthio theoriau heb eu profi (e.g. esblygu) fel ffeithiau ar blant ysgol


haha

fel o'n i'n dweud, mae'n gwbl amlwg nad wyt ti'n deall hanfodion gwyddoniaeth. Wyt ti wir yn meddwl bod "theori" gyfystyr â "dyfalu"? Os wyt ti, does dim gobaith.

Mae esblygiad yn ffaith empeiraidd ac yn theori. 'Dan ni'n ei weld yn digwydd, ac yn cofnodi hynny. Y theori ydi'r fframwaith ddeallusol 'dan ni'n ei ffurfio ar ôl casglu'r holl wybodaeth er mwyn esbonio'r dystiolaeth. Ein dealltwriaeth presennol a ddysgir i blant. Mae ymchwil dal yn cael ei wneud ar rai o'r manylion, ond mae'r fframwaith ei hun yn gyfan gwbl gadarn. Rock (!) solid.

Mae fframwaith theoryddol esblygiad ymysg y cadarnaf mewn gwyddoniaeth i gyd. Pam nad wyt ti'n teimlo yr un mor gryf ynglyn â "theori" disgyrchiant neu "theori" atomau?

pam ddylai dy grefydd di


does gen i ddim crefydd, fel y gwyddost yn iawn. Ond mae'n ddifyr dy fod yn defnyddio "crefydd" fel insylt! Ai cydnabyddiaeth ydi hyn bod crefydd yn system ddeallusol is-raddol a dy fod yn trio dy orau i dynnu gwyddoniaeth i "lawr" i dy lefel budr di?

fod dy gyndeidiau yn fwnciod


haha

hahahaha

doedden nhw ddim, yn syml. Sgen ti wir ddim syniad o gwbl nagoes? Pwy ddiawl wyt ti i hefru mor daer a hunan-gyfiawn am rhywbeth nad wyt ti wedi ffwdanu dysgu'r peth cynta amdano?
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan rooney » Sul 06 Mai 2007 6:16 pm

os chi ddim yn gwybod y gwahaniaeth rhwng micro-evolution a macro-evolution falle fod hi'n syniad darllen fyny cyn trafod y pwnc yma
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Dylan » Sul 06 Mai 2007 6:21 pm

rooney a ddywedodd:os chi ddim yn gwybod y gwahaniaeth rhwng micro-evolution a macro-evolution falle fod hi'n syniad darllen fyny cyn trafod y pwnc yma


haha

does dim gwahaniaeth o gwbl. Mae'n honiad hollol ffug, a'n fodd i dwpsod ddefnyddio bach o jargon sy'n eu galluogi i deimlo bach mwy clyfar. Mae fel dweud bod mecanweithiau cwbl wahanol ar waith mewn taith gar rhwng Caernarfon a Llandudno ar y naill law a rhwng Caernarfon a Lerpwl ar y llaw arall.

mae fyny i ti i esbonio beth yn union sy'n rhwystro esblygiad rhag mynd ymhellach na rhyw bwynt penodol. A fedri di ddim, achos dydi'r fath beth ddim yn bodoli. Nes bod ni'n ffindio rhywbeth sy'n achosi hynny, does dim rheswm yn y byd i dderbyn ei fodolaeth.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Cwlcymro » Sul 06 Mai 2007 6:22 pm

Ma tri sblitio micro a macro evolution yn dacteg gyffredin gen extremists crefyddol. Ma'n un arall o'i blinkers hoff nhw. Bob tro mae darn o Gristnogaeth (dwin shwr fod on wir am grefydda erill hefyd, ond cristnogaeth dwin gwybod mwy adano) yn cael ei brofi yn anghywir, ma'r efengyls yn ffendio rhyw flincar i beidio goro derbyn y ffaith.

Pan atha ni i'r gofod a edrych lawr i graidd y ddaear mi brofo ni fod na ddim nefoedd na uffern fyny fancw a lawr fandraw. Felly mi symudodd yr efengyls y goalposts a dweud ma rhyw fath o fetaffor oedd y nefoedd ac uffern a fod on bodoli mewn rhyw ddimensiwn arall.

Pan brofwyd fod hi'n amhosib i'r byd fod wedi ei greu mewn 7 diwrnod (pryd yn union oedd oes y deinosoriaid lly?) mi symudwyd y goalposts eto. "Metaffor" oedd 7 diwrnod rwan, go iawn mi oddna filoedd o flynyddoedd rhwng bob "dydd". (Heblaw am yr ecstrimists wrth gwrs, sy dal, riwsut, yn mynnu fod dyn ac anifal wedi cyrradd y byd yr un diwrnod :rolio: )

Rwan ma nhw'n trio gwneud yr un peth efo esblygiad. I ddechra mi oedda nhw'n mynnu fod y peth i gyd yn anwiredd. Wedyn pan brofwyd fod o yn dgwydd (fel efo'r pili palas) mi benderfynno nhw fod na wahaniaeth rhwng micro a macro-evolution, a fod un yn ffaith a'r llall yn ffwlbri.

Ma'n hen bryd i bobl sdopio symyd y goalposts a edrach ar y ffeithia tu ol ir blincars.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 33 gwestai

cron