Dyma pam na chafodd Darren Millar fy mhleidlais. Yr pedd yn agos iawn i'w gael fel pleidlais tactegol yn erbyn Llafur. Dwi'n sylweddoli wnaeth rhai ei ddyfynnu allan o cyd destun, ond yr eiliad mae rhywun yn sôn am creadigaeth yn y system addysg fel rhan o wyddoniaeth, mi wnai droi yn eich herbyn.
Nifer o Gristnogion dwi'n eu hadnabod mae nhw'n credu yn y Beibl ond yn cyfaddef fod yr oes cyn Abraham yn amwys iawn, a ddim yn siwr beth i'w wneud ohoni. Mae dull alegoriaidd yn cael ei gynnig ynglyn a'r peth.
Awn ni ddim lawr y trywydd ene fan yma.
Tydi creadigaeth neu unrhyw beth arall fel "intelligent creation" ddim yn perthyn i'r pwnc gwyddoniaeth, gan ar y cyfan ei unig ffynhonell yw llyfr sanctaidd. Cadwch creadigaeth at wersi Addysg Grefyddol.
Nonsens llwyr. Mae byd o wahaniaeth rhwng dysgu theoriau a ffeithiau. Theori yw esblygu, a felna dylid ei ddysgu. Nid yw wedi ei brofi o gwbl ac mae llawer iawn o wrthwynebiadau sylfaenol i'r theori. Os am ddysgu theori sydd heb ei brofi yna dylid rhoi darlun cyflawn i'r disgyblion am y dadleuon dros ac yn ei erbyn. Fel arall, chi yn brainwashio plant ac yn honni fod pethau'n ffeithiau pan dyw nhw ddim.
Bydda'n ofalus cyn gwneud honiadau. Mae esblygiad wedi ei brofi, a mae'n digwydd yn ddyddiol; dyma sut profwyd Lamarck yn anghywir gyda'i theori. Mae wedi ei profi gyda sawl enghraifft.