Credo posib i glymblaid enfys?

Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach

Cymedrolwr: Mr Gasyth

Rheolau’r seiat
Newyddion a gwleidyddiaeth Cymru fach. Cofiwch, dim ymosodiadau personol. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

A fydde chi'n derbyn y credo isod fel sail/gweledigaeth i glymblaid enfys?

Byddwn
17
50%
Na Fyddwn
17
50%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 34

Postiogan Cymro13 » Llun 21 Mai 2007 2:51 pm

pads a ddywedodd:
Mr Gasyth a ddywedodd:Sgwnni be sy'n mynd drwy meddyliau 'sosialwyr' amlycaf y Blaid fel Leanne Wood ar hyn o bryd?


Quotes gan gwpl o aelodau blaenllaw yn y Cymoedd:
Leanne Wood:
“The party continues to be involved in bilateral negotiations. Plaid Cymru as a party does not exist merely for the pursuit of political power. If the aim of the party was to get power at any price, there would already be a rainbow Government in Wales. Our prime aim is to secure the best deal possible for the people of Wales.

“The ball, therefore, is most definitely in Rhodri Morgan’s side of the court. Can he come up with a policy programme that deserves the support of Plaid? Whether he has the political conviction or the political authority to deliver is only a matter he and the Labour Party can answer.”

Lindsay Whittle:
“I would like to see more detail of what is being negotiated. I don’t like the Conservatives, and at the moment I’m not in favour of going in with them. I think that’s a widespread view among Plaid members in the Valleys.

“But I accept that coalition politics is the way of the future. On the doorstep during the election campaign, I was struck by the number of people who said they’d like to see the parties working together. In a way that’s what the rainbow coalition is, I suppose. I’ll be going to the National Council meeting in Aberystwyth next Saturday and saying what I think. But a week’s a long time in politics, and things may have changed by then. Perhaps I’ll be persuaded that going into a rainbow coalition is the right thing to do. It’s crucial to know what’s in the programme: the devil, as they say, is in the detail.”



O ran safbwynt Leanne Wood - I fi mae e jyst yn cadarnhau'r ffaith fod pobl dal yn trin Plaid Cymru fel grwp Pwyso a dim Plaid Gwleidyddol go iawn - Beth yw'r pwynt felly sefyll mewn etholiadau os ni jest yn mynd i redeg i ffwrdd pan mae bod yn rhan o lywodraeth yn cael ei gynnig i ni ar blat. Os na all pobl weld hynny falle taw dim yn rhan o Blaid Gwleidyddol yw'r lle iawn iddyn nhw fod
Rhithffurf defnyddiwr
Cymro13
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1279
Ymunwyd: Sad 01 Tach 2003 2:36 pm
Lleoliad: Y Bydysawd

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Llun 21 Mai 2007 3:30 pm

Cymro13 a ddywedodd:O ran safbwynt Leanne Wood - I fi mae e jyst yn cadarnhau'r ffaith fod pobl dal yn trin Plaid Cymru fel grwp Pwyso a dim Plaid Gwleidyddol go iawn - Beth yw'r pwynt felly sefyll mewn etholiadau os ni jest yn mynd i redeg i ffwrdd pan mae bod yn rhan o lywodraeth yn cael ei gynnig i ni ar blat. Os na all pobl weld hynny falle taw dim yn rhan o Blaid Gwleidyddol yw'r lle iawn iddyn nhw fod


Achos bod dim diben mewn grym dim ond er mwyn cael grym.

Mae Alan Pritchard, ymgeisydd y Blaid yn Islwyn, cynghorydd yn Oakdale ers blynyddoedd maith, a chyn-reolwr Pwll Glo Oakdale yn gryf yn erbyn hefyd. Rhag ofn i chi fod mewn penbleth gyda CV o'r fath. :winc:
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan pads » Llun 21 Mai 2007 3:34 pm

If fi, mae'n swnio fel bod y ddau siaradwr yn paratoi'r tir ar gyfer derbyn y clymblaid enfys (hyd yn oed os nad ydyn nhw o blaid).

Cymro13 a ddywedodd: Beth yw'r pwynt felly sefyll mewn etholiadau os ni jest yn mynd i redeg i ffwrdd pan mae bod yn rhan o lywodraeth yn cael ei gynnig i ni ar blat.


Falle na chawn ni gyfle arall. Os dyn ni'n "propio fyny Llafur", y Toriaid bydd "y gwir wrthblaidd", a bydden ni wedyn yn dod yn drydydd iddyn nhw yn 2011. Dim siawns i ni arwain llywodraeth ar ol 'ny.

Mae 'na risg beth bynnag dych chi'n wneud. Mae 'na risg os dych chi'n gweud dim.

