rooney a ddywedodd:
Dychmyga ti'n cerdded mewn i ystafell folchi am 10am. Mae tap yn y sinc dripian, ac mae'r sinc bron yn llawn. Yr wyt yn cyfri pa mor aml mae'r dwr yn dripian mewn i'r sinc. Yr wyt yn mesur cyfaint y drop. Yr wyt wedyn yn mesur cyfaint y dwr yn y sinc. Yr wyt yn dod i'r casgliad fod y tap wedi dripian ers 12 awr.
Rwyt yn gadael yr ystafell folchi. Rydw i'n mynd yno 10.15am. Rwyf i hefyd yn syllu ar y tap sydd yn dripian ac yn trio dyfalu ers faint mae wedi bod yn dripian, gyda'r sinc mor llawn. Yr ydw i'n gweld nodyn ar y ffenest. Mae person, sy'n honni fod yn berchennog ar yr ystafell folchi, wedi gadael nodyn yn dweud " Agorais y tap a llenwais y sinc am 9.30am. Nid oedd y tap yn dripian cyn i mi ei agor. Ond ers i mi lenwi'r sinc, gwnes gau y tap ond mae wedi bod yn dripian. Rwyf wedi mynd i nol twls i'w drwsio, fe fydda i'n nol erbyn amser cinio."
Rwyf yn gadael yr ystafell folchi. Ni'n cael sgwrs am y sinc. Rwyt ti'n mynnu fod y tap wedi bod yn dripian ers 12 awr. Rydw i'n mynnu fod y tap wedi bod yn dripian dim ond ers 9.30am, gan mae gen i gofnod llygad dyst gan yr perchennog oedd yno pan ddigwyddodd. Ac os na ti'n credu fi, just disgwyl tan amser cinio... ac fe gei di gwrdd y person oedd yn gyfrifol. Os nad yw'r person yn troi fyny erbyn amser te, wel ni'n dau yn mynd i foddi erbyn hynny beth bynnag oherwydd y tap 'na.
Mae ganddo ni'r un tystiolaeth- y tap, y sinc, cyfaint y dwr, ni'n gweld y tap yn dripian, a'r nodyn. Ond ni'n dod i ddau gasgliad cwbl wahanol. Pam? Yr ydw i'n rhoi ffydd yn y nodyn gan y person oedd yn hawlio i fod yn gyfrifol, ac rydw i'n fwy na parod disgwyl tan amser cinio i gael fy mhrofi'n gywir. Nid wyt ti'n credu'r nodyn rwyf wedi ei ffeindio, rwyt yn ei anwybyddu. Yr wyt yn fy ngwawdio drosodd a drosodd... ond dim ond tan mae'r perchennog yn troi fyny hefo'i twls amser cinio...