A ddylid dysgu 'Creadaeth' yn yr ysgolion?

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan rooney » Sul 06 Mai 2007 6:24 pm

Cwlcymro a ddywedodd:I ddechra rooney sa well fi bwyntio allan nad ydwi erioed wedi darllen gair gan Dawkins, ond ma dy rybish am "hynod fregus".

Theori ydi esblygu ia. Ond theori ydi gravity heyfd - dwi'n cymeryd fod chdi'n coelio hwnnw?


ti'n cymharu afal ac oren, cymhariaeth gwbl ddwl

a ddylai diffygion y theori esblygu gael eu dysgu mewn ysgolion, neu ddylai o gael ei ddysgu fel ffaith?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan rooney » Sul 06 Mai 2007 6:27 pm

Cwlcymro a ddywedodd:Ma tri sblitio micro a macro evolution yn dacteg gyffredin gen extremists crefyddol. Ma'n un arall o'i blinkers hoff nhw. Bob tro mae darn o Gristnogaeth (dwin shwr fod on wir am grefydda erill hefyd, ond cristnogaeth dwin gwybod mwy adano) yn cael ei brofi yn anghywir, ma'r efengyls yn ffendio rhyw flincar i beidio goro derbyn y ffaith.

Pan atha ni i'r gofod a edrych lawr i graidd y ddaear mi brofo ni fod na ddim nefoedd na uffern fyny fancw a lawr fandraw. Felly mi symudodd yr efengyls y goalposts a dweud ma rhyw fath o fetaffor oedd y nefoedd ac uffern a fod on bodoli mewn rhyw ddimensiwn arall.

Pan brofwyd fod hi'n amhosib i'r byd fod wedi ei greu mewn 7 diwrnod (pryd yn union oedd oes y deinosoriaid lly?) mi symudwyd y goalposts eto. "Metaffor" oedd 7 diwrnod rwan, go iawn mi oddna filoedd o flynyddoedd rhwng bob "dydd". (Heblaw am yr ecstrimists wrth gwrs, sy dal, riwsut, yn mynnu fod dyn ac anifal wedi cyrradd y byd yr un diwrnod :rolio: )

Rwan ma nhw'n trio gwneud yr un peth efo esblygiad. I ddechra mi oedda nhw'n mynnu fod y peth i gyd yn anwiredd. Wedyn pan brofwyd fod o yn dgwydd (fel efo'r pili palas) mi benderfynno nhw fod na wahaniaeth rhwng micro a macro-evolution, a fod un yn ffaith a'r llall yn ffwlbri.

Ma'n hen bryd i bobl sdopio symyd y goalposts a edrach ar y ffeithia tu ol ir blincars.


mae pa bynnag system addysg chi wedi ei gael wedi eich methu chi yn racs mae gen i ofn.

wrth gwrs fod gwahaniaeth sylfaenol rhwng micro a macro evolution. os ti ddim yn deall hyn, darllen fyny a tyrd nol rywbryd eto
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Dylan » Sul 06 Mai 2007 6:28 pm

rooney a ddywedodd:a ddylai diffygion y theori esblygu gael eu dysgu mewn ysgolion, neu ddylai o gael ei ddysgu fel ffaith?


y broblem ydi bod yr hyn ti'n credu sy'n "ddiffygion" yn y theori yn, wel, ffycin bolycs. Bob un.

mae ymchwil a dadlau'n parhau mewn ambell i faes, ond mewn labordai prifysgol mae'r trafodaethau yna'n digwydd. Mae'r stwff sy'n ddigon sylfaenol i gael ei ddysgu mewn ysgolion yn hollol gadarn.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Dylan » Sul 06 Mai 2007 6:31 pm

rooney a ddywedodd: wrth gwrs fod gwahaniaeth sylfaenol rhwng micro a macro evolution. os ti ddim yn deall hyn, darllen fyny a tyrd nol rywbryd eto


taw mewn difri, ti'n swnio'n hollol hurt.

cyfeiria fi at un papur gwyddonol cyhoeddedig sydd yn honni bod dau fecanwaith gwahanol yn gyfrifol am "feicroesblygiad" ar y naill law a "macroesblygiad" ar y llaw arall. Tyrd. Mae cronfa PubMed yn anferth. Os elli di ddim ffindio unrhyw beth yn y fan honno yna mae 'di canu arnat.

wnei di byth glywed biolegydd proffesiynnol yn gwahaniaethu rhyngddynt
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan rooney » Sul 06 Mai 2007 6:33 pm

ok then, diddanwch fi. Pryd esblygodd dyn o epa?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan rooney » Sul 06 Mai 2007 6:34 pm

Dylan a ddywedodd:
rooney a ddywedodd:a ddylai diffygion y theori esblygu gael eu dysgu mewn ysgolion, neu ddylai o gael ei ddysgu fel ffaith?


y broblem ydi bod yr hyn ti'n credu sy'n "ddiffygion" yn y theori yn, wel, ffycin bolycs. Bob un.


o? oes yna ddim diffygion ac objections i'r theori?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Dylan » Sul 06 Mai 2007 6:37 pm

erm, 'dan ni yn epaod

ond os ei di â changennau teulu simpansîs ar y naill law a phobl ar y llall yn ôl yn ddigon pell, fyddan nhw'n cwrdd 1.7m blynedd yn ôl
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan rooney » Sul 06 Mai 2007 6:38 pm

a beth oedd yr epa yma cyn iddo fod yn epa?
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

Postiogan Mr Gasyth » Sul 06 Mai 2007 6:39 pm

rooney a ddywedodd:ac felly nid yw barn Darren Millar mor hurt ac mae eithafwyr maes-e yn hoffi meddwl, mae'r theori esgblygu yn llawn gwallau ac objections mawr o bob cyfeiriad- gwyddonol, philosophical, crefyddol, hanesyddol... felly pam dysgu rhywbeth fel hyn fel ffaith pan nad yw, a gwrthod cyflwyno'r gwrthwynebiadau a theoriau eraill?


Dim ond gwrthwynebiad gwyddonol sy'n ddilys i ddamcaniaeth wyddonol. Sut ellir gwrthwynebu damcanieth wyddonol yn athronyddol???

Pa wrthwynebiadau gwyddonol wyt ti'n son amdanynt? Wyt ti wedi canof sgerbwd cwningen mewn craig pre-Cambrian yn dy ardd gefn a wedi anghofio deud wrth y byd?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan rooney » Sul 06 Mai 2007 6:39 pm

Dylan a ddywedodd:erm, 'dan ni yn epaod


wyt? bydde hynny'n egluro lot
Rhithffurf defnyddiwr
rooney
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1005
Ymunwyd: Gwe 09 Meh 2006 11:25 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 18 gwestai

cron