Be' fyddwn ni'n difaru'r mwya - arwain llywodraeth neu basio'r cyfle heibio?
Cardiff - a rift in space and time
Rhithffurf defnyddiwr
pads
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 249
Ymunwyd: Sul 16 Maw 2003 9:22 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Rhys Llwyd » Llun 21 Mai 2007 3:50 pm

Gwahanglwyf Dros Grist a ddywedodd:Digon hawdd i ti ddweud "roedd streic y glowyr yn 1985" fel rhywun gafodd ei fagu yn Sir Ddinbych ac sy'n byw yn Aberystwyth, ond mae'n dra gwahanol pan wyt ti'n dal i weld effeithiau hynny genhedlaeth yn ddiweddarach. Clwyfau y'n nhw o hyd, nid creithiau.


GDG, ti'n anghofio fod y Gogledd a'r Gorllewin wedi cael ei anwybyddu ac wedi cael rotten deal o fod ar gyrion ac ar beriffari Gwladwriaeth Imperialaidd erioed.

O leia bo'r cymoedd yn cael peth sylw yn y cyfnodau y bo Llafur mewn yn Llundain ond beth am 100 mlynedd o ddiffyg sylw i weddill Cymru? Bydde ni'n dadlau fod y 100 mlynedd (a mwy) o ddiffyg sylw gan bleidiau Prydeinig i ran helaeth o Gymru yn fwy o issue na rheibiad 15 mlynedd i un rhan o Gymru gan blaid Brydeinig.

Dyfodol y genedl gyfan sy'n bwysig.[/list]
Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys Llwyd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4935
Ymunwyd: Mer 11 Rhag 2002 5:07 pm
Lleoliad: Aberystwyth

Postiogan Cath Ddu » Llun 21 Mai 2007 3:54 pm

Da ni'n byw mewn cyfnod difyr. Dwi'n edrych ymlaen i'r Blaid Geidwadol gael troedle cyntaf mewn llywodraeth o fewn y DU ers 1997 a hynny yng Nghymru. Gwych!
Cath Ddu
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1963
Ymunwyd: Iau 22 Gor 2004 2:23 pm

Postiogan jac » Llun 21 Mai 2007 4:26 pm

Mae pobl yn anghofio un ffaith diddorol yn yr holl drafod yma. Er gwaethaf etholiad gwael i Lafur wnaethant dal eu gafael ar bob sedd yn y cymoedd (ag eithrio Llanelli efalliai, sydd ar gyrion y cymoedd). Ag eto nid oes ganddynt mwyafrif. Felly efallai nid yw'r Cymoedd cweit mor allweddol ag y mae pobl yn tybio.

Llafur yn colli seddi y tu allan i'r cymoedd (megis Aberconwy, Gorllewin Clwyd, Preseli Penfro, Gogledd Caerdydd) sydd wedi rhoi'r cyfle yma i'r glymblaid enfys. Dydw i ddim yn meddwl fod casineb at y Toriaid oherwydd yr hyn a wnaethpwyd gan Thatcher yn ffactor pwysig yn unrhyw un o'r etholaethau yma. Does gan y cymoedd y veto mae pobl yn tybied.
Rhithffurf defnyddiwr
jac
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 171
Ymunwyd: Iau 14 Hyd 2004 2:29 pm

Postiogan Cwlcymro » Llun 21 Mai 2007 5:35 pm

Ma aelodau Caernarfon wedi pledleisio (yn unfrydol o be ddalldish i) dros yr Enfys. Ma aeloda'r Blaid yn Preseli oenfro hefyd yn ol y WM heddiw.

Mae un rhywun sydd yn dweud "na - ai byth i gytundab efo'r Toriaid" yn blincerd iawn iawn. Fel duddodd Whittle - yn y manylion ma'r diawl (ouch, cyfieithiad afiach!). Os ydi'r gytundeb ar Toriaid a'r Libs yn llawn polisiau a ideoleg Bleidiol gryf, fyddai ddigon hapus i fynd mewn i'r fath gytundeb. os ydi'r gytundeb yn un fish-mash, efo cyfran fawr o ideoleg y Toriaid, dwi ddim eisiau mynd mewn iddi.

Mi ddylsai pawb edrych ar y gytundeb cyn barnu mor gryf un ffordd na'r llall. Er cymaint o niwed wnath y Toriaid ddegawd a hanner nol, ddylsai hynnu ddim bod yn "be all to end all" i unrhywun. Be ddigwyddith dros y 4 mlynedd nesaf ydi'r cwestiwn hollbwysig, a manylion y gytundeb ydi'r unig ffordd i fesur hynny.
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan ceribethlem » Llun 21 Mai 2007 6:32 pm

Cwlcymro a ddywedodd: Mae un rhywun sydd yn dweud "na - ai byth i gytundab efo'r Toriaid" yn blincerd iawn iawn. Fel duddodd Whittle - yn y manylion ma'r diawl (ouch, cyfieithiad afiach!). Os ydi'r gytundeb ar Toriaid a'r Libs yn llawn polisiau a ideoleg Bleidiol gryf, fyddai ddigon hapus i fynd mewn i'r fath gytundeb. os ydi'r gytundeb yn un fish-mash, efo cyfran fawr o ideoleg y Toriaid, dwi ddim eisiau mynd mewn iddi.
Bydde'r Toried byth yn fodlon cefnogi clymblaid sy'n llawn polisiau a ideoleg Bleidiol cryf. Bydde disgwyl i'r bLaid i gyfaddawdu llawer iawn o'i hegwyddorion. Yr un peth gyda'r Lib Dems. Mae'r Lib Dems yn gwybod bod jyst digon o seddi gyda nhw i droi pendil i'r naill ochr neu'r llall. Mae hyn yn golygu y bydd angen i'r Blaid cyfaddawdu egwyddorion yn arw er mwyn ceisio cael y darn lleia posib o bwer.
Yr wyf fi o'r farn mai brwydro dros yr egwyddorion cywit sy'n bwysig ac nid eu cyfaddawdu er mwyn cael cyfle bach at rhyw fath o bwer.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Cwlcymro » Llun 21 Mai 2007 7:30 pm

Yna yn lle isda yn fana (a fama) yn dyfalu ideoloeg pwy fydd gryfa mewn cytundeb ac yn gwrthod yr enfys yn barod heb weld y manylion, pam ddim disgwyl tan ganol wythnos i gal gweld. Yn sicr ma'r sibrydion dwi di glwad o'r trafodaetha yn gwneud i fi feddwl ma Pleidiol gryf fyth y gytundeb, a pam ddim?

Y Blaid yw'r Blaid fwyaf yna.

Y Blaid yw'r unig barti o'r 4 sydd wedi cadw ei hopsiynau yn hollol agored rhwng yr enfys a helpu Llafur. Ma'r Libs wedi dewis ei hochr ar eiliad wnaetho nhw hynny mi gollo nhw lot o'i pwer bargeinio. Ma'r Toriaid yn bargeinio o le gwanach na neb, yr Enfys ydy ei unig dewis nhw.

Yn ola, trafod a delio fel hyn ydi cryfder mwyaf IWJ (rhaid bod yn onasd, dim sharad cyhoeddus ydio!) a ma pawb o fewn y Cynulliad yn dweud ei fod o'n well ar hynny na unrhywun arall.

Swni wedi fy synnu, a'n siomi, os na fydd y gytundeb yn un Bleidiol iawn, iawn - i.e. mwyafrif llethol o'r polisiau yn Bleidiol. Os na fydd hi'n ddigonol, mi fyddai'n erbyn yr Enfys, os ydio'n ddigonol, mi fyddai o'i blaid. Ti yn swnio tha dy fod di wedi pre-judgo y cytundeb wrth drio second-guessio be fydd yni. Be am ddisgwyl i weld beth sydd ynddi cyn pasio barn?
Wales? Whales? Do you mean 'da fish, or them singing bastards?
Cwlcymro
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2874
Ymunwyd: Sul 15 Meh 2003 1:12 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan jac » Llun 21 Mai 2007 7:54 pm

Mi faswn i'n meddwl fod hi'n rhwydd iawn i Blaid Cymru cydsynio gyda awydd y Rh Cym am bleidlais gyfrannol mewn etholiadau lleol. Mi fedraf hefyd gweld rhyw fath o gytundeb ar maint dosbarthiadau - yn sicr fase hynny ddim yn pery unrhyw broblem o ran egwyddor i Blaid Cymru.

Y cwestiwn mawr ydy - pa bolisiau y byddai'r Ceidwadwyr am eu gweld yn cael eu gwireddu? Dydw i ddim yn gweld y syniad o roi mwy o ryddid i doctoriaid, a llai o obsesiwn ar targedi yn faen tramgwydd sylfaenol i Blaid Cymru, nac hefyd y syniad o cael gwared o'r loteri cod post.

A dweud y gwir dydw i ddim yn gallu meddwl am unrhyw polisi gan y Toriaid fase'n creu unrhyw broblem sylweddol i Blaid Cymru.
Rhithffurf defnyddiwr
jac
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 171
Ymunwyd: Iau 14 Hyd 2004 2:29 pm

NôlNesaf

Dychwelyd i Materion Cymru

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Bing [Bot] a 25 gwestai