rooney a ddywedodd:a ddylai diffygion y theori esblygu gael eu dysgu mewn ysgolion, neu ddylai o gael ei ddysgu fel ffaith?
Mae nhw yn. Yn fy TGAU Bywydeg, yr oedd "creadigaeth" yn cael ei ddysgu. Yr oedd rhaid i mi ddysgu am theori Lamarck a theori Darwin. Wrth gwrs yr oedd rhaid i ni drin a thrafod theoriau y ddau, gan gynnwys edrych ar y data a ddaeth o arbrofion y ddau. Yr oedd theori Lamarck yn ddiffygiol a phrofwyd hyn. Ar y llaw arall mae theori Darwin wedi bod yn cael ei brofi eto ac eto drod 100 mlynedd.
A be di'r sothach ma am be di gwahaniaeth rhwng esblygiad micro a macro? Chi'n gwbad beth yw ystyr y geirie ne?
Y raddfa microsgopic yw beth sy'n wirioneddol digwydd yn ffisegol a'r raddfa macrosgopic yw'r ffordd mwy ymarferol o trin pethau mewn ryw fath o injian neu system. Mewn daearyddiaeth chi ddim am fesur GDP pob person o'r 60 miliwn sy'n byw yn y wlad yma. Chi am cael nhw gyd a gweithio allan GDP cyfartalog. Yn yr un modd gyda atomau a thermodynameg. Fedri di fesur ymddygiad pob atom a gronynnyn ar raddfa microsgopic, ond fyddi di am flynyddoedd yn ceisio eu dilyn i gyd a mesur, felly chi'n trin grwp ohonynt ar raddfa macrosgopic.
Well i rhai ohonach chi fod yn ofalus fan hyn, achos bod person sydd efo gradd mewn geneteg neu wedi neu geneteg yn y prifysgol, yn ein plith. Esblygiad yw y newid o nodweddion anifail neu planhigyn fel ei fod yn fwy addas ar gyfer ei amgylchfyd. Sdim ond angen mynd i'r gym lleol i weld pobol yn ymaerfer gyda phwysau i gynyddu maint eu cyhyrau, eu cryfrder neu stamina - esblygiad yw hyn o ryw fath. Mae esblygiad go iawn yn digwydd pan fo'r wybodaeth mewn cnewyllyn cell yn cael ei newid. Yn syml, esblygiad yw agwedd positif mwtaniaeth geneteg. Yr agwedd negyddol yw cancr neu pethau eraill.
Paid a meiddio beio system addysg y wlad yma na ei fod wedi ein methu. Dwi di llwyddo i ffindio fy hun mewn prifysgol yn astudio ffiseg. Dwi'n meddwl dwi di neud yn reit dda i gyrraedd y fan yma, a dwi'n siwr ymhen flwyddyn neu ddau y byddaf gyda'r sgiliau a'r addysg perthnasol i fod yn gwthio ffiniau gwyddoniaeth ymhellach, gan gynnwys yr offer technegol na ti'n ei weld mewn ysbytai (pelydrau-x [Beibl yn nodi y creodd Duw rhein ], ultrasound, computed tomography, magnetic resonance imaging ac eraill